Mis diwethaf (Ionawr 2025), cawson ni  sesiwn gynhyrchiol. Fe wnaethon ni adolygu prototeip, trafod rhaglenni prototeipio a dechrau trafod cynnwys cynaliadwy. 

I dorri’r garw, fe wnaethon ni rannu uchafbwyntiau'r Nadolig  neu’r flwyddyn newydd (gan gynnwys dargyfeiriad yn y sgwrs am ffilm newydd Wallace a Gromit!) 

Yna, buon ni’n: 

  • awgrymu pynciau yr oedden ni am siarad amdanynt 
  • pleidleisio ar yr hyn yr oedden ni am eu trafod fwyaf 
  • trafod y pynciau gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau 

Adolygu prototeip 

Dangosodd Claire, sy'n rhan o'r tîm sy’n archwilio sut y gall datrysiadau digidol wneud gwasanaethau cynllunio yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac effeithiol, y cynnwys drafft ar y gwasanaeth cyn ymgeisio i'r gymuned.  

Mae'r cynnwys yn cyfeirio at awdurdod lleol ffuglennol o'r enw Pontypandy.  

Gweithiodd hyn yn rhannol fel crit cynnwys, ac yn rhannol fel adolygiad gan gymheiriaid (2i) ac roedd yn gweithio'n wych. Buon ni’n siarad am: 

Rhoddodd yr aelodau gyngor ac adborth adeiladol. Ac roedd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol i ni ymarfer rhoi adborth a chlywed am arfer gorau.  

Os ydych chi'n aelod ac eisiau defnyddio peth amser i ddangos rhywbeth rydych chi'n gweithio arno a chael adborth a chyngor, cysylltwch â ni a gallwn drefnu hyn. 

Rhannu offer prototeipio 

Buon ni hefyd yn siarad am raglenni prototeipio mwy datblygedig.Doedd hwn ddim yn faes roedd ganddon ni lawer o gyngor arno. Llwyddwyd i roi aelod mewn cysylltiad â'r dylunydd rhyngweithio yn CDPS i ddilyn rhai o'r agweddau mwy technegol ar feddalwedd prototeipio uwch. 

Cynaliadwyedd mewn cynnwys 

Cafodd hyn ei sbarduno gan ddarllen y llyfr cynnwys Cynaliadwy yn ddiweddar. Dwi'n credu bod dylunio da yn gynhenid yn ddylunio cynaliadwy (pethau fel llai o gamau yn y daith a thudalennau llai o faint).  

Yr hyn a'm trawodd oedd y cyfle i ddefnyddio cynaliadwyedd fel lens arall i fesur effaith dylunio da a chynnwys da. 

Yn y llyfr mae fformiwlâu a fframweithiau soffistigedig (ond hawdd eu dilyn) i ddeall yr effaith hon mewn termau real (megis y nifer gyfatebol o geir ar y ffordd). 

Rhannodd yr aelodau ddolenni at adnoddau eraill a gwaith a wnaed yn y maes hwn hefyd: 

Yr hyn na chawson ni amser i'w drafod: 

  • rhannu ein barn ar gynnwys i esbonio cymhwysedd pan fydd y meini prawf yn bopeth o fewn un rhestr, ac yn un eitem o'r rhestr ganlynol 
  • parhau i ddefnyddio X fel prif sianel gyfathrebu 
  • gwrthdaro rheng pensaernïaeth a dylunio cynnwys - sut i sicrhau bod y ddau lais yn cael eu clywed

Ymunwch â chymuned Dylunio Cynnwys Cymru i fod yn rhan o sesiynau fel hyn yn y dyfodol a dod i adnabod aelodau eraill.