Mae awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (AI) ar wahanol gamau o gael eu defnyddio ar draws sector cyhoeddus Cymru ac maent eisoes yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae'r sector yn darparu gwasanaethau.

Nod y prosiect hwn oedd deall aeddfedrwydd a pharodrwydd ar gyfer awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial ar draws sector cyhoeddus Cymru a chael dealltwriaeth glir o agweddau, arferion, prosesau a sgiliau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial cyfredol y sector cyhoeddus, i gael syniad sut olwg fyddai ar gymorth yn y dyfodol, yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.

Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru i gwblhau cyfnod darganfod 6 wythnos.

Effaith

Ein prif ganlyniad i'r cyfnod darganfod hwn oedd sefydlu cymuned ymarfer awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial newydd, i archwilio sut i roi dulliau awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial ar waith mewn ffordd gyfrifol, foesegol a diogel gydag aelodau o'r gymuned.

Arweiniodd y cyfnod darganfod hwn hefyd at roi cymorth pellach i'r sector gan gynnwys cynnal gweminarau rhannu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau deallusrwydd artiffisial gan gynnwys rheoli tuedd, caffael a bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Roedd y gweminarau hyn yn boblogaidd iawn gan ddenu cyfanswm o 622 o bobl ar draws y gyfres 5 rhan a gwyliodd 4777 o bobl y fideo amdanynt ar YouTube.

Y camau nesaf

Ein camau nesaf yw parhau i adeiladu ein cymuned ymarfer newydd a galluogi aelodau o'r gymuned a'r grŵp llywio i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd nesaf.

Darllen mwy

‘A ddylwn i bryderu am AI?'

Sut mae'n bodloni ein hamcanion

Amcanion CDPS:

Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.

Amcan 4: Defnyddio allbwn yr adolygiad tirlun i lunio blaenoriaethau CDPS nawr ac yn y dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatrys materion a phryderon sectorol neu ddaearyddol a rennir ar y cyd.

Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym meysydd digidol, data a thechnoleg.

Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well.

Amcan 7: Dylai'r Ganolfan gefnogi Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar lefel Llywodraeth y DU i helpu i lunio blaenoriaethau polisi a helpu eraill i sicrhau buddsoddiad cyhoeddus a phreifat i Gymru.

Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Meddwl yn yr hirdymor
  • Integreiddio
  • Cynnwys
  • Cydweithio
  • Atal

7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang