3 Awst 2021
Cyn i chi fwrw ati ar daith hir, rydych chi’n cynllunio. Byddech chi fel arfer yn bwrw golwg dros fap o’r llwybr y byddwch yn ei ddilyn. Byddech chi’n gwneud ymchwil i’ch lleoliad terfynol.
Mae’r un peth yn wir pan fyddwch yn mynd ati i daclo darn anferth a thrawsnewidiol o waith ym maes digidol/technoleg. Mae angen i chi ddeall y tirwedd rydych yn gweithio ynddo.
Felly, rydyn ni’n dechrau gweithio i wneud yn union hynny, sef mapio’r tirwedd gwasanaethau cyhoeddus digidol ar draws Cymru gyfan.
Beth yw hyn?
Nod yr Adolygiad Tirwedd yw deall cyflwr gwasanaethau cyhoeddus digidol Cymru (ar draws gwasanaethau, llwyfannau, contractau, a thechnoleg a sgiliau) er mwyn gosod blaenoriaethau yn well, nodi ble gallwn baru timau a gwasanaethau, a dyrannu buddsoddiad i’w gwella. Mae hyn yn golygu canfod pa wasanaethau sy’n cael eu darparu ar draws Cymru, a nodi cyfleoedd i weithio gyda’n gilydd i’w gwella.
Rydyn ni’n gwybod bod gweithio ar y cyd eisoes ar waith ar draws Cymru, a bod pocedi o ddata ar gael. Fodd bynnag, nid oes darlun cyffredinol ar gael ar hyn o bryd o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu, ac mae angen data o rychwant helaethach ac o ansawdd gwell. Rydyn ni am greu’r darlun hwnnw drwy’r gwaith hwn.
Beth a olygwn wrth y gair “gwasanaeth”?
Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi, ‘I wir wella gwasanaethau cyhoeddus, rhaid eu dylunio ar sail anghenion y bobl fydd yn eu defnyddio. Rhaid anelu at y norm o wasanaethau cyhoeddus effeithiol a chydgysylltiedig sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr.’
Mae gwasanaeth yn fwy nag un rhyngweithiad; mae’n ymwneud â’r holl ryngweithiadau sydd eu hangen i ddefnyddiwr gyflawni nod.
Mewn blog a gyhoeddwyd yn 2016, diffiniwyd gwasanaeth gan Wasanaeth Digidol Llywodraeth y DU fel:
(Cyfieithiad o’r gwreiddiol) Gwasanaeth yw set o un neu fwy o deithiau defnyddwyr (rhyngweithiadau fel cyflwyno gwybodaeth bersonol, sy’n digwydd ar draws unrhyw gyfrwng), gyda’r bwriad o ganiatáu i ddefnyddiwr gyflawni nod drwy ryngweithio gyda’r llywodraeth.
Gwasanaeth cyflawn yw gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd (o’r cyfnod mae’r defnyddiwr yn dechrau ceisio cyflawni nod nes y cyfnod o gwblhau ei gyflawni), o’r blaen i’r cefn (sy’n cynnwys gwasanaethau sy’n wynebu dinasyddion, systemau a phrosesau mewnol, polisi neu ddeddfwriaeth ategol, a strwythurau sefydliadol, ariannol a llywodraethiant y gwasanaethau) sy’n rhychwantu pob sianel (gan gynnwys ar-lein, ffôn, papur ac wyneb yn wyneb).
Enghraifft bosibl lle mae angen defnyddiwr yn cael ei gefnogi gan wasanaeth yw, “Rwyf am gofrestru fy mhlentyn i ymgeisio am le mewn ysgol”.
Drwy’r adolygiad hwn, byddwn ni’n edrych ar y diffiniad o wasanaeth ac yn sicrhau ei fod yn gweithio mewn perthynas â’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu ar draws Cymru.
Y cam darganfod
Rydyn ni yn y cam darganfod ar hyn o bryd, ac yn canolbwyntio ar ganfod pa fath o wybodaeth y bydden ni am ei gwybod am wasanaethau, a pha fath o wybodaeth mae’n ddichonol dod o hyd iddi – er enghraifft, rydyn ni am ganfod atebion i gwestiynau fel, “pa rolau tîm sy’n gysylltiedig yn nodweddiadol â datblygu gwasanaethau digidol ar draws Cymru?”.
Tri phrif allbwn yr Adolygiad Tirwedd yw:
- Cronfa ddata o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd ar draws Cymru, a pha gyfleoedd sydd i’w datblygu a’u gwella
- Dull ar gyfer blaenoriaethu cyfleoedd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru
- Set, wedi’i llywio gan ddata, o wasanaethau blaenoriaeth a chyfleoedd i Gymru eu symud yn eu blaen a chydweithio arnyn nhw.
Disgwylir i’r cam darganfod gymryd oddeutu 9 wythnos.
Am yr ychydig wythnosau cyntaf, mae gennym bedair blaenoriaeth gychwynnol:
- Adolygiad o’r brig i lawr o’r sefydliadau, yr arweinwyr a’r blaenoriaethau llywodraeth sy’n rheoli gwasanaethau cyhoeddus Cymru
- Dechrau deall yr wybodaeth a’r data y mae angen i arweinwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau eu gwybod am wasanaethau er mwyn llywio eu gwaith
- Dechrau deall yr hyn y gall perchnogion gwasanaethau data ei rannu am eu gwasanaeth
- Ymchwil desg am yr wybodaeth sydd eisoes yn hysbys am wasanaethau yng Nghymru.
Pwy sydd yn y tîm
Yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth gyda The PSC, byddwn ni’n gweithio’n agos gydag arweinwyr digidol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Glyn Jones (Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru), Sam Hall (Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol) ac Ifan Evans (Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru).
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddogion Digidol er mwyn nodi grwpiau sydd eisoes ar waith i ymgysylltu â nhw, a sefydlu cysylltiadau gydag uwch arweinwyr a pherchnogion gwasanaeth. Byddwn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau wedi’u targedu ac yn rhannu sesiynau a gweithdai.
Rydyn ni’n mynd ati i ymdrin â’r gwaith hwn fel tîm ystwyth. Mae hyn yn golygu mabwysiadu dull iterol ar ei gyfer, a gosod nodau wythnosol rydyn ni am eu cyflawni. Mae hefyd yn golygu gweithio’n agored, rhannu diweddariadau rheolaidd gyda rhanddeiliaid a datblygu prototeipiau gweithio mor gynnar â phosibl.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfarfod â llawer o’r bobl wych sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru ac os ydych chi’n gyfrifol am redeg un o wasanaethau’r llywodraeth yng Nghymru, bydden ni wrth ein bodd i gael clywed gennych chi! Cysylltwch â ni yn info@digitalpublicservices.gov.wales.
Byddai’n wych gallu trafod yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yn yr adolygiad tirwedd, a dysgu mwy am eich gwasanaeth chi.