Fe wnaethom ofyn i bob aelod o'n tîm arweinyddiaeth beth roedden nhw'n edrych ymlaen ato yn y flwyddyn ariannol nesaf:

“Wrth edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o wneud mwy – cyflawni gwelliannau clir mewn gwasanaethau sydd o bwys i bobl Cymru, trwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau y cytunwyd arnynt gyda'n partneriaid allweddol: Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, iechyd a gofal a chyrff hyd braich.

Bydd hyn yn cynnwys:

- sicrhau bod y buddsoddiad yn CDPS yn talu ar ei ganfed:  rydym wedi llwyddo i recriwtio sgiliau digidol yng Nghymru ac mae gennym dîm parhaol gwych – rydym bellach yn canolbwyntio ar gyflawni prosiectau yn yr hir dymor mewn dull effeithiol o ran cost ac ymroddedig

- bydd ymestyn cyrhaeddiad ac effaith Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru a gwreiddio'r rhain yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau, gwerth am arian a pherthnasedd i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus

- cryfhau partneriaethau ac adeiladu ymrwymiad i newid drwy ddangos manteision moderneiddio

- rhedeg sefydliad rhagorol sy'n rhannu ei adnoddau a'i arbenigedd i helpu eraill

- defnyddio ein hadnoddau a'n harbenigedd i gefnogi gwell dylunio a chyflawni polisi a chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol Cymru”
Myra Hunt a Harriet Green, ein Prif Swyddogion Gweithredol
“Rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn yr ydym wedi'u sefydlu gydag arferion ystwyth sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Yn 2023 i 2024, fe wnaethon ni dyfu fel tîm a gosod ein ffyrdd o weithio i leoli ein hunain i gyflawni ein blaenoriaethau strategol.

Eleni byddwn yn cynyddu ein harferion a'n gwaith i gael effaith ddyfnach ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth a wnawn eleni.”
Joanna Goodwin, Pennaeth Cyflenwi a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
“Dros y 9 mis diwethaf, o fewn gweithrediadau, rydym wedi gweld ein tîm yn tyfu gyda gwybodaeth a sgiliau arbenigol, tra bod ein gwasanaethau wedi canolbwyntio mwy ar ddefnyddwyr. Mae bod yn rhan o hyn wedi bod yn wych iawn.

Wrth edrych ar y flwyddyn sydd i ddod, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwn a cheisio mireinio, gwella ac arddangos ein gwasanaethau a'n cefnogaeth i'n cydweithwyr, ein bwrdd a'n rhanddeiliaid.

Eleni hefyd fydd y tro cyntaf i ni ymgynghori'n ffurfiol ac adrodd ar ein hamcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n rhywbeth yr ydym yn falch iawn i fod yn rhan ohono."
Phillipa Knowles, Pennaeth Gweithrediadau
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ehangu ein cynlluniau ar gyfer cyrhaeddiad yn 2024 i 2025. Bydd ein cyrsiau hyfforddi sy'n perfformio'n dda yn esblygu a byddant hefyd ar gael fel cyfleoedd dysgu hunanwasanaeth. Bydd ein rhaglen newydd ‘Arwain gwasanaethau cyhoeddus modern’ yn cysylltu a phobl sy'n gwneud y penderfyniadau strategol sy'n gwella gwasanaethau i Gymru.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr am weld ein cynllun prentisiaeth yn datblygu i gefnogi sefydliadau eraill i gynyddu eu galluoedd digidol trwy bartneriaethau a rhannu sgiliau."
Pete Thomas, Pennaeth Sgiliau a Gallu
“Rydym wedi cymryd camau breision eleni gan ffurfio rhai partneriaethau strategol anhygoel ac anelu'n uwch trwy gynnal digwyddiadau fel ein gweminarau Deallusrwydd Artiffisial ac ymuno â grwpiau cyfredol i gryfhau ein cymunedau ymarfer.

Eleni rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar hynny; mae ein strategaeth rhanddeiliaid wedi nodi pobl a sefydliadau gwych, lle mae budd i'r ddwy ochr ar gyfer cydweithredu. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen am yr ystod o weithgareddau sydd ar y gweill y byddwn yn eu hyrwyddo – popeth o gyflwyno i sgiliau a safonau i dwf ac ehangu ein cymunedau.

Mae gennym Brif Weinidog, cabinet ac ysgrifennydd newydd gyda chyfrifoldeb am y maes digidol. Rwy'n edrych ymlaen at godi ein proffil a sicrhau ein bod yn adrodd y stori yn effeithiol nad rhywbeth sy'n rhaid ei ychwanegu yw'r maes digidol, mae'n faes sy'n alluogwr gwirioneddol yn yr hyn a fydd yn flwyddyn ariannol anodd iawn i lawer o sefydliadau."
Edwina O’Hart, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
“Rwy'n edrych ymlaen at ein ymgysylltiad gydag asesiadau. Rydym yn clywed gan fwy a mwy o bobl sydd am weld sut fyddai'r Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru yn gweithio o fewn eu timau, sefydliadau a gwasanaethau a sut y gallant wella. Wrth i ni fynd o nerth i nerth, byddwn yn cael mwy a mwy o effaith ar wasanaethau, yn darganfod mwy o fylchau ac yn adeiladu'r wybodaeth a'r profiad y gallwn eu cynnig. Mae hon yn ddolen adborth gadarnhaol a fydd yn ein gweld yn mynd o nerth i nerth wrth i ni gysylltu'r safonau, y llawlyfr gwasanaeth a'n cymunedau ymarfer."
Jack Rigby, Pennaeth Technoleg