Mae gan ein harweinwyr flynyddoedd o brofiad mewn newid sefydliadol, technoleg a chyfathrebu.
Harriet Green
Prif Swyddog Gweithredol
Mae Harriet yn gyd-Brif Swyddog Gweithredol gyda Myra, yn gweithio i alluogi ein cefnogaeth i Strategaeth Ddigidol Cymru.
Gyda Myra, mae Harriet yn atebol am CDPS sy’n bodloni ei ganlyniadau cytuniedig a’r defnydd gorau o’n hadnoddau, gan sicrhau ein bod yn deall ac yn cyflawni ar gyfer ein defnyddwyr, a’n bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnom ar lefelau uwch.
Myra Hunt
Prif Swyddog Gweithredol
Mae Myra yn Brif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Harriet, yn arwain CDPS.
Mae Myra, ynghyd â Harriet, yn cysylltu ag arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru i greu partneriaethau, sydd wedyn yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd, i wella gwasanaethau digidol i bobl ledled Cymru.
Edwina O’Hart
Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae Edwina yn arwain y tîm cyfathrebu sy’n gweithio ar draws ein holl dimau gwasanaeth gan gynnwys safonau, hyfforddiant, digwyddiadau a darpariaeth yn ogystal a’n gweithrediadau mewnol.
Mae tîm Edwina yma i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i weithio yn agored, i adrodd y stori am fanteision gweithio mewn ffordd Ystwyth, a’u helpu i wneud cysylltiadau buddiol i'r ddwy ochr drwy ein digwyddiadau a’n cymunedau.
Peter Thomas
Pennaeth Sgiliau a Gallu
Peter sy’n arwain y gwasanaeth dysgu sgiliau digidol i feithrin sgiliau trawsnewid digidol a hyder staff mewn rolau presennol a chefnogi’r rhai sydd am symud i wasanaethau cyhoeddus digidol Cymru.
Joanna Goodwin
Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
Mae Joanna’n gweithio’n agos ar draws pob prosiect a gwasanaeth i sicrhau bod defnyddwyr wrth wraidd dylunio a gwneud penderfyniadau.
Mae Jo yn cefnogi sector cyhoeddus Cymru i gysylltu â’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallau anghenion defnyddwyr ac anghenion y busnes.
Phillipa Knowles
Pennaeth Gweithrediadau
Philipa yw Pennaeth Gweithrediadau ac mae’n goruchwylio Adnoddau Dynol, cyllid, llywodraethu a chaffael.
Mae’n gyfrifol am redeg sefydliad gwych fel bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae ein busnes yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn cynnig y gwerth mwyaf am arian a bod ein bwrdd yn teimlo sicrwydd.
Mae tîm gweithredu Philipa yn darparu’r cymorth i alluogi staff i wneud eu gwaith i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cadwch mewn cysylltiad
Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith, tanysgrifiwch i glywed am hyfforddiant, digwyddiadau, a’n gwaith diweddaraf.