Camau Ystwyth
Darganfod
Mae darganfod yn ymwneud â deall problem cyn ymrwymo i adeiladu gwasanaeth i’w datrys.
Mae’n cynnwys dysgu am eich defnyddwyr a’r hyn y maent am ei wneud, pa gyfyngiadau y gallech fod yn eu hwynebu a’r cyfleoedd i wella sut mae pethau’n cael eu darparu heddiw.
Alffa
Mae Alffa yn ymwneud â chynnig ar atebion gwahanol i’r broblem a nodwyd gennych yn ystod y cyfnod darganfod.
Erbyn diwedd alpha, dylech fod mewn sefyllfa i wybod pa rai, os o gwbl, o’ch atebion yr hoffech eu symud ymlaen i’r cam beta.
Beta
Mae Beta yn ymwneud â chymryd eich syniad gorau o alpha a dechrau ei adeiladu fel gwasanaeth.
Byw
Mae byw yn ymwneud â chefnogi eich gwasanaeth newydd a gwrando’n barhaus ar eich defnyddwyr i wneud newidiadau a gwelliannau.
Seremonïau Ystwyth
Mae seremonïau Ystwyth yn gyfarfodydd rheolaidd sy'n strwythuro gwaith tîm. Maen nhw'n annog cydweithio a myfyrio.
Cyfarfod sgrym dyddiol (daily stand-up) yw cyfarfod dyddiol er mwyn i’r tîm drafod yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno a ph’un a oes unrhyw broblemau neu rwystrau y mae arnynt angen cymorth â nhw. Dylai’r cyfarfodydd hyn fod yn fyr ac yn benodol.
Cynhelir cyfarfodydd cynllunio sbrint er mwyn i’r tîm benderfynu beth i weithio arno nesaf a sut y byddant yn mynd ati.
Mewn cyfarfod dangos a dweud, mae aelodau’r tîm yn cael arddangos eu gwaith. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle gwych i wahodd rhanddeiliaid, uwch arweinwyr a chyflenwyr i gael gwybod mwy am y gwaith rydych wedi bod yn ei wneud. Gallech hyd yn oed agor eich cyfarfod dangos a dweud i weddill eich sefydliad.
Cyfarfodydd rheolaidd yw retros sy’n rhoi cyfle i’r tîm cyfan drafod beth sy’n mynd yn dda a beth nad yw’n mynd cystal. Cânt eu defnyddio i ddatrys unrhyw broblemau a chynnal y pwyslais ar y pethau sy’n gweithio.