Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn arwain ar raglen Mamolaeth Digidol Cymru i drawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn rhai digidol yng Nghymru. Fel rhan o'r rhaglen hon, buom yn siarad â menywod a phobl sy'n geni sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth i ddeall eu hanghenion o ran gwasanaethau digidol.

Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth mamolaeth yng Nghymru yn dibynnu'n helaeth ar gofnodion clinigol ar bapur

Gall cyflwyno cofnodion mamolaeth digidol wella gwasanaethau mamolaeth drwy:

  • gefnogi a gwella'r bartneriaeth rhwng menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth a'r clinigwyr sy'n cefnogi eu gofal mamolaeth
  • caniatáu i weithwyr proffesiynol dreulio mwy o amser yn gofalu am fenywod a phobl sy'n rhoi geni trwy leihau'r amser a dreulir yn dyblygu data
  • sicrhau bod cofnodion yn hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol sy'n darparu gofal ledled Cymru
  • creu cysondeb ledled Cymru gyda'r holl gofnodion mamolaeth yn cael eu cofnodi yn yr un modd
  • creu gwell ffordd o adrodd ar ddata canlyniadau

Fe wnaethom sefydlu tîm amlddisgyblaethol gyda chynrychiolwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a byrddau iechyd GIG Cymru er mwyn cefnogi gydag arbenigedd ymchwil defnyddwyr a dylunio gwasanaethau.

Effaith

efnyddir argymhellion o ddarganfyddiad Mamolaeth Ddigidol Cymru i lywio penderfyniadau cyflawni yn y dyfodol, mewn perthynas â datblygu gwasanaeth mamolaeth digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ledled Cymru, sy'n arwain at well profiadau gwasanaeth a chanlyniadau iechyd i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth.

Mae gennym well dealltwriaeth o anghenion gwasanaeth mamolaeth ddigidol menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth, gan gynnwys y rhai o grwpiau nas clywir amdanynt yn aml. Mae hyn wedi arwain at argymhellion i wella eu taith mamolaeth ar y system cofnodion digidol.

Nod yr argymhellion yw creu'r amodau cywir ar gyfer pwynt mynediad digidol cefnogol, cynhwysol a hawdd i'w ddefnyddio a thaith atgyfeirio ar gyfer gwasanaeth mamolaeth digidol.

Nod argymhellion ynghylch darparu gwybodaeth yw sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, yn hawdd ei ddeall, ac wedi'i theilwra i anghenion menywod a phobl sy'n rhoi genedgaeth yn ystod pob cyfnod beichiogrwydd, yn enwedig ar gyfer pwyntiau cyffwrdd rhwng apwyntiadau cynenedigol. At hynny, rydym wedi gwneud argymhellion ar gyfer rhyngweithio gwasanaeth ynghylch apwyntiadau cynenedigol ac ôl-enedigol, gyda'r nod o wella profiadau gwasanaeth.

Mae gan dîm rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru fwy o ymwybyddiaeth a hyder profedig wrth gymhwyso dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a methodolegau a thechnegau Ystwyth ac maent yn ceisio datblygu'r rhain ymhellach trwy sgiliau a hyfforddiant.

Lle bo'n briodol, mae argymhellion a gwersi a ddysgwyd yn cael eu cymhwyso ar draws meysydd gwasanaeth iechyd eraill i gefnogi arfer da a pharhau i wella profiadau defnyddwyr yn ehangach.

Y camau nesaf

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ystyried yn llawn yr argymhellion gan eu defnyddio i gefnogi cyflwyno rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru.

Bydd CDPS yn cwrdd a Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ystyried y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y dyfodol a pharhau i gynnig arweiniad a chyngor, yn ôl yr angen, wrth i raglen Mamolaeth Ddigidol Cymru ddatblygu.

Clywed gan ein partneriaid

"Mae gan drawsnewid digidol y potensial i chwyldroi menywod beichiog a bydwragedd. Fodd bynnag, mae risg hefyd o niwed ac ymylu neu eithrio menywod difreintiedig ymhellach, oherwydd rhagdybiaethau a wnaed yn ystod y broses ddylunio.

Mae ein cydweithrediad â CDPS yn cynrychioli ymrwymiad i athroniaeth ddylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gan sicrhau bod lleisiau ac anghenion pob menyw feichiog a bydwragedd, yn enwedig y rhai o grwpiau na chlywir yn aml ganddynt, yn cael eu clywed.

Drwy'r broses hon, mae gennym gyfleoedd i wella'r profiad cyffredinol, lleddfu pryderon trwy gyflwyno cofnod mamolaeth digidol dibynadwy, sy’n hawdd cael mynediad atynt. Mae'r fenter hon yn barod i arfogi unigolion â'r wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy gydol eu taith gofal iechyd.

Trwy fabwysiadu dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a chanolbwyntio ar anghenion unigryw'r rhai sy'n wynebu'r gwahaniaethau iechyd mwyaf, nod Gwasanaethau Mamolaeth yw cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles menywod beichiog a bydwragedd yng Nghymru."
Anne Watkins, Arweinydd Gwybodeg Glinigol Mamolaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Darllen mwy

Gan gynnwys lleisiau na chlywir yn aml ym maes ymchwil defnyddwyr

Mae ymchwil defnyddwyr yn nodi'r angen am nodiadau mamolaeth digidol

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang