Mae'r gymuned Ymchwil Defnyddwyr yng Nghymru yn cael ei harwain gan aelodau ac mae'n bodoli i:
gysylltu pobl ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ymchwil defnyddwyr neu sy'n ei ymarfer
adeiladu a chefnogi'r arfer o ymchwil i ddefnyddwyr yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru
hyrwyddo pwysigrwydd ymchwil defnyddwyr i ddarparu a dylunio gwell gwasanaethau cyhoeddus
datblygu gwybodaeth a sgiliau ymchwil defnyddwyr o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
trafod, herio a gwella'r ffordd y mae ymchwil defnyddwyr yn cael ei wneud mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
Ar gyfer pwy mae’r gymuned
Nid oes rhaid i chi fod mewn rôl ymchwilydd defnyddiwr i ymuno â'n cymuned.
Rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn, neu’n gwneud, gweithgareddau ymchwil defnyddwyr yng Nghymru.
Sut rydyn ni’n cwrdd
Rydym yn cynnal sesiynau cymunedol misol ar Microsoft Teams yn ystod wythnos olaf pob mis.
Rydym yn cynnal sesiynau amrywiol gan gynnwys cyflwyniadau, gweithdai a chlinigau datrys problemau. Rydym yn sgwrsio am ymchwil defnyddwyr, yn rhannu gwybodaeth, yn cefnogi ein gilydd, ac yn cydweithio ar ddatrys materion ymchwil defnyddwyr go iawn.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ddwywaith y flwyddyn i rwydweithio a chydweithio.
Sut i gymryd rhan
Mae'r gymuned yn wirfoddol a wastad yn agored i aelodau newydd.
Byddwn yn anfon gwahoddiad drwy e-bost atoch i ymuno â'n cymuned ar Microsoft Teams. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).
Arweinydd cymunedol
Gabi Mitchem-Evans, Uwch Ymchwilydd Defnyddiwr – gabi.mitchem-evans@gwasanaethau cyhoeddusdigidol.llyw.cymru