Trosolwg

Dyma'r camau a gymeron ni wrth weithio ar gyd-ddylunio cynnwys ar gyfer y cymorth Prydau Ysgol am Ddim.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynnwys, offer a thempledi y gallwch eu hailddefnyddio yn eich prosiectau eich hun.

Straeon defnyddwyr

Yn dilyn ymchwil desg, fe wnaethon ni ddatblygu straeon defnyddwyr. Mae'r rhain yn ein galluogi i ddeall cymhellion ein defnyddwyr a sut y gall y cynnwys hwn eu helpu.

Fel… person sydd angen cymorth ariannol
Dw i eisiau… gwybod i bwy mae’r gefnogaeth ar gael
Er mwyn... deall os ydw i’n gymwys

Fel… person sy’n gwneud cais am y cymorth hwn 
Dw i eisiau… gwybod pryd y bydd fy’mhlentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim
Er mwyn… gallu cynllunio yn ariannol

Fel… rhiant neu ofalwr sydd angen cymorth ariannol
Dw i eisiau… gwybod beth yw'r meini prawf cymhwysedd
Er mwyn… peidio â gwneud cais am gymorth nad wyf yn gymwys i’w dderbyn.

Fel… person sy'n gwneud cais am y cymorth hwn
Dw i eisiau… gwybod erbyn pryd i wneud cais
Er mwyn… peidio â methu’r dyddiad cau.

Fel… person s'yn gwneud cais am y cymorth hwn
Dw i eisiau... .gwybod pa fath o wybodaeth sydd ei angen i mi fod yn gymwys
Er mwyn... bod y wybodaeth i gyd yn barod

Fel… person sy'n gwneud cais am y cymorth hwn
Dw i eisiau... gwybod pryd fydd fy mhlentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim
Er mwyn... creu cynllun ariannol

Fel… person sy'n gwneud cais am y cymorth hwn
Dw i eisiau... gwybod beth yw’r camau nesaf
Er mwyn... teimlo’n dawelach fy meddwl gyda dealltwriaeth glir o’r disgwyliadau

Fel… person sy'n gwneud cais am y cymorth hwn
Dw i eisiau... gwybod os oes cefnogaeth arall ar gael
Er mwyn... gwneud cais a derbyn cymorth ychwanegol 

Fel… rhiant neu warcheidwad plentyn yn yr ysgol
Dw i eisiau... gwybod am y gwahaniaeth rhwng FSM a UPFSM
Er mwyn... gwybod os oes angen i mi wneud cais neu beidio

Meini prawf derbyn

Rydyn ni'n ysgrifennu meini prawf o safbwynt y defnyddwyr. Maent yn ein helpu i wybod pryd bydd y gwaith wedi llwyddo. Mae’r gwaith wedi'i gwblhau pan...

dwi'n gwybod...    

  • os ydw i’n gymwys neu beidio am y gefnogaeth hon 
  • beth yw’r gefnogaeth sydd ar gael 
  • sut mae’n gweithio 
  • beth yw cymhwysedd y meini prawf  
  • pryd mae angen i mi wneud cais 
  • pa wybodaeth sydd ei angen i mi gymhwyso 
  • beth sy’n digwydd nesaf 
  • gwybodaeth am brydau ysgol am ddim 2024 

dwi'n teimlo...  

  • sicrwydd fy mod yn deall popeth sydd ei angen arnaf i wneud cais am y cymorth hwn 
  • cefnogaeth heb farnu 
  • dwi’n deall y wybodaeth 
  • dwi’n hyderus yn fy mhenderfyniad a gyda’r broses 

dwi'n gallu... gwneud cais am gefnogaeth yn llwyddiannus

Gweithdai

Fe wnaethon ni gynnal gweithdai ar-lein yn ystod y prosiect er mwyn: 

  • adnabod anghenion defnyddiwr o fewn awdurdodau lleol 
  • dangos i awdurdodau lleol sut mae defnyddiwr yn profi cynnwys nad yw’n defnyddiwr ganolog 
  • ysgrifennu triawd - cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda arbenigwr pwnc gan Llywodraeth Cymru 
  • adolygu’r cynnwys newydd gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru 
Sgrinlun o fwrdd Miro ar gyfer y gweithdy cyd-greu cynnwys

Sgrinlun o fwrdd Miro yn dangos anghenion y defnyddwyr

 Sgrinlun o fwrdd Miro cydweithredol i adolygu cynnwys

Prototeipio

Fe wnaethon ni adeiladu prototeip i brofi a datblygu syniadau gyda defnyddwyr.

Fe adeiladon ni brototeip rhyngweithiol cywair-canolig mewn rhaglen o'r enw Figma. Mae Figma yn ddarn o feddalwedd 'dim cod' sy'n golygu ei fod yn ddewis cadarn ar gyfer adeiladu'r amgylchedd yn gyflym i gartrefu'r cynnwys dwyieithog yr oeddem wedi'i ddylunio. 

Rydym wedi ei gynllunio i deimlo'n gyfarwydd i ddefnyddwyr, gyda:

  • arddulliau'r llywodraeth
  • cymysgedd o wefannau awdurdodau lleol
  • fersiynau bwrdd gwaith a symudol

Ar ôl i'r rhain gael eu dylunio, roedd yn rhaid i ni eu profi gyda darpar-ddefnyddwyr. Fe wnaethon ni eu profi ar y ddyfais y byddai defnyddiwr fel arfer yn ei defnyddio.

Sgrinlun yn dangos tudalennau prototeip o gynnwys Ysgol am Ddim

Profi defnyddioldeb

Cynhalion ni rownd o brofion defnyddioldeb i adolygu a phrofi'r tudalen prototeip Prydau Ysgol am Ddim. Cafodd y prototeip hwn y cynnwys newydd ei ddrafftio gyda chyfraniad  awdurdodau lleol.

Amcanion profi defnyddioldeb 

Roeddeni ni am wybod a oedd defnyddwyr yn gweld y cynnwys hwn yn ddealladwy, yn gywir, yn gyson ac yn hygyrch. Yn benodol, roeddem yn awyddus i ddarganfod a oedd:   

  • y cynnwys yn glir ac yn hawdd ei ddeall  
  • yr holl wybodaeth sydd ei angen yn y cynnwys
  • y cynnwys Cymraeg o safon gyfartal i'r Saesneg

Cyfranogion 

Llwyddon ni i recriwtio cyfranogwyr drwy Rwydwaith Rhiant-lywodraethwyr Gwent. Cawson ni 200 o ymatebion, gyda’r rhan fwyaf yn cael eu hychwanegu at ein panel cyfranogwyr ymchwil defnyddwyr. 

Roedd hi’n anoddach i ni recriwtio cyfranogwyr Cymraeg. 

Profon ni 4 o gyfranogwyr Saesneg eu hiaith o wahanol awdurdodau lleol yn ne ddwyrain Cymru, a 3 o siaradwyr Cymraeg o ogledd a de Cymru. 

Casglon ni rywfaint o fewnwelediad defnyddiol er mwyn ein galluogi i symud ymlaen i ddadansoddi.

Sut aethom ati

Gwnaethon ni gynnal y profion o bell a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr:

  • am strwythur y cynnwys
  • pa mor hawdd oedd deall y cynnwys
  • a oedd yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen ar y cyfranogwr yn y cynnwys

Canfyddiadau 

  • Soniodd y rhan fwyaf o’r cyfrangwyr am eu profiadau negyddol o ddefnyddio gwefannau’r cyngor 
  • Nid yw’r cyfranogwyr yn defnyddio gwefannau’r cyngor yn rhagweithiol i gael gwybodaeth a brydau ysgol am ddim. Maen nhw’n derbyn y wybodaeth drwy e-byst gan yr ysgol a chylchlythyrau 
  • Nid yw cyfranogwyr yn gweld gwefannau’r cyngor yn hawdd i’w defnyddio 
  • Roedd y newidiadau i brydau ysgol am ddim yn drysu cyfranogwyr yn enwedig pan roedd rhai rhieni yn cael eu hannog i wneud cais hyd yn oed pan fyddan nhw'n derbyn Prydau Ysgol am ddim yn awtomatig 
  • Mae rhai rhieni’n poeni am y stigma sydd ynghlwm wrth dderbyn prydau ysgol am ddim 
  • Nid yw siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gyfarwydd gyda termau Cymraeg y gwasanaethau 
  • Mae’r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn cael mynediad at wybodaeth am gostau byw drwy eu dyfeisiau symudol 
  • Nid yw rhieni ar fudd-daliadau yn ymwybodol nac yn gwirio pa gymorth gallent fod ym gymwys i’w gael 
Sgrinlun o fwrdd Miro i fapio'r canfyddiadau

Templedi cynnwys

Cynnwys ar gyfer Prydau Ysgol am ddim 2023 hyd 2024.docx
Cynnwys y gallwch ei ailddefnyddio ar wefan eich awdurdod lleol am y cymorth Prydau Ysgol am ddim.

HTML y cynnyws Ysgol am ddim (Saesneg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Saesneg o gynnwys Prydau Ysgol am ddim.

HTML y cynnwys Prydau Ysgol am ddim (Cymraeg).html
Gallwch ailddefnyddio'r fersiwn HTML Cymraeg o gynnwys y Prydau Ysgol am ddim.

 

Cysylltu â ni

Cysylltwch ag ed.cann@digitalpublicservices.gov.wales i gymryd rhan mewn prosiectau gyda ni yn y dyfodol. 

Adnoddau eraill