Gan weithio gyda thîm niwrowahaniaeth ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru, gwnaethom gynnal 12 wythnos o gyfnod darganfod yn archwilio sut i gefnogi'r rhai sy'n aros am atgyfeiriad neu asesiad niwrowahaniaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r amseroedd aros yn faith i unigolion sy'n aros am asesiadau ar gyfer cyflyrau yr amheuir bod cyflwr niwrowahanol arnynt ac mae bylchau wedi'u nodi yn y gefnogaeth a'r wybodaeth a gânt wrth aros am asesiad.

Yn seiliedig ar ein map o'r gwasanaeth presennol, gwnaethom nodi 3 grŵp defnyddwyr ar gyfer ein hymchwil:

  • gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r gwasanaeth atgyfeirio ac asesu niwrowahanol
  • rhieni neu warcheidwaid pobl ifanc a phlant niwrowahanol
  • oedolion niwrowahanol

Effaith

Mae'n rhy gynnar i weld rhywfaint o'r effaith gan mai ond newydd ddod i ben mae'r cyfnod darganfod. Ond, roedd casglu tystiolaeth sylweddol y gallai cynnyrch digidol sy'n casglu gwybodaeth ddarparu set o atebion i helpu'r rhai sy'n aros am atgyfeiriad neu asesiad niwrowahaniaeth i gael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Argymhellion

Ein prif argymhelliad yw cynnal sesiwn alffa (rhoi cynnig ar wahanol atebion i'r broblem a nodwyd gennym yn ystod y cam darganfod) ar gasglu gwybodaeth ddigidol. Byddai hyn yn:

  • profi'r rhagdybiaethau mwyaf peryglus o'r dull hwn
  • deall anghenion defnyddwyr mwy manwl a diffinio lleiafswm gofynion cynnyrch hyfyw
  • archwilio gwahanol atebion i'r gofynion hyn, gan gynnwys sut i sicrhau bod y cynnyrch yn hygyrch ac yn ddwyieithog
  • archwilio a deall yr heriau sy'n ymwneud â llywodraethu gwybodaeth, caniatâd a chytuno ar rannu gwybodaeth
  • nodi'r ffordd gorau i roi'r cynnyrch ar waith, er enghraifft, p'un ai fyddai orau i'w adeiladu, ei brynu neu gymysgedd o'r ddau, lle byddech chi'n gweithio gyda chyflenwr i addasu'r cynnyrch presennol
  • gwell dealltwriaeth o ganlyniadau ymgorffori'r cynnyrch hwn yn y gwasanaeth ehangach, a sut i sicrhau ei fod yn cyfrannu at wneud y gwasanaeth cyffredinol yn fwy cydgysylltiedig
  • ystyried sut i gefnogi'r rhai a fydd yn ei chael hi'n anoddach cael gafael ar wybodaeth neu ei chasglu yn ddigidol

Ein hargymhelliad eilaidd yw cynnal proses alffa gan ddefnyddio adnoddau canolog a storfa o gefnogaeth.

O ran defnyddio storfa adnoddau a chymorth ganolog, mae'n rhaid bod naill ai'r defnyddiwr neu weithiwr proffesiynol sy'n eu cefnogi yn deall eu hanghenion eu hunain ac yn eu hatgyfeirio at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Roedd y rhieni a'r oedolion y buom ni'n siarad â hwy o'r farn nad yw darpariaeth neu’r cyfle i gael eu hatgyfeirio at wybodaeth ar gael – disgrifiodd pob un ohonynt eu bod hwy'n gorfod dod o hyd i adnoddau a chefnogaeth eu hunain gan ddweud bod hyn yn heriol. Mae hyn yn dangos bod bwlch mewn ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ar gael, yn ogystal â diffyg cyfeirio cyson gan y gweithwyr proffesiynol y mae pobl niwrowahanol yn cwrdd â hwy.

Rydym yn argymell cynnal sesiwn alffa er mwyn:

  • profi gwerth y cysyniad hwn yn ogystal â'r rhagdybiaethau mwyaf peryglus
  • archwilio ffyrdd o ddod o hyd i a dilysu cynnwys dwyieithog mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch
  • archwilio sganio gorwelion ar gyfer cynnwys newydd a sicrhau bod cynnwys presennol yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd
  • archwilio cynnal cyfeirlyfrau cymorth cenedlaethol a lleol
  • archwilio model sy'n cynnwys catalogio a chyfeirio defnyddwyr at adnoddau ar-lein o ansawdd sy'n bodoli eisoes, gan osgoi dyblygu, ochr yn ochr â chynnwys a grëwyd neu a gyd-gynhyrchwyd gan wasanaethau niwrowahaniaeth

Rydym hefyd yn argymell cynnal ymchwil pellach i gynhyrchion proffilio digidol. Gall cynhyrchion proffilio digidol gynnig ateb i hyn a gallant chwarae rôl wrth leihau'r galw am asesiadau. Fodd bynnag, dim ond mewnwelediad cyfyngedig a lwyddon ni i gasglu i'r cysyniad hwn yn ystod y cyfnod darganfod. Rydym yn argymell cynnal ymchwil pellach i lywio'r cysyniad hwn yn well.

Gair gan Sian, Rheolwr Rhaglen Niwrowahaniaeth, ac Einir, Uwch Reolwr Niwrowahaniaeth, yn Llywodraeth Cymru am yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma:

Sut mae gweithio mewn ffordd ystwyth wedi helpu'r prosiect hwn?

Rwy'n credu bod gweithio mewn ffordd ystwyth wedi gwneud y prosiect hwn yn llawer mwy effeithlon nag y byddai wedi bod fel arall. Mae'r rhan fwyaf o bobl bellach wedi arfer defnyddio llwyfannau rhithwir, felly mae hyn wedi gwneud ymchwil defnyddwyr yn llawer mwy amserol ac wedi osgoi'r angen i unrhyw un deithio, gan arbed amser, treuliau ac mae'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. Mae wedi galluogi dal i fyny'n rheolaidd; fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl wyneb yn wyneb. Yn aml, dim ond cyfarfod 20 munud oedd ei angen arnom i egluro unrhyw broblemau, cytuno ar ffordd ymlaen ac i ddiweddaru cynnydd. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl pe bai angen i ni wneud hynny wyneb yn wyneb. Roedd cwrdd ar-lein yn haws nag anfon llawer o negeseuon e-bost yn ôl ac ymlaen ar faterion a diweddariadau.

Roedd defnyddio dull gweithio ystwyth yn gwneud y tîm yn fwy hygyrch i ni. Roedd hyn yn amhrisiadwy er mwyn dal i fyny yn sydyn ‘rhwng cyfarfodydd’. Roedd hefyd yn addas i lawer o'n grŵp cleientiaid lle gallai cyfarfodydd ‘wyneb yn wyneb’ fod wedi'i llethu neu o ran ymgynghoriadau amserol â gweithwyr proffesiynol sydd â llwyth gwaith prysur.

Beth ydych chi'n fwyaf balch ohono am yr hyn a gyflawnwyd?

Mae'r canlyniadau wedi atgyfnerthu yr hyn yr oeddem ni'n ei dybied ar y dechrau, felly, erbyn hyn, mae gennym y dystiolaeth sydd ei hangen arnom i roi'r camau nesaf ar waith. Fe wnaethom greu cysylltiadau gwaith da iawn gyda'r tîm rhithwir; roeddent yn hawdd eu cyrraedd, yn wybodus ac yn hyblyg yn y ffordd yr oeddent yn gweithio.

Beth oedd manteision gweithio gyda CDPS?

Mae'r ffaith bod gan CDPS gymaint o gapasiti yn fanteisiol iawn. Cyflawnwyd y prosiect hwn mewn 3 mis. Pe bai angen i ni ei gwblhau fel rhan o'n gwaith pob dydd, byddai wedi cymryd blynyddoedd. Mae gan CDPS y gallu i weithio'n ddwys a chyda ffocws yn unig ar y prosiect i'w gyflawni mewn modd amserol a chydlynol.

Mantais arall yw'r arbenigedd sydd gan CDPS o ran y materion digidol sy'n faes y tu hwnt i'n harbenigedd ni. Eto, roedd yn allweddol i lwyddiant trawsnewid gwasanaethau niwrowahaniaeth.

Un fantais arall yw'r gwrthrychedd a ddaw wrth weithio gyda CDPS, sefydliad ar wahân sy'n adolygu'r maes gwaith yn wrthrychol, ymgymryd â'r ymchwil, gwneud synnwyr ohono heb wybodaeth flaenorol a gwneud argymhellion gwrthrychol yn seiliedig ar ganfyddiadau, yn enwedig o safbwynt defnyddiwr. Roedd y gwrthrychedd hefyd yn ddefnyddiol i gael y gorau o'r defnyddwyr hynny oedd yn cymryd rhan yn y prosect - roedden nhw'n gallu bod bod yn agored ac yn onest gydag ymchwilwyr annibynnol.

Un fantais arall yw fy mod wedi dysgu llawer wy am reoli prosiectau, ymchwil a dadansoddi thematig - byddaf yn ymgorffori'r dysgu newydd hwn mewn prosiectau eraill.

Y camau nesaf

Rydym wedi rhannu ein hadroddiad darganfod a'n hargymhellion gyda thîm niwrowahaniaeth ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru. Bydd CDPS yn cwrdd â'r tîm i drafod sut y gallem ddarparu cymorth yn y dyfodol yn dibynnu ar yr argymhellion y bydda nhw'n penderfynu eu datblygu.

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym meysydd digidol, data a thechnoleg.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang