Cyrsiau a digwyddiadau

Dysgu a chysylltu ag eraill drwy hyfforddiant digidol, digwyddiadau ar-lein ac yn bersonol, cymunedau ymarfer a mwy.

Dr John-Mark Frost

Dr John-Mark Frost

Cadeirydd dros dro

John-Mark (a elwir yn JM) yw Pennaeth Trawsnewid y BBC, gyda chefndir yn y Gwasanaeth Sifil, gan gynnwys rolau cyflawni a thrawsnewid gweithredol ar raddfa fawr yn Nhŷ'r Cwmnïau a'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Harriet Green

Harriet Green

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Harriet yn gyd-Brif Swyddog Gweithredol gyda Myra, yn gweithio i alluogi ein cefnogaeth i Strategaeth Ddigidol Cymru.

Gyda Myra, mae Harriet yn atebol am CDPS sy’n bodloni ei ganlyniadau cytuniedig a’r defnydd gorau o’n hadnoddau, gan sicrhau ein bod yn deall ac yn cyflawni ar gyfer ein defnyddwyr, a’n bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnom ar lefelau uwch.

Myra Hunt

Myra Hunt

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Myra yn Brif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Harriet, yn arwain CDPS.

Mae Myra, ynghyd â Harriet, yn cysylltu ag arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru i greu partneriaethau, sydd wedyn yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd, i wella gwasanaethau digidol i bobl ledled Cymru.

Sam Ali

Sam Ali

Aelod o’r bwrdd

Mae Sam yn Ymgynghorydd Rhaglen Ddigidol gyda Cwmpas. Ym maes SaaS (software as a service/meddalwedd fel gwasanaeth) mae ei chefndir, yn gweithio gyda phob math o sectorau, yn fwy diweddar, rheoli prosiectau digidol llywodraeth leol. Y maes sy'n mynd â bryd Sam yw sgiliau digidol a chynhwysiant ac mae wedi dod o hyd i sawl ffordd o weithio yn y meysydd hyn. Yn ddiweddar, cafodd Sam secondiad fel Swyddog Llythrennedd y Cyfryngau yn gweithio ar brosiect ymchwil yn ymwneud â llythrennedd yn y cyfryngau.

Ashley Bale

Ymgynghorydd

Datblygodd Ashley y tai SMART byw â chymorth cyntaf ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn y DU. Mae'n rhedeg Tech4good Cardiff, cymuned sydd â diddordeb mewn technoleg ar gyfer effaith gymdeithasol gadarnhaol. Mae ganddo brofiad o ddarparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau ac mae'n angerddol am gynhwysiant digidol.

Andy Adams MBE

Ymgynghorydd

Mae Andy yn gyn-brif uwcharolygydd gyda Heddlu Gwent sydd wedi arwain ar dechnoleg gorfodi'r gyfraith ar draws y DU ac Ewrop ac mae'n aelod amlwg o gymuned y gwasanaethau brys. Mae Andy wedi arwain ar brosiectau newid a mentrau ar y cyd yn y sector preifat a chyhoeddus ac mae'n cefnogi uwch arweinwyr yn y meysydd hynny.

Heledd Evans

Ymgynghorydd

Mae Heledd yn rheolwr digidol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’n arwain tîm o gyfieithwyr ac arbenigwyr dylunio a digidol. Mae ganddi brofiad o gyfathrebu a rheoli gwasanaethau digidol dwyieithog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Dr Hushneara Miah

Ymgynghorydd

Mae Hushneara yn arbenigwr pwnc mewn caffael cynaliadwy a rheoli'r gadwyn gyflenwi gyda ffocws ar garbon isel. Hi yw cyfarwyddwr y Ganolfan Gynaliadwyedd, sefydlodd i fod yn gatalydd mewn meysydd fel rheoli'r gadwyn gyflenwi, yr economi gylchol, sero net a llythrennedd carbon.

Ignacia Orellana

Ymgynghorydd

Mae Ignacia yn arbenigwr dylunio gwasanaethau gyda phrofiad yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae ganddi brofiad o ddatblygu cymunedau gwasanaeth, ar ôl dylunio gwasanaethau cymhleth i gefnogi defnyddwyr trwy Brexit a COVID-19. Mae hi hefyd yn angerddol am ddylunio gwasanaethau hygyrch a chreu timau amrywiol.