Pan ddechreuais fy mhrosiect cyntaf yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ym mis Ionawr 2023, cefais gyfle i ddiffinio ein dull gweithredu a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a gwneud cyfieithwyr yn fwy o ran mewn gwaith dylunio cynnwys.

Amcan y prosiect oedd archwilio ffyrdd o weithio gydag awdurdodau lleol i wella  gwasanaethau sydd ar gael yn ddwyieithog yng nghyd-destun cymorth costau byw – y Grant Hanfodion Ysgol yn gyntaf, a’r grant Prydau Ysgol am Ddim wedi hynny.

Yn flaenorol, roeddwn wedi ceisio cynnwys cyfieithydd yn fy ngwaith mewn sefydliadau eraill, a chydweithio â hwy. Ro'n i wedi treulio amser yn meithrin perthynas dda gyda'r tîm cyfieithu, ond erioed wedi llwyddo.

Bu'r tîm cyfieithu yn gweithio mewn seilo, trwy gyfrif geiriau ac o dan bwysau, gan fynd trwy’r gwaith darn wrth ddarn, fesul ‘cais’ fel petai. Roedd hyn yn golygu y gallai gwaith cyfieithu ddod o unrhyw le yn y sefydliad, felly cafodd pob ymgais i geisio gweithio mewn ffordd wahanol ei sianelu'n ôl i'r broses arferol.

Cyfieithu yn y sector cyhoeddus

Mae cyfieithwyr yn bobl brysur. Mae ganddynt swydd hanfodol yn sector cyhoeddus cenedl ddwyieithog.

Ond dw i wastad wedi cydymdeimlo â hwy.

Yn fy mhrofiad i, mae disgwyl yn aml iddynt wneud eu gwaith trwy gyfrif geiriau, gydag adnoddau cyfyngedig a therfynau amser tynn - heb gyd-destun na'r cyfle i ofyn am eglurhad.

Mae cyfieithu yn aml yn cael ei ystyried ar ddiwedd unrhyw broses.

Yn gyffredinol, mae safbwyntiau ar ieithoedd yn gyfyngedig ac yn simplistig, ac nid oes llawer o bobl yn deall sut mae'n gweithio i gyfieithu ystyr o un iaith i'r llall.

Gall diffyg dealltwriaeth ynghylch rôl cyfieithwyr fod yn rhwystr i sefydliadau sy'n eu hatal rhag gallu darparu gwasanaethau a gwybodaeth yn ddidrafferth.

Felly pan gefais y cyfle yn CDPS, roeddwn yn awyddus i weithio'n uniongyrchol gyda chyfieithwyr.

Yn flaenorol rwyf wedi mwynhau defnyddio techneg adnabyddus o'r enw ysgrifennu pâr i ddylunio cynnwys gydag arbenigwyr pwnc. Yn ystod y prosiect costau byw, adeiladais ar hyn trwy gynnwys y cyfieithydd yn y sesiynau hyn, gan ei droi'n ysgrifennu triawd.

Gweithiodd ysgrifennu triawd yn dda iawn i ni yn y cyd-destun hwn. Roedd yn gwella ansawdd a hygyrchedd ein cynnwys yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ond nid yw ysgrifennu triawd yn ateb pob galw oherwydd nid yw'r holl gynnwys yn cael ei greu yn gyfartal.

Yn ogystal â bodloni anghenion defnyddwyr, mae cynnwys wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion sefydliadol hefyd. Ac fe'i datblygir yng nghyd-destun unigryw'r sefydliad: ei strwythur, pobl, diwylliant, rolau, sgiliau, adnoddau, prosesau a chyfyngiadau.

Ni ellir ac ni ddylid defnyddio ysgrifennu triawd ym mhob achos, pob tro: nid yn unig mae'n anymarferol ond hefyd yn ddiangen.

Dysgwch fwy am gynhyrchu cynnwys dwyieithog drwy ysgrifennu triawd.

Ffyrdd eraill o gynnwys cyfieithwyr yn eich gwaith

Eleni, rydym yn brysur yn gweithio ar MVP (isafswm cynnyrch hyfyw) ein llawlyfr gwasanaeth, sy'n ceisio rhoi gwybodaeth i sefydliadau yng Nghymru i’w helpu i fodloni  Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.

Wrth ddatblygu'r cynnwys hwn, rwyf wedi cymryd rhan a gweithio gyda chyfieithydd ac ymarferwyr eraill mewn gwahanol ffyrdd i gyd-fynd â'n hanghenion. Dyma rai enghreifftiau diweddar:

  1. golygu triawd
  2. adolygu cynnwys gydag arbenigwyr pwnc
  3. creu prototeip dwyieithog

Beth bynnag fo'ch rôl, gobeithio y bydd y rhain yn rhoi syniadau i chi am ffyrdd eraill o gydweithio â chyfieithwyr.

1. Golygu triawd

Gan ein bod yn llunio dau ddarn o gynnwys, trefnwyd beirniadu cynnwys gyda'r gymuned CDPS ehangach. Fe wnaethon ni ei alw'n 'Dangos y peth' gan ei fod yn gyfle i egluro, dangos yr hyn yr oeddem yn ei ddylunio, a chael adborth.

Ar ôl casglu adborth, gweithiais gyda'r dylunydd gwasanaeth a'r cyfieithydd i adolygu a golygu'r cynnwys gyda'i gilydd, a thrafod unrhyw beth a allai fod yn broblem wrth ei gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Roedd cael dau siaradwr Cymraeg yn y sesiwn yn ein galluogi i drafod naws y cynnwys er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy yn y ddwy iaith.

Gan weithio gyda'n gilydd, fe wnaethom fireinio'r cynnwys yn seiliedig ar yr adborth yn effeithiol, ac roedd gan y cyfieithydd ddigon o gyd-destun i'w gyfieithu'n gyflym.

2. Adolygu cynnwys gydag arbenigwyr pwnc

Rydym wedi blaenoriaethu gweithio ar feysydd y safon gwasanaeth sy'n unigryw i Gymru. Y cyntaf yw gwybodaeth am gynnal ymchwil i ddefnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg.

Mae hwn yn arfer eithaf newydd yng Nghymru, felly does dim llawer o ganllawiau ar gael.

Felly, rydym am iddi fod yn ymdrech gymunedol. Rydym wedi gweithio gyda'r tîm sy'n rhedeg cymuned ymarfer ymchwil defnyddwyr yng Nghymru i gyd-ddylunio cyfres o ystyriaethau wrth gynnal ymchwil i ddefnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg.

Er mwyn ei gynhyrchu, fe wnaethom helpu'r tîm i ddylunio a hwyluso sesiwn bersonol gyda'r gymuned ymchwil defnyddwyr yng Nghymru i gasglu syniadau a phrofiadau pobl. Ar ôl i ni gasglu a dadansoddi'r holl wybodaeth a mewnwelediadau digonol gan y gymuned, roedd hi'n bryd ei droi yn ganllawiau.

Cynhaliais sesiynau adolygu i gasglu adborth ar ddrafftiau, a gwahoddais y cyfieithydd i ymuno â ni. Byddai hyn yn rhoi cyd-destun iddynt, yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau, a chodi unrhyw faterion a allai fod yn broblem o ran y cyfieithu.

Ar ôl y sesiwn hon, gallai'r cyfieithydd gyfieithu gyda'r hyder eu bod yn deall yr hyn yr oeddem yn ceisio ei gyfathrebu a pham.

3. Prototeip dwyieithog

Wrth i ni fynd ati i brofi cynnwys y canllaw gwasanaeth ar ffurf prototeip, roedd angen cymorth cyfieithu cyflym arnom yr oedd modd ei addasu ar gyfer gwahanol elfennau. Er enghraifft, botymau, cais i weithredu, a dewislenni.

Yn hytrach nag anfon y cynnwys at y cyfieithydd heb gyd-destun, gwahoddais hwy i ymuno â'r dylunydd rhyngweithio a minnau i weithio gyda’n gilydd yn uniongyrchol ar y prototeip.

Er mai dyma'r tro cyntaf i'r cyfieithydd ddefnyddio Figma, fe wnaethant ddysgu'n gyflym sut i’w ddefnyddio, gan fynd ati i gyfieithu wrth drafod y newidiadau gyda ni. Roedd yn ddefnyddiol ein bod oll yn gallu gweld y cynnwys ar waith.

Manteision cynnwys cyfieithwyr yn gynnar ac yn aml

Yn ogystal â dylunio cynnwys oedd yn addas iawn ar gyfer arbrofi, mae manteision eraill o weithio'n agos gyda chyfieithydd, gan gynnwys:

  • bod yn fwy effeithlon
  • bod yn fwy ymatebol ac ystwyth
  • cael gwell dealltwriaeth am y cyd-destun
  • cael mwy o berchnogaeth

Bod yn fwy effeithlon

Trwy weithio'n agos gyda'n gilydd, gwnaethom symleiddio llifoedd a phrosesau gwaith - arbedwyd camau, amser a gwaith trwy leihau'r angen am drosglwyddo fersiynau yn ol ac ymlaen sy’n gallu arafu cynnydd.

Bod yn fwy ymatebol ac ystwyth

Roedd cynnwys cyfieithwyr yn gynnar ac yn aml a chydweithio yn golygu bod angen llai o gyfarfodydd arnom a chael sesiynau gwaith mwy cynhyrchiol lle gallem wneud penderfyniadau ymarferol ac addasu'n gyflym.

Gwell dealltwriaeth o’r cyd-destun

Roedd cymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch yr wybodaeth a gweld y cynnwys yn ei gyd-destun yn helpu'r cyfieithydd i ddeall yr hyn yr oeddem yn ei gyfathrebu a pham, gan roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chodi materion posibl yn gynnar.

Yn ei dro, mae hyn yn gwneud y broses gyfieithu yn haws ac yn gyflymach i'r cyfieithydd.

Cael mwy o berchnogaeth

Roedd y cyfieithydd yn gwerthfawrogi bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, yn teimlo mwy o reolaeth a pherchnogaeth dros y cynnwys fel aelod o dîm o gyd-awduron.

Casgliad

Wrth i ni symud ymlaen gyda'r llawlyfr gwasanaeth, byddwn yn parhau i archwilio ac arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o gynnwys a gweithio gyda chyfieithwyr sy'n dod â'r gwerth mwyaf i ni a'r defnyddiwr terfynol.

Mae cynnwys y cyfieithydd yn gynnar ac yn aml wedi ein galluogi i ystyried y ddwy iaith yn gyfartal o'r dechrau, rhoi’r gallu i ni addasu a gweithio mewn dull ystwyth, ac - yn ôl y defnyddwyr a brofodd y cynnwys - cynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae’n bwysig nodi y gwnaeth ein helpu i ymgorffori'r cyfieithydd (a'r Gymraeg) fel rhan fwy gweithgar ac annatod o'n tîm a'n prosiect, a rhoi cyfle iddyn nhw fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau fel cyd-awdur llawlyfr y gwasanaeth.

Mae wedi gwneud ein ffyrdd o weithio'n fwy cydweithredol a chynhwysol.

Cymryd rhan

Rydym yn siarad â phobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i brofi ein llawlyfr gwasanaeth a deall yn well sut y gallwn eu cefnogi.

Os hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch standards@digitalpublicservices.gov.wales.

Byddwn mewn cysylltiad eto’n fuan!