Ynglŷn â'r rhaglen

Yn y cofnod blog cyntaf gan y tîm, siaradodd Anne Watkins, Sian Thomas a Sarah Aston am bwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar gyfer rhaglen Mamolaeth Digidol Cymru.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n cynnal rhaglen Mamolaeth Ddigidol Cymru. Mae'n datblygu gwasanaeth mamolaeth ddigidol i gefnogi darparu gofal diogel ac effeithiol i bob menyw a pherson sy'n geni yng Nghymru.

Un darn o waith yw disodli nodiadau papur gyda fersiynau digidol fel bod modd defnyddio dyfais fel ffôn clyfar neu gyfrifiadur i fynd atyn nhw. Byddai hyn yn caniatáu i staff clinigol gael mynediad at y data hanfodol hwn ym mha leoliad bynnag y mae pobl yn mynychu. Byddai hefyd yn golygu nad yw menywod a phobl sy'n geni yn gyfrifol mwyach am ddod â'r set sengl o nodiadau mamolaeth papur hyn gyda nhw ble bynnag yr ânt.

Gall symud o bapur i systemau digidol greu gwelliannau mewn gofal cleifion, diogelwch ac effeithlonrwydd gwasanaethau. Gall hefyd ddod â'r risg o gau allan rai pobl o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Gall yn fod oherwydd nad yw pobl yn gallu, yn gwybod sut, neu'n dymuno eu defnyddio.

Pwy yw'r lleisiau y byddwn ni prin yn eu clywed?

Mae ‘lleisiau y byddwn ni prin yn eu clywed’ (seldom heard voices) yn cyfeirio at “bobl heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n defnyddio gwasanaethau [cyhoeddus] neu a allai eu defnyddio o bosibl ac y mae eu llais yn llai tebygol o gael ei glywed gan weithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Arferid disgrifio'r grwpiau hyn fel grwpiau anodd eu cyrraedd – sy'n awgrymu bod rhywbeth sy'n eu hatal rhag ymgysylltu â gwasanaethau. Mae lleisiau nas clywn ganddynt yn aml yn pwysleisio cyfrifoldeb asiantaethau i gyrraedd at bobl sydd wedi'u hallgáu, gan sicrhau y gellir clywed eu lleisiau;".

Mae'r rhain yn grwpiau sy'n tueddu i gael eu hymyleiddio gan gymdeithas prif ffrwd. Maen nhw’n cynnwys pobl Ddu, Asiaidd a grŵpiau lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a rhai sy’n byw mewn amddifadedd. Maen nhw’n aml yn cael profiad o ragfarn a gwahaniaethu ac yn meddu ar nodweddion gwarchodedig.   

Maen nhw'n llai tebygol o gael eu cynnwys mewn gweithgareddau fel dylunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn aml gallan nhw fod yn amharod i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sy'n diffinio polisïau'r llywodraeth. Mae hyn yn golygu y gall eu hanghenion gael eu deall yn llai da gan y sefydliadau sector cyhoeddus sy'n eu gwasanaethu. 

Gwyddon ni fod pobl o grwpiau ymylol mewn mwy o berygl o anghydraddoldeb iechyd. Fe wyddon ni hefyd eu bod mewn mwy o berygl o allgáu digidol. Felly, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig creu gwasanaeth digidol a fyddai'n cynnwys eu hanghenion. Fodd bynnag, yn ein hymchwil cynharach roedden ni wedi ei chael yn anodd casglu mewnwelediad gan bobl yn y grwpiau hyn - gall fod yn anodd eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel ymchwil defnyddwyr.   

Pan ddechreuon ni ein hymchwil darganfod, fe benderfynon ni ein bod ni eisiau siarad â phobl sydd mewn mwy o berygl o anghydraddoldeb iechyd a/neu allgáu digidol. Roedden ni o’r farn y byddai hyn yn ein helpu i osgoi creu gwasanaeth sy'n gwahaniaethu neu'n eithrio pobl ymhellach oddi wrth gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.  

Rydyn ni' n canolbwyntio ar fenywod a phobl sy'n geni o'r grwpiau canlynol:  

  • Du    
  • Asiaidd   
  • Pobl Anabl 
  • rhai'n byw mewn amddifadedd    
  • rhai nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf     

Ein dull o weithio

Dechreuon ni ddefnyddio techneg a argymhellir wrth gynnal ymchwil gyda chymunedau a grwpiau ymylol. Mae ‘Snowball Sampling’ (Goodman, L,A 1961) yn gweithio trwy sefydlu rhwydweithiau dibynadwy yn y cymunedau yr hoffech eu hymchwilio.   

Dechreuon ni gyda'n cysylltiadau ar draws y gwasanaeth mamolaeth gan esbonio yr hyn yr roedden ni'n ceisio ei wneud. Roedd gennyn ni ymagwedd drylwyr tuag at foeseg a chydsyniad a gwnaethon ni'n glir ein bod yn bwriadu hyrwyddo anghenion y rhai yr oedden ni'n ceisio eu cyrraedd. Unwaith i ni sefydlu’r perthnasoedd hynny ac ennill eu hymddiriedaeth, fe wnaethan nhw eu rhoi mewn cysylltiad â bydwragedd cymunedol, dwlas a sefydliadau elusennol yn eu hardaloedd. O'r pwynt hwnnw, roedden ni'n gallu cysylltu â phobl a threfnu cyfweliadau.  

Dros gyfnod o 8 wythnos, gwnaethon ni gysylltu â bron i 60 o bobl mewn 21 sefydliad – gan adeiladu'r rhwydwaith yn barhaus, roedd yn werth yr ymdrech. Rydyn ni wedi cynnwys dros 50 o gyfranogwyr mewn gweithgareddau ymchwil hyd yn hyn, ac mae'r rhwydwaith yn parhau i atgyfeirio pobl i ni sy'n awyddus i fod yn rhan o'n gwaith.  

Dyma'r peth iawn i'w wneud

Pam mynd i'r fath raddau i gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – y rhai nad ydyn ni’n clywed eu llais yn aml mewn ymchwil? Gan ein bod o’r farn mai hyn yw’r peth iawn i'w wneud.  

Mae cynnwys pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, nodweddion a galluoedd yn helpu i leihau'r risg ein bod yn gwahardd pobl yn anfwriadol o'r gwasanaeth y mae angen iddyn nhw ei ddefnyddio. Mae hefyd yn ffordd effeithiol o greu cynhyrchion a gwasanaethau gwell. Oherwydd pan fydd pethau'n gweithio'n dda i bobl ar ‘ymylon’ ein cymdeithas – fel y rhai sydd ag anghenion cymhleth – byddan nhw hefyd yn gweithio'n dda i bawb arall.

Mae Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru yn cytuno: 

Rydyn ni wedi ymrwymo yng Nghymru i sicrhau bod lleisiau pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu clywed i sicrhau tegwch yn y ddarpariaeth i fynd i'r afael ag anghenion unigol.  Rwyf i, fel Prif Swyddog Nyrsio Cymru ac fel menyw o fwyafrif byd-eang, yn deall yr heriau a'r anawsterau sy’n rhwystro pob defnyddiwr gwasanaeth rhag cael llais cyfartal. Hoffwn longyfarch Mamolaeth Ddigidol Cymru ar y gwaith y mae'n ei wneud i gyrraedd y lleisiau hyn a cheisio sicrhau eu bod yn dylanwadu ar gam nesaf y rhaglen bwysig hon. Bydd hyn yn sicrhau bod yr argymhellion yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i farn i holl fenywod a phobl sy’n rhoi genediaeth a'u teuluoedd er mwyn sicrhau bod gennym system ddigidol sy'n addas i'r diben. Bydd hyn yn ein galluogi i dargedu mesurau i leihau anghydraddoldebau iechyd ym maes mamolaeth a babanod newydd-anedig.
Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru

Be' nesa?

Pa wybodaeth rydym wedi'i chasglu yn sgil yr arolwg hwn? Bydd ein cofnod blog nesaf yn trafod y canfyddiadau.