Symleiddio Budd-daliadau Cymru
Canlyniadau ar gyfer 2025/26
- Gwell profiad defnyddiwr
- Gwell integreiddio data
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Gweithredu’r grŵp llywio a chefnogi cyflawni’r prosiect tracio teuluoedd incwm isel (LIFT)
- Gweithio gydag awdurdodau lleol ar y prosiect braenaru Budd-daliadau i brofi'r prototeip a'r dyluniad
- Adnabod grwpiau ymchwil a dull o recriwtio
Chwarter 2
- Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT
- Os yw'r prototeip yn llwyddiannus, gwerthuso a nodi’r prosesau sydd eu hangen ar bob awdurdod lleol i weithredu
- Cydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi'r newid i weithredu'n fyw gan sicrhau cyfranogiad y defnyddwyr terfynol
- Cynnal ymchwil cynradd ac eilaidd
Chwarter 3
- Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT
- Adrodd ar y canfyddiadau
- Dylunio’r dull adborth
- Adolygu ac ymateb i’r anghenion braenaru
Chwarter 4
- Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT
- Adolygu ac ymateb i’r anghenion braenaru
Cynllunio
Canlyniadau ar gyfer 2025/26
- Gwelliant i ddyluniad gwasanaethau cynllunio
- Mae timau'n caffael sgiliau digidol newydd
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Dechrau mapio gwasanaethau cynllunio o'r dechrau i'r diwedd
- Deall y dirwedd ddata ar gyfer gwasanaethau cynllunio
- Dylunio’r cynnwys dwyieithog sy’n flaenoriaeth
- Nodi’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n bwysig gweithio â nhw i ddylunio’r broses cyn ymgeisio
- Diffinio canlyniadau'r hyfforddiant
Chwarter 2
- Cynnal profion defnyddioldeb, gwella’r meysydd dylunio cychwynnol ac archwilio’r daith o un pen i’r llall
- Dylunio'r ddarpariaeth hyfforddiant electronig a chynllunio ar gyfer ei darparu
Chwarter 3
- Nodi meysydd ar gyfer gwella cynnwys a datblygu’r prototeip ar gyfer adborth gan randdeiliaid.
- Darparu hyfforddiant cychwynnol
Chwarter 4
- Symud ymlaen gyda dylunio’r cynnwys ehangach a pharhau i brofi a gwella’n barhaus
- Darparu’r ail rownd o hyfforddiant
Niwrowahaniaeth
Canlyniadau ar gyfer 2025/26
- Adnabod y cyfleoedd i leihau amseroedd aros
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cwblhau’r cyfnod Alffa ac adrodd ar ei argymhellion a'i ddefnyddioldeb
Chwarter 2
- Cwblhau arbrofi gyda’r offer AI ar y cyd â’r byrddau iechyd
- Sefydlu dull cymunedol o rannu a dysgu
- Archwilio ac ymchwilio i’r dechnoleg bresennol a nodi'r cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd o fewn bwrdd iechyd