15 Medi 2021
Yn ein blogiau blaenorol am yr adolygiad tirwedd rydyn ni wedi trafod pwysigrwydd meddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n gwneud gwasanaeth digidol a sut mai siarad â pherchnogion gwasanaethau yw sail y ddealltwriaeth hon.
Yn y blog diweddaraf yma roedden ni am ymhelaethu ychydig yn ehangach ac amlygu nad ni yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yw’r unig rai sydd wrthi yn y maes hwn. Mae llawer o sefydliadau eraill o’r un anian o amgylch y byd (sy’n cael eu galw’n “Unedau Llywodraeth Ddigidol”) wedi mynd i’r afael â materion cyffelyb ac rydyn ni’n awyddus i ddysgu wrthyn nhw.
Beth yw “Uned Llywodraeth Ddigidol”?
Ers dechrau’r 2010 au mae Unedau Llywodraeth Ddigidol (DGU), gan ddilyn y llwybr a sefydlwyd gan yr uned gyntaf Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU, wedi dod yn nodwedd gyffredin yn nhirwedd sefydliadol llywodraethau.
Mae Unedau wedi ymddangos yn:
- yr Unol Daleithiau (dwy: Gwasanaeth yr ‘United States Digital Service’ ac ‘18f’ yn ogystal ag ar lefel daleithiol)
- Awstralia (‘Australian Digital Transformation Agency’)
- Canada (‘Canadian Digital Service’) ac unedau llywodraeth ddigidol is-genedlaethol
- ac mewn mannau eraill
Does dim dwywaith bod Unedau wedi bod yn amrywiol eu siâp, eu gorchwyl a’u ffocws: mae rhai’n gweithredu ar lefel genedlaethol, eraill ar lefel is-genedlaethol; mae rhai’n rhychwantu llu o swyddogaethau llywodraeth, eraill yn rhychwantu ychydig. Yn fras, fodd bynnag, dangoswyd bod nodweddion arbennig i Unedau Llywodraeth Ddigidol llwyddiannus fel:
- gweithredu yng nghanol swyddogaethau llywodraeth, yn hytrach nag mewn adran neu asiantaeth benodol
- ffafrio arferion dylunio a ffyrdd o weithiau sy’n ystwyth ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr
- ceisio pontio seilos a bylchau, gan ddefnyddio dulliau “ar sail llwyfannau”
- rhoi gwerth ar wneud penderfyniadau ar sail data
- canolbwyntio ar gyflawni a “chymryd camau pendant”
Beth mae Unedau Llywodraeth Ddigidol wedi’i gyflawni?
Mae llu o fentrau, cynnyrch, gwasanaethau a safonau wedi dod i’r amlwg drwy’r Unedau. O fwrw golwg o amgylch y byd, mae llawer y gallwn ddysgu wrtho. Dyma nodi rhai enghreifftiau:
- Creodd uned llywodraeth ddigidol yr Ariannin barth porthol unigol newydd ar gyfer gwasanaethau sy’n wynebu dinasyddion, gan gau dros 1000 o wefannau llywodraeth i lawr a chreu cyfrif i ddinasyddion, Mi Argentina, gyda miliynau o lawrlwythiadau
- Sicrhaodd seilwaith digidol Estonia – sy’n cynnwys cyfres o lwyfannau, gwasanaethau, cofrestrau data a chyfrifon hunaniaeth ddigidol – fod 99 y cant o wasanaethau llywodraeth ar gael, ar-lein, drwy gydol y pandemig Covid-19 yn 2020
- Mae dull De Corea o redeg llwyfan Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) wedi arwain at greu systemau e-ddeisebu uchel eu defnydd, dull cyflym o gynnal polau piniwn o farn dinasyddion am faterion polisi, a pharth unigol ar gyfer holl wasanaethau ar-lein y llywodraeth
- Mae Gwasanaeth Digidol Canada ar ei ffordd i gyflawni ei nod erbyn 2025 o ddigideiddio holl wasanaethau’r llywodraeth sy’n wynebu’r cyhoedd gan ddefnyddio system fewngofnodi unedig
Ychydig yn nes at gartref, mae llawer o sylw’n cael ei hoelio’n aml ar gyflawniadau Gwasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS), UK Government Digital Service.
Ymhlith pethau eraill, mae GDS, ers ei sefydlu yn 2011, wedi:
- creu llwyfan cyhoeddi unigol i’r llywodraeth, sef GOV.UK a gyfunodd filoedd o wefannau’r llywodraeth yn un fersiwn cyfeillgar i’r defnyddiwr
- adeiladu a chefnogi llwyfannau, gwasanaethau, cydrannau a theclynnau cyffredin – gan arbed amser ac egni i bobl sy’n gysylltiedig â llunio gwasanaethau
- arbed biliynau o bunnoedd drwy gaffael o’r canol ar ffurf ‘Marchnad Ddigidol’
- dosbarthu dros 2 biliwn o negeseuon i ddinasyddion, a mabwysiadu dros 4,000 o wasanaethau cyhoeddus drwy GOV.UK Notify
Nid oes modd atgynhyrchu profiadau GDS o reidrwydd ym mhobman a dyna pam rydyn ni’n awyddus, yn rhan o’r adolygiad tirwedd, i ddysgu o ystod eang o Unedau Llywodraeth Ddigidol.
Ac nid gan unedau ar lefel genedlaethol yn unig y mae gennym ddiddordeb dysgu. Mae llawer o arloesi digidol rhagorol wedi digwydd hefyd ar lefel llywodraeth ranbarthol, wladwriaethol, ddinesig a lleol, fel yn San Francisco lle mae cannoedd o wefannau llywodraeth leol yn cael eu cyfuno’n un parth sy’n gyfeillgar i’r defnyddiwr.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r adolygiad tirwedd?
Rydyn ni’n hyderus bod llawer o wersi gwych y gallwn eu dysgu – yn llwyddiannau ac yn fethiannau – wrth Unedau Llywodraeth Ddigidol.
Fel damcaniaeth gychwynnol, rydyn ni wedi nodi rhestr hir o “bethau mae Unedau Llywodraeth Ddigidol wedi’u gweithredu’n llwyddiannus” ac rydyn ni’n defnyddio hyn i arwain ein syniadau ynghylch a allen nhw fod o gymorth wrth osod blaenoriaethau CDPS wrth symud ymlaen.
Ar y rhestr hir, mae:
- ail-lunio gwasanaethau, drwy drawsffurfio gwasanaethau a oedd yn rhai analog neu’n rhai analog i raddau helaeth yn flaenorol (e.e. rhai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy’r post/ar bapur) a’u gwneud yn hygyrch yn ddigidol
- cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio gwasanaethau digidol sydd eisoes yn bodoli, naill ai drwy eu gwella i ateb anghenion defnyddwyr yn well neu orfodi’r defnydd ohonyn nhw
- datblygu llwyfannau a chydrannau a rennir (fel gwasanaethau gwe-letya yn y cwmwl neu wasanaethau hysbysu) y gellir eu creu unwaith a’u hailddefnyddio ar draws Cymru
- nodi arfer gorau a rhannu hyn rhwng sefydliadau
- uwchsgilio timau ym maes trawsnewid digidol a llunio gwasanaethau
- datblygu safonau cyffredin ar gyfer gwasanaethau
- cynnig mewnwelediadau data i’r rhai sy’n creu ac yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau
- creu cyfleoedd i unigolion gyrchu eu data eu hunain a gwybod sut mae’n cael ei ddefnyddio
Fodd bynnag, nid ydyn ni’n cymryd dim o hyn yn ganiataol – rydyn ni hefyd yn rhagweithiol yn ceisio mantoli a fyddai modd atgynhyrchu’r cyflawniadau hyn o fannau eraill yma, ac a oes unrhyw beth ar goll.
Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n cael llawer o sgyrsiau gydag unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r byd sydd wedi chwarae rhan fawr yn natblygiadau’r Unedau Llywodraeth Ddigidol.
Os hoffech rannu rhai o'ch profiadau gyda ni, mae croeso i chi gysylltu! Gadewch sylw isod neu gallwch ein trydar ar @cdps_cymru