Yn ein blogbost diwethaf, buom yn siarad am ein dull cynhwysol o ymchwilio i ddefnyddwyr, gan chwilio am bobl sydd â risg uwch o anghydraddoldeb iechyd a/neu allgáu digidol. Dros gyfnod o wyth wythnos, siaradodd y tîm yn CDPS â dros 50 o gyfranogwyr fel rhan o'u hymchwil. Beth wnaethon ni ei ddarganfod? Eglura Anne Watkins a Sian Thomas o dîm Digidol Mamolaeth Cymru...

Pwysigrwydd nodiadau mamolaeth

Mae cofnodion mamolaeth yn seiliedig ar bapur i raddau helaeth ac mae gan bob menyw neu fydwragedd gofnod mamolaeth clinigol sy'n cael ei gario'n gorfforol ganddynt i bob apwyntiad. 

Thema gyffredin gan yr ymchwil i ddefnyddwyr oedd bod menywod a bydwragedd yn deall pwysigrwydd eu nodiadau, ac roeddent yn eu cadw'n ddiogel. Roedd ganddynt ddiddordeb yn y wybodaeth, gan ei hadolygu ar ôl yr apwyntiad, er eu bod yn gweld bod y derminoleg feddygol yn heriol i'w deall ac yn ddryslyd i ddod o hyd i wybodaeth benodol. 

"Maen nhw'n rhoi llyfr i chi sy'n fy atgoffa o lyfrau Argos – mae'n eithaf trwchus."
"Ceisiais ddod o hyd i rif cyswllt ac ni allwn gofio lle roedd yn y llyfr – roedd rhaid imi googlo ond roedd gormod o wybodaeth, a doedd y wybodaeth ddim yn ddealladwy."

Roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol am y syniad o gael cofnod digidol ac yn gweld y manteision clir. Roeddent yn hoffi'r syniad o gael mynediad at eu cofnod ar ffôn ac nid oedd yn rhaid iddynt gario ffolder fawr o nodiadau papur o gwmpas. Yn aml roeddent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth bwysig o fewn y nodiadau. Roedden nhw'n meddwl y byddai'n haws darllen cofnod digidol o'i gymharu â nodiadau wedi'u hysgrifennu â llaw, a byddai peidio â gorfod ailadrodd eu stori ym mhob apwyntiad yn fanteisiol iawn. 

Roedd rhai pryderon ynghylch beth fyddai'n digwydd pan oeddent ar wyliau neu mewn argyfwng a mynegodd un defnyddiwr y straen ychwanegol a achosodd iddi ddychwelyd adref am ei nodiadau papur ar ôl eu anghofio wrth fynychu apwyntiad brys. 

"Roedd amser pan nad oeddwn i'n gallu teimlo'r babi - roeddwn i ar y ffordd i'r ysbyty ac fe wnes i ffonio a dywedon nhw bod angen i mi ddod â fy nodiadau – felly roedd rhaid i mi yrru 15 munud adref ac yn ôl. Roedd yr hanner awr ychwanegol hwnnw yn frawychus..."

Roeddem hefyd eisiau archwilio sut mae menywod yn cael gafael ar wybodaeth ar hyn o bryd. Nododd yr ymchwil fod menywod beichiog â phryderon penodol yn ymwneud ag iechyd yn gofyn am wybodaeth er mwyn cael sicrwydd. Google oedd eu pwynt galw cyntaf am wybodaeth feddygol gan pori yn uniongyrchol i wefannau'r GIG. Tra bod menywod beichiog a bydwragedd gyda Saesneg cyfyngedig neu ddim Saesneg yn chwilio am wybodaeth o dudalennau gwe yn eu hieithoedd eu hunain neu ddefnyddio Google i gyfieithu. Mae hyn yn codi pryderon bod menywod yn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth nad yw'n ymwneud â tystiolaeth. 

Mae'r ymchwil hon wedi dangos bod gennym gyfle i gefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd trwy ddarparu'r wybodaeth y maent yn chwilio amdan er mwyn cael sicrwydd. Gallwn hefyd flaenoriaethu a threfnu gwybodaeth yn seiliedig ar anghenion penodol, er enghraifft, os oes gan fenyw clefyd y siwgr. Gallwn gefnogi ymddygiad sy'n ceisio gwybodaeth menywod trwy eu cysylltu'n uniongyrchol o'r cofnod digidol trwy borth unigryw y fenyw, gan roi dolenni iddynt i wybodaeth briodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wneud dewisiadau gwybodus a lleddfu pryderon. 

Defnyddio mewnwelediad i lywio dyluniad 

Nawr bod gennym ddealltwriaeth ddyfnach o brofiad pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd, rydym wedi troi ein ffocws at ddyluniad y system mamolaeth ddigidol newydd. 

Yn ein blog nesaf, byddwn yn rhannu sut y gwnaethom ddefnyddio'r mewnwelediad hwn i ddylunio a phrofi syniadau i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl cyn ac ar ôl apwyntiad.