Nod y prosiect
Bwriad cychwynnol yr Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol oedd datblygu gwell dealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus digidol presennol yng Nghymru, er mwyn:
- adnabod lle gallwn gysylltu timoedd a gwasanaethau
- blaenoriaethu ardaloedd am ddatblygiad a buddsoddiad
Y broblem i'w datrys
Bu'n rhyfeddol bod gwasanaethau wedi parhau i gael eu cynnal trwy’r pandemig, a bu’n rhaid i dimau chwyldroi eu ffordd o weithio dros nos.
Mae tri chwarter o wasanaethau’r sector cyhoeddus y siaradodd tîm yr adolygiad â nhw, nawr yn gweithio ar lein mewn rhyw fodd. Bu tîm yr adolygiad yn trafod gyda thimau gwasanaethau am ba mor dda mae eu gwasanaethau yn cwrdd â gofynion y bobl a wnaeth eu defnyddio, a sut yr oeddent yn cyd-fynd â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.
Mae'r data y gwnaethom ei gasglu yn ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith a darparu cymorth lle caiff yr effaith fwyaf ar bobl – defnyddwyr y gwasanaethau.
Partneriaid
- Ystod eang iawn o adrannau’r llywodraeth, megis yr adran iechyd meddwl, camddefnydd sylweddau, addysg blynyddoedd cynnar a diogelwch amgylcheddol
- cyrff a noddir megis Cyfoedd Naturiol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- awdurdodau lleol a sefydliadau gofal iechyd
Crynhoi'r gwaith
Cyfnod darganfod ac alpha
Trwy gyfnod darganfod a chamau alpha’r prosiect, mae tîm yr adolygiad wedi:
- nodi cannoedd o wasanaethau sector cyhoeddus Cymreig
- trafod gyda channoedd o bobl dros 30 sefydliad y sector cyhoeddus
- rhedeg gweithdai i ddatgelu problemau cyffredin ar draws gwasanaethau
- dyfeisio meini prawf i’n helpu blaenoriaethu lle gall ein cymorth cael yr effaith mwyaf
Yn seiliedig ar y dystiolaeth yma, roedd angen am fwy o gefnogaeth i helpu sefydliadau i fabwysiadu a gwreiddio Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru. Roedd newidiadau eang eraill yn cynnwys:
- dylunio gwasanaethau dwyieithog, Cymraeg-Saesneg, yn hytrach na chyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg
- annog defnydd eang o ddadansoddiad gwasanaethau
- gwreiddio diogelwch seibr a diogelwch gwybodaeth o safon
- lledaenu technegau ymchwil y defnyddiwr tu hwnt i holiaduron
- gwneud holiaduron yn hygyrch i bawb, er mwyn sicrhau bod neb yn cael eu colli o ganlyniad i drawsnewidiad technolegol
- adeiladu gwell fforymau digidol – nid dogfennau PDF sy’n efelychu papur
- annog diwylliant o welliannau parhaus, hyd yn oed pan mae’r gwasanaeth yn fyw
Ymlaen i beta
Yn beta, casglodd y tîm fwy o ddata ar wasanaethau ledled Cymru i roi darlun ehangach inni o sut y gall ein cymorth fod o werth mwyaf.
Buom yn siarad â sefydliadau a pherchnogion gwasanaethau newydd, yn ogystal â llenwi bylchau yn y data y gwnaethom ei gasglu yn ystod ein cyfnod alffa.