Asesiadau gwasanaeth
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Datblygu cynnig asesu gwasanaethau effeithiol i Gymru a gwella sgiliau pobl i fod yn aseswyr gwasanaethau
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cael gweledigaeth glir ar gyfer asesiadau gwasanaeth a sut y gellir eu ehangu a'u cyflawni
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhestr o wasanaethau i'w hasesu a chanfod aseswyr gwasanaethau ar gyfer y dyfodol
- Cynnal 1 i 2 asesiad a chyhoeddi cofnod blog am yr hyn a ddysgodd yr aseswyr
Chwarter 2
- Uwchsgilio aseswyr wrth weithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer ehangu asesiadau
- Cynnal 1 i 2 asesiad pellach a chyhoeddi cofnod blog
Chwarter 3
- Parhau i weithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer ehangu asesiadau gwasanaethau ledled Cymru
- Cynnal asesiadau ar 1 i 2 o wasanaethau Llywodraeth Cymru a gweithio gyda nhw i gyhoeddi cofnod blog
- Cytuno ar gynllun ar gyfer cynyddu nifer yr aseswyr gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yng Nghymru
Chwarter 4
- Parhau i weithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer ehangu asesiadau gwasanaethau ledled Cymru
- Cynnal asesiadau ar 1 i 2 o wasanaethau Llywodraeth Cymru a gweithio gyda nhw i gyhoeddi cofnod blog
- Dylunio a datblygu adnoddau hyfforddi neu ddysgu i uwchsgilio aseswyr gwasanaeth newydd
Sgiliau a strategaeth y gweithlu
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Parhau i weithredu’r strategaeth gweithlu
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cydweithio â rhanddeiliaid i ddiffinio a phrofi'r galluoedd digidol gofynnol
- Mireinio'r prototeipiau yn seiliedig ar adborth
Chwarter 2
- Dadansoddi'r adborth o'r prototeip
- Datblygu offeryn asesu gallu digidol sy'n hawdd ei ddefnyddio
Chwarter 3
- Lansio beta cyhoeddus o'r Fframwaith Gallu Digidol a'r offeryn asesu, a gwerthuso canlyniadau’r defnydd cynnar ohono
Chwarter 4
- Cyflawni a mireinio'r offeryn asesu yn seiliedig ar adborth
- Defnyddio’r data am brinder sgiliau i flaenoriaethu'r portffolio hyfforddi
Patrymau
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Penderfynu sut y gellir defnyddio a hyrwyddo patrymau a chydrannau sy'n eiddo i'r GDS yng Nghymru
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cyhoeddi cofnod blog
- Cynnal cyfarfod patrymau trawslywodraethol
- Dylunio a phrofi cysyniadau gan ddefnyddio prototeipiau a pharhau gyda phrototeip alffa/beta
Chwarter 2
- Cynnal cysylltiad â thimau systemau dylunio trawslywodraethol a pharhau i ddilyn cyfleoedd i sicrhau bod asedau y gellir eu hailddefnyddio ar gael yng Nghymru
- Gweithio ar draws cymunedau dylunio’r llywodraeth i wella’r patrymau gwasanaeth
Chwarter 3
- Cynnal cysylltiad â’r timau systemau dylunio trawslywodraethol a pharhau i ddilyn y cyfleoedd
- Treialu'r defnydd o batrymau CDPS o fewn gwasanaethau Llywodraeth Cymru
Chwarter 4
- Cynnal cysylltiad â thimau systemau dylunio trawslywodraethol a pharhau i ddilyn cyfleoedd
- Treialu defnyddio patrymau CDPS o fewn gwasanaethau Llywodraeth Cymru
Parthau
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Rheoli gofod enwau a phwyllgor llyw.cymru
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Trosglwyddo'r gwasanaeth parthau i CDPS
Chwarter 2
- Darparu'r gwasanaeth parthau ac archwilio'r cyfleoedd i’w ddatblygu’n y dyfodol
Chwarter 3
- Darparu'r gwasanaeth parthau ac archwilio'r cyfleoedd i’w ddatblygu’n y dyfodol
Chwarter 4
- Darparu'r gwasanaeth parthau ac archwilio'r cyfleoedd i’w ddatblygu’n y dyfodol
- Archwilio sut y gellid defnyddio'r gwasanaeth parthau i wella cydymffurfiaeth â Safon Gwasanaethau Digidol Cymru
Hunaniaeth ddigidol
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Meithrin dealltwriaeth o hunaniaeth ddigidol fel galluogwr ar gyfer gwella gwasanaethau yng Nghymru
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Nodi deunydd digidol Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i'w ychwanegu at yr Hwb Rhannu Digidol
- Hyrwyddo defnyddio safonau, patrymau ac egwyddorion Hunaniaeth Ddigidol Llywodraeth y DU
Chwarter 2
- Nodi deunydd digidol Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i'w ychwanegu at yr Hwb Rhannu Digidol
- Hyrwyddo defnyddio safonau, patrymau ac egwyddorion Hunaniaeth Ddigidol Llywodraeth y DU
- Dadlau achos defnyddio safonau Hunaniaeth Ddigidol drwy gyfrwng Bwrdd Safonau Digidol a Data Cymru
Chwarter 3
- Rhannu astudiaethau achos ar ddefnyddio Hunaniaeth Ddigidol, gyda ffocws ar ddefnydd Llywodraeth Cymru o wasanaeth One Login Llywodraeth y DU a'r manteision y gall Hunaniaeth Ddigidol ei darparu.
Chwarter 4
- Rhannu astudiaethau achos ar ddefnyddio Hunaniaeth Ddigidol, gyda ffocws ar ddefnydd Llywodraeth Cymru o wasanaeth One Login Llywodraeth y DU a'r manteision y gall Hunaniaeth Ddigidol ei darparu.
Hyfforddiant Arweinyddiaeth Ddigidol i Uwch Weision Sifil
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Datblygu a chyflwyno Rhaglen Hyfforddiant Arweinyddiaeth Ddigidol i Uwch Weision Sifil
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cynnal ymchwil i ddeall bylchau sgiliau a nodi meysydd i’w blaenoriaethu
- Diffinio'r gofynion ar gyfer y rhaglen a sefydlu metrigau sylfaenol
Chwarter 2
- Lansio'r fersiwn beta a defnyddio'r adborth i ddilysu'r cynnwys
- Datblygu a phrofi'r model gwerthuso a recriwtio mynychwyr
Chwarter 3
- Darparu'r rhaglen ddysgu i garfan sylweddol, casglu adborth, ac olrhain sut mae dysgu yn digwydd yn y gweithle
Chwarter 4
- Gwerthuso’r hyfforddiant wrth fireinio ac addasu'r cynnwys
- Datblygu'r calendr ar gyfer y 12 i 18 mis nesaf