Pan wnaethom sefydlu cymuned Ymchwil Defnyddwyr Cymru ym mis Ebrill 2023, doedden ni ddim wir yn gwybod sut dderbyniad y byddai cymuned o'r fath yn ei chael, ond, ar 12 Rhagfyr y llynedd, daeth y gymuned ynghyd ar gyfer ei thrydydd digwyddiad wyneb yn wyneb. Rydym hefyd wedi cynnal bron i 20 o sesiynau cymunedol ar-lein – mae hyn yn gyflawniad rhagorol.  

Roedd ein dau ddigwyddiad wyneb yn wyneb blaenorol yn ymwneud â dysgu dulliau ymchwil defnyddwyr a chynnal ymchwil gyda siaradwyr Cymraeg. Y tro hwn, roedd y diwrnod yn ymwneud â rhannu ein gwaith ymchwil a rhwydweithio. Daeth y pwnc o ganlyniad i'n haelodau yn rhannu gyda ni eu bod yn dymuno deall pa ymchwil arall sydd ar waith yn sector cyhoeddus Cymru a chael cymorth sut i ddod o hyd i gyfleoedd i ddysgu oddi wrth eraill a chydweithio. 

Yn ystod y sesiwn, gofynnon ni i'n haelodau rannu rhai manylion am brosiectau ymchwil cyfredol a phrosiectau blaenorol a myfyrio ar y llwyddiannau, yr heriau a'r gwersi a ddysgwyd. Aethon ni ati i gasglu'r wybodaeth hon ac arddangos yr wybodaeth ar y waliau fel y gallai pawb weld yr amrywiaeth o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.

Roedd yn syndod gweld ystod a dyfnder y gwaith ymchwil sydd ar waith ar draws ein cymuned. Roedd yna cymaint o amrywiaeth – sut i drefnu MOT ar y car, gwella gwasanaethau treth gyngor i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl sydd ag anhwylderau bwyta. Roedd yn amlwg nad fi oedd yr unig berson oedd wedi'i synnu faint o ymchwil gwych sy'n cael ei wneud.

Photo of user researcher Tom Brame working on sticky notes with a smiling woman. The background is filled with community of practice attendees who are also writing and making notes on large sheets of paper in a CDPS CoP workshop.

Yna, fe wnaethon ni rannu yn grwpiau llai i drafod rhai o'r heriau a'r rhwystrau rydyn ni wedi'u hwynebu wrth weithio ar y prosiectau hyn. Yn sgil y trafodaethau, dechreuodd rhai themâu ddod i'r amlwg. Penderfynwyd defnyddio'r themâu hyn fel testun ar gyfer trafodaethau grŵp manylach.  

Dyma rai o'r pynciau fuo ni'n eu trafod: 

  • heriau cynnal ymchwil mwy sensitif ei natur 
  • rhwystrau i gynnal ymchwil yn y Gymraeg 
  • rhwystrau pan nad yw sefydliadau na staff uwch yn parchu gwerth ymchwil defnyddwyr

Gan fyfyrio ar y themâu hyn fel grŵp ehangach, buom yn trafod yr hyn y gallwn ei wneud fel cymuned i helpu i oresgyn heriau a rhwystrau all godi. Rydym bellach yn bwriadu defnyddio'r themâu hyn fel pynciau ar gyfer trafodaethau cymunedol yn y dyfodol a chydweithio fel cymuned i ddatblygu rhai adnoddau a all gefnogi ymchwilwyr sy'n wynebu unrhyw un o'r heriau hyn. Dyma blog arall defnyddiol Ystyriaethau i ymchwil yn y Gymraeg.  

Roedd hi'n braf gweld cymaint yr oedd aelodau ein cymuned yn rhwydweithio a'i gilydd yn ystod y dydd. Roedd rhai pobl yn cwrdd am y tro cyntaf ac yn cael trafodaeth gyffredinol ynghylch y pwnc. Daeth yn amlwg bod rhai o'r aelodau eisoes yn gweithio ar brosiectau ymchwil tebyg iawn ac o ganlyniad, daeth yn amlwg bod cyfle i gefnogi ei gilydd. Er bod hyn yn galonogol iawn, roedd yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i'n gwaith ni gael ei hyrwyddo a'i rannu mewn ffordd glir a gweladwy gan nad yw'r rhan fwyaf o'n cyfoedion yn y sector yn ymwybodol o'r holl waith gwych sy'n cael ei wneud nac yn gwybod ble mae cyfleoedd yn bodoli i rannu gwybodaeth a rhannu profiadau. 

Gan ein bod yn awyddus iawn bod pawb yn cael gwerth o ddigwyddiad o'r fath, gwnaethom gloi'r digwyddiad trwy ofyn beth oedd yr aelodau wedi'i ddysgu, pa gysylltiadau yr oeddent wedi'u gwneud a'r hyn yr oeddent yn bwriadu ei wneud nesaf gyda'u gwybodaeth newydd. Cawsom ymatebion calonogol ac amrywiol iawn i'r cwestiynau hyn; roedd yn amlwg bod digwyddiad o'r math hwn, ble rydyn ni'n dod a'n cymuned o aelodau ynghyd, yn eithriadol o werthfawr. 

Pan ddaeth y diwrnod i ben, penderfynodd 11 ohonom barhau â'n trafodaethau mewn tafarn gyfagos.  Pa ffordd well i ni a'r gymuned ddod i adnabod ein gilydd yn well.