Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gall atebion digidol wella cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth cynllunio yng Nghymru.
Gwnaethom rannu'r prosiect yn ddau gam:
- y cam cyn-darganfod
- darganfod
Yn ystod y cyfnod cyn darganfod, gwnaethom gynnal ymchwil bwrdd gwaith i ddeall y gwasanaeth cynllunio presennol, edrych ar wahanol wefannau cynllunio awdurdodau lleol i ddeall sut maent yn gweithio, dechrau ymgysylltu yda rhanddeiliaid a chynnal gweithdai i ddiffinio cwmpas y prosiect.
Mynychodd y tîm Ysgol Gaeaf Caerdydd ym maes Cynllunio Digidol i rwydweithio a dysgu am offer cynllunio digidol newydd i wella'r gwasanaeth.
Yn y cyfnod darganfod, ein ffocws oedd ymchwilio a deall yr heriau a'r rhwystrau o fewn y broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio.
Canfyddiadau hyd yn hyn
Mae'r sector cynllunio yng Nghymru yn gymhleth. Yn dilyn gohebu â rhanddeiliaid allweddol, daethom ar draws sawl problem ar draws y gwasanaeth cynllunio cyfan:
- diffyg adnoddau – anhawster yn recriwtio a chadw arbenigwyr
- systemau TG aneffeithlon
- systemau anghyson ar draws gwahanol awdurdodau cynllunio lleol
- y defnyddiwr yn cael anhawster i ddeall gwybodaeth– polisïau yn gymhleth
- ansawdd y ceisiadau cynllunio yn wael
- anawsterau wrth geisio rhannu gwybodaeth gyda'r cyhoedd
- diffyg dulliau o gael adborth
- diffyg ymddiriedaeth ymysg y cyhoedd
- cost y cais ddim yn ymgorffori ffioedd cysylltiol
Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn hanfodol os ydym am wella effeithiolrwydd a hygyrchedd y gwasanaeth cynllunio yng Nghymru.
Effaith
Rydym yn dal parhau i fod yn y cam darganfod, ond yr effaith hyd yma yw ein bod wedi llwyddo i ddod â'r bobl iawn ynghyd i dynnu sylw, ynghyd â thystiolaeth, at yr heriau sy'n wynebu pobl sy'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Y camau nesaf
Bydd y prosiect hwn yn parhau ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Ein camau nesaf yw dod a'r cyfnod darganfod i ben ac ysgrifennu adroddiad i Lywodraeth Cymru gyda’r canfyddiadau a’r argymhellion.
Gwyliwch ein sioe dangos a dweud
Sut mae'n bodloni ein hamcanion
Amcanion CDPS:
Amcan 1: Cefnogi arweinyddiaeth a diwylliant ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus i yrru’r gwaith o lunio polisïau digidol da a chefnogi trawsnewid digidol.
Amcan 2: Cefnogi eraill i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol trwy eu helpu i greu gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr.
Amcan 5: Parhau i hyrwyddo defnydd a rennir o'r technolegau a chreu ac ymgorffori safonau cyffredin a rennir ym meysydd digidol, data a thechnoleg.
Amcan 6: Camau i helpu busnesau yng Nghymru i ddiwallu anghenion trawsnewid digidol gwasanaethau cyhoeddus yn well.
Y Pum Ffordd o Weithio – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Meddwl yn yr hirdymor
- Integreiddio
- Cynnwys
- Cydweithio
- Atal
7 nod llesiant – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang