Y Llawlyfr Gwasanaeth
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Parhau i ddatblygu'r Llawlyfr Gwasanaeth
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Archwilio sut y gallwn ddatblygu'r Llawlyfr Gwasanaeth gyda ffocws ar ailddefnyddio a chyfeirio at gynnwys ac arfer gorau sy’n bodoli
- Cyhoeddi cynnwys yn y llawlyfr gwasanaeth am ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a dylunio dwyieithog, a hyrwyddo cynnwys presennol y Llawlyfr Gwasanaeth.
Chwarter 2
- Ehangu'r llawlyfr gwasanaeth drwy ychwanegu neu gyfeirio at y cynnwys presennol a'r arfer gorau a nodwyd yn Chwarter 1 a datblygu cynllun cyfathrebu ar gyfer ei hyrwyddo
Chwarter 3
- Creu a chyhoeddi cynnwys newydd, gwreiddiol i'r Llawlyfr Gwasanaeth, gan lenwi unrhyw fylchau mewn cynnwys neu gyfeiriadau presennol.
- Cyfleu manteision defnyddio'r Llawlyfr Gwasanaeth drwy ei hyrwyddo a chreu astudiaethau achos
Chwarter 4
- Mae gan y llawlyfr gwasanaeth gynnwys sy'n cefnogi pobl i fodloni pob un o 12 pwynt Safon Gwasanaethau Digidol Cymru.
- Mae cynllun ar gyfer rheoli’r Llawlyfr Gwasanaeth yn barhaus a’i ddatblygu yn y dyfodol.
- Mae pobl ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymwybodol o'r Llawlyfr Gwasanaeth ac yn ei ddefnyddio
Bwrdd Safonau Digidol a Data Cymru
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Cynnull y Bwrdd i gymeradwyo safonau priodol a hyrwyddo'r safonau a gymeradwywyd
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Ailenwi'r Grŵp a phenodi cadeirydd newydd
- Adolygu'r cylch gorchwyl a'r prosesau llywodraethu
- Cymeradwyo 3 i 5 safon briodol a hyrwyddo safonau newydd ynghyd â’r rhai sy'n bodoli eisoes. Datblygu a chyhoeddi rhestr o safonau i'w hystyried.
Chwarter 2
- Cefnogi 2 i 3 safon a'u hyrwyddo
- Datblygu proses barhaus ar gyfer adolygu a diweddaru safonau cymeradwy
Chwarter 3
- Cefnogi 2 i 3 safon a'u hyrwyddo trwy gyfrwng astudiaethau achos
Chwarter 4
- Cefnogi 2 i 3 safon a'u hyrwyddo trwy gyfrwng astudiaethau achos
Hyfforddiant arweinyddiaeth
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Cyflwyno a throsglwyddo'r Rhaglen Hyfforddi Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern o fod yn nwylo cyflenwr i fod yn fewnol
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cwblhau Carfan 2
- Defnyddio adborth i fireinio'r rhaglen a pharatoi ar gyfer y newid fel bod CDPS yn ei ddarparu
Chwarter 2
- Cwblhau'r paratoadau ar gyfer darparu’r cwrs dan arweiniad CDPS
Chwarter 3
- Darparu Carfan 3 mewn cydweithrediad â'r cyflenwr, gwerthuso a gwella
Chwarter 4
- Darparu Carfan 4 dan arweiniad CDPS a chyhoeddi cofnod blog
Arweinyddiaeth AI
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Mae Grŵp Arweinyddiaeth AI Cymru yn cael ei gynnull gan CDPS ac mae'n goruchwylio cydweithio pellach ynghylch defnyddio AI, gan gynnwys datblygu rhestr o hyfforddiant AI perthnasol ar gyfer y sector a chofrestr o weithgarwch.
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Creu grŵp llywio, adolygu a chynnull cynnwys hyfforddi AI yn barod i'w hyrwyddo a'i ddefnyddio ar wefan CDPS a’r Hwb Rhannu Digidol
Chwarter 2
- Argymell mabwysiadu safon AI
- Rhannwch gynnwys hyfforddiant AI gyda rhanddeiliaid ac aseswch adborth defnyddwyr
Chwarter 3
- Argymell ac adrodd ar fabwysiadu safon AI. Mireinio cynnwys hyfforddiant AI ac archwilio cyfleoedd i'w ehangu
Chwarter 4
- Argymell ac adrodd ar fabwysiadu safon AI. Parhau i hyrwyddo cynnwys hyfforddiant AI wrth fonitro ac adrodd
Hwb Rhannu Digidol
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Bwrw ati i rannu ac annog y sector cyhoeddus i rannu profiadau a chyfleoedd dysgu, a hyrwyddo arfer gorau
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Sefydlu cysylltiadau rhwng gwefan CDPS a’r Hwb
- Lansio ymgyrch gyfathrebu 12 mis
- Diffinio a chadw golwg ar fetrigau
Chwarter 2
- Monitro a chynnal yr Hwb Rhannu Digidol a monitro gweithgaredd hwb AI GDS ar yr un pryd am gyfleoedd i groesgyfeirio
- Parhau â'r ymgyrch gyfathrebu
Chwarter 3
- Gwerthuso'i ddefnydd a gwella’n seiliedig ar yr hyn a ddysgwn
- Lansio ymgyrch gyfathrebu wedi'i hadnewyddu
Chwarter 4
- Cynnal yr Hwb a pharhau i adrodd ar fetrigau allweddol
Hyfforddiant digidol ehangach
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Rhaglenni hyfforddi wedi'u targedu ar gyfer y sector
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Parhau i ddarparu’r rhaglenni presennol
Chwarter 2
- Asesu’r galw am y cyrsiau presennol a’u heffaith a mireinio portffolio sy'n canolbwyntio ar feysydd sydd ag effaith uchel
Chwarter 3
- Cynyddu'r pwyslais ar raglenni hyfforddi arweinyddiaeth a gweithio gyda thimau i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu gweithredu'n effeithiol
Chwarter 4
- Cynnal asesiad o anghenion a datblygu cynllun ar gyfer rhaglenni hyfforddi yn y dyfodol
Cymunedau ymarfer
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Parhau i yrru a hyrwyddo cymunedau ymarfer
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cynnal cymunedau ymarfer (BAU)
- Uno cymunedau Dylunio Gwasanaethau Cymru a Dylunio Profiadau Digidol
- Sefydlu Grŵp Data Technegol
Chwarter 2
- Cynnal cymunedau ymarfer (BAU)
- Dod â chymunedau ynghyd ar gyfer sesiwn wyneb-yn wyneb
Chwarter 3
- Cynnal cymunedau ymarfer (BAU)
- Cynnal cyfarfod ar gyfer yr arweinwyr digidol fu’n rhan o hyfforddiant Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern
Chwarter 4
- Cynnal cymunedau ymarfer (BAU)
Digwyddiadau arweinyddiaeth a rhwydweithio
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau arweinyddiaeth/rhwydweithio gyda rhaglen barhaus
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Rhedeg Dolenni Digidol yng ngorllewin a gogledd Cymru
Chwarter 2
- Rhedeg Dolenni Digidol yng Nghaerdydd a gorllewin Cymru
- Cynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod
- Cymryd rhan yn y grŵp trawsbleidiol ar gyfer digidol
Chwarter 3
- Cefnogi GovCamp Cymru
- Cynnal digwyddiad Dolenni Digidol yng ngogledd Cymru a chymryd rhan yn Wythnos Technoleg Cymru
- Cymryd rhan yn y grŵp trawsbleidiol ar gyfer digidol
Chwarter 4
- Cynnal Uwchgynhadledd Arweinwyr Digidol
- Cymryd rhan yn y grŵp trawsbleidiol ar gyfer digidol
Tech Sero Net
Canlyniadau ar gyfer 2025/26:
- Adolygu'r darganfyddiad a chytuno â'r Gweithgor pa 2 i 3 eitem i'w symud ymlaen yn y flwyddyn ariannol hon
Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26
Chwarter 1
- Cynnal cyfarfod pennu cwmpas gyda Llywodraeth Cymru ym mis Mai
Chwarter 2
- Yn ddibynnol ar y cyfarfod pennu cwmpas
Chwarter 3
- Yn ddibynnol ar y cyfarfod pennu cwmpas
Chwarter 4
- Thema ar draws gwasanaethau ar ddylunio cynaliadwy