Trosolwg
Nid oes gan unrhyw unigolyn yr holl sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, adeiladu a darparu gwasanaeth cyhoeddus. Er mwyn bodloni anghenion defnyddwyr, mae angen tîm traws-swyddogaethol arnoch a all ddysgu, addasu a chyflawni gyda'i gilydd.
Mae timau da yn rhannu cyfrifoldeb, yn cydweithio ac yn ymateb yn gyflym i newid. Nid yw eu sefydlu yn ymwneud â theitlau swyddi yn unig. Mae'n ymwneud â diwylliant, ymddiriedaeth a chael pwrpas clir.
Adeiladu timau amlddisgyblaethol
Mae sefydliadau'n aml yn trefnu pobl yn ôl swyddogaethau ac adrannau, fel cael tîm o ddadansoddwyr a datblygwyr ar wahân. Gall hyn arafu’r gwaith cyflawni a chreu seilo.
Mae timau amlddisgyblaethol yn draws-swyddogaethol. Maent yn cyfuno gwahanol rolau o fewn un grŵp sy'n canolbwyntio ar wasanaeth.
Dysgu beth yw tîm aml-ddisgyblaethol llwyddiannus a buddiannau tîm aml-ddisgyblaethol.
Gallant:
- gydweithio bob dydd
- gwneud penderfyniadau gyda'i gilydd
- rhannu atebolrwydd am ganlyniadau
Yn sgil hyn, gallwn gael adborth yn gynt a gwella ansawdd y gwaith. Er ei bod hi'n cymryd amser i symud oddi wrth weithio mewn seilo swyddogaethol, mae'r buddiannau yn werth yr ymdrech.
Rolau'r tîm craidd
Mae'r rhan fwyaf o dimau gwasanaeth ystwyth angen cymysgedd o rolau, sgiliau a phrofiadau. Mae’r union rolau yn dibynnu ar y gwasanaeth a’r anghenion. Gall gynnwys:
- rheolwr cynnyrch: sy’n berchen ar y weledigaeth, yn rheoli'r rhestr o dasgau ac yn cydbwyso anghenion y defnyddwyr a’r sefydliad
- rheolwr cyflawni: sy’n cefnogi'r tîm i weithio'n effeithiol ac yn cael gwared ar rwystrau
- ymchwilydd defnyddiwr: sy’n casglu tystiolaeth am anghenion pobl a phrofi syniadau
- dylunwyr: dylunwyr gwasanaeth, dylunwyr cynnwys neu ddylunwyr rhyngweithio sy’n gwneud gwasanaethau yn glir, yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio
- datblygwyr: sy’n adeiladu a chynnal elfennau technegol o'r gwasanaeth
Yn dibynnu ar y gwaith a'r sefydliad, gall y rolau hyn orgyffwrdd. Er enghraifft, gall dylunwyr:
- feithrin diwylliant o gydweitho
- sicrhau fod y gwaith yn cyd-fynd â’r weledigaeth
- cynnwys rhanddeiliaid i gynyddu eu hymrwymiad a’u dealltwriaeth
Mae rheolwyr cynnyrch a chyflawni yn elwa o gynnwys y tîm cyfan wrth lunio strategaeth. Yr hyn sy'n bwysig yw cwmpasu'r ystod lawn o sgiliau sydd eu hangen i ddeall problemau, dylunio atebion a'u darparu.
Dysgu am y rolau gwahanol a all fod eu hangen yn eich tîm (GOV.UK - Saesneg y unig).
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Yng Nghymru, mae timau yn aml yn fach ac mae rolau arbenigol yn gyfyngedig. Efallai na fyddwch yn gallu ffurfio tîm traws-swyddogaethol llawn ar unwaith.
Dechreuwch gyda'r hyn sydd ar gael a llenwi bylchau gam wrth gam:
- os nad oes gennych ymchwilydd defnyddiwr, cynhaliwch brofion syml a chael cymorth gan eraill
- os yw sgiliau dylunio yn brin, canolbwyntiwch ar gynnwys a defnyddiwch adnoddau a rennir fel y Llawlyfr Gwasanaeth a phatrymau
- os yw rolau yn rhan-amser, nodwch yn glir gyfrifoldebau eich tîm
Defnyddiwch dystiolaeth o anghenion defnyddwyr i gyflwyno'r achos dros ychwanegu mwy o swyddi dros amser.
Creu'r amodau cywir
Mae timau angen mwy na'r rolau a'r arbenigedd cywir. Mae arnynt angen yr amgylchedd cywir a diogelwch seicolegol.
Creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n gyffyrddus yn rhannu syniadau, yn cymryd risgiau a dysgu o gamgymeriadau. Dyna beth sy'n gwneud cydweithredu gonest a gwelliant parhaus yn bosibl.
Er mwyn creu'r amgylchedd hwnnw, rhaid:
- lleihau'r haenau sefydliadol: mae pawb yn cyfrannu safbwyntiau gwahanol
- cytuno ar arferion cyffredin: cyd-greu cytundebau cyffredin ar ymddygiad, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu
- alinio'r tîm: defnyddio cynfas tîm i alinio ar bwrpas, gwerthoedd, ffyrdd o weithio a diffiniad cyffredin o ‘wedi'i gyflawni’
- gwrando'n gyntaf: cynnal sesiynau adlewyrchu a gwiriadau tîm i fyfyrio, monitro lles a gwella
Mae arferion bach fel y rhain yn creu ymddiriedaeth, didwylledd a gwell gwaith tîm. Pan fydd timau yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac y gellir ymddiried ynddynt, gallant ganolbwyntio ar ddarparu gwerth i ddefnyddwyr.
Cynllunio ar gyfer cydweithredwyr a chefnogwyr
Anaml y caiff gwasanaethau eu darparu gan ddim ond y tîm craidd. Ystyriwch y bobl y tu allan i'ch tîm uniongyrchol sy'n eich helpu i ddarparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth.
Mae rhanddeiliaid y gallwch eu mapio i'w hystyried yn cynnwys:
- cydweithwyr: arbenigwyr sy'n darparu arbenigedd, fel cydweithwyr cyfreithiol neu bolisi
- cefnogwyr: rhoi diweddariadau rheolaidd i uwch arweinwyr neu bartneriaid
Mae eu hystyried yn gynnar yn helpu i osgoi pethau annisgwyl ac oedi, ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cyd-fynd â nodau ehangach.
Enghreifftiau ymarferol
Gall tîm traws-swyddogaethol, amlddisgyblaethol amrywio yn ei ffurf gan ddibynnu ar y gwasanaeth a'r sefydliad.
Gall tîm awdurdod lleol fod yn amlddisgyblaethol er mwyn:
- ail-ddylunio gwasanaeth trwsio tai
- cyd-weithio pob dydd
- gostwng amseroedd aros
- gwella boddhad
Gall tîm gwasanaeth iechyd fapio rhanddeiliaid er mwyn:
- cynllunio pryd i gynnwys arbenigwyr cyfreithiol a diogelu data
- osgoi oedi wrth i’r gwaith cyflawin fynd yn ei flaen
Gall tîm bach Cymreig sydd a dim ond ychydig o rolau:
- gynnal ymchwil syml
- benthyg cymorth technegol
- profi gwerth y gwaith i sicrhau cael rheolwr cynnyrch yn nes ymlaen
Cynnwys cysylltiedig
Cyfleoedd a heriau adeiladu sgiliau digidol
Dyma adnoddau allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:
- Roles and tasks in a digital project (gov.scot)