Ar gyfer pwy mae’r gymuned

  • dylunwyr cynnwys
  • unrhyw un sy’n gwneud gweithgareddau dylunio cynnwys
 

Sut rydyn ni'n cyfarfod

Mae’r grŵp yn cwrdd ar Microsoft Teams ar drydydd dydd Iau bob mis am 2pm.

Pam ymunwch, byddwch yn cael gwahoddiad i blatfform Basecamp lle rydyn ni'n cysylltu rhwng cyfarfodydd i drafod syniadau, adborth ac unrhywbeth diddorol.

 

Diwylliant

Dylai aelodau’r gymuned bob amser drin ei gilydd gyda pharch a bod yn:

  • garedig
  • ystyriol
  • adeiladol
  • cynorthwyol
  • cefnogol

Dydyn ni ddim yn cofnodi ein cyfarfodydd rhithiol rheolaidd.

Dyma ofod diogel i ddylunwyr cynnwys drafod eu heriau’n agored. Dylai’r aelodau barchu bod eraill o bosib yn rhannu problemau yn gyfrinachol. 

Os ydyn ni’n dewis dweud wrth eraill beth rydyn ni wedi bod yn ei drafod, ni fyddwn yn rhannu’r manylion am bwy ddywedodd beth.

 

Ymunwch â chymuned Dylunio Cynnwys Cymru

Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.

Os hoffech chi ymuno â’r gymuned hon, llenwch y ffurflen:

Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).