Mae ein map ffordd yn amlinellu'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni yn 2025/26, ynghyd â'r gweithgaredd y byddwn yn canolbwyntio arno bob chwarter i gyflawni'r canlyniadau hyn.

Byddwn yn canolbwyntio ar dri maes:

  • Gwaith traws-sector cyhoeddus: safonau, llawlyfr gwasanaeth, asesiadau gwasanaeth, digwyddiadau arweinyddiaeth, cymunedau ymarfer a meithrin gallu
  • Cyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog (ar hyn o bryd, ond heb fod yn gyfyngedig i, cynllunio, niwroamrywiaeth a budd-daliadau)
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hagenda digidol (gan gynnwys cynnal hyfforddiant i uwch weision sifil a rheoli parthau llywodraeth Cymru)

Mae'r map ffordd yn atodiad i'n Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025/26.