Trosolwg

Mae cyflawni mewn dull ystwyth yn helpu timau i ddylunio gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, sy'n hygyrch ac yn gallu gwella dros amser. Enwau’r pedwar cam yw: 

  • darganfod 
  • alffa 
  • beta 
  • byw 

Mae pwrpas clir i bob cam. Gyda'i gilydd maen nhw’n ffurfio cylch bywyd sy'n helpu timau i wneud gwelliannau yn gynnar, profi rhagdybiaethau ac addasu i newid. 

Mae hyn yn wahanol i ddulliau traddodiadol o reoli prosiectau. Mae prosiectau yn aml yn dechrau gyda chynllun sefydlog ac yn cael eu mesur yn ôl amser a chyllideb. Mae camau’r dull ystwyth yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau positif ar sail anghenion y defnyddwyr a gwella’n barhaus. 

Y cam darganfod: deall defnyddwyr a'r broblem

Dysgu cyn adeiladu yw pwrpas y cam darganfod. Mae hyd y cam hwn yn dibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei wybod eisoes a'r hyn y mae angen i chi ei ddysgu i symud ymlaen. 

Yn ystod y cam darganfod, bydd y tîm yn: 

  • siarad â defnyddwyr i ddeall eu hanghenion, eu hamcanion a’r hyn sy'n achosi rhwystr iddynt
  • archwilio cyfyngiadau megis polisi, technoleg a chyllideb 
  • diffinio sut beth yw llwyddiant 
  • dechrau mapio llwybr bras a chreu rhestr o dasgau 

Y nod yw deall y broblem yn ddigon da i benderfynu a ydych chi am symud i gam alffa, ac os felly, beth i'w brofi yno. 

Dyma adnodd allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:

Y cam alffa: creu prototeipiau a phrofi syniadau

Arbrofi, archwilio'r broblem a phrofi datrysiadau posibl yw nod alffa.

Yn ystod y cam alffa, mae'r tîm yn: 

  • adeiladu prototeipiau i brofi gwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem 
  • ymchwilio gyda nifer fach o ddefnyddwyr i weld beth sy'n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio 
  • dysgu'n gyflym, addasu ac esblygu syniadau ar sail adborth 

Y nod yw profi gwahanol ddatrysiadau i'r broblem a nodwyd yn y cyfnod darganfod. Medrwch wedyn ddeall a ddylech ddatblygu unrhyw un o’r datrysiadau ymhellach yn y cam nesaf. 

Dyma adnodd allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:

Y cam beta: adeiladu a gwella

Dechrau siapio’r gwasanaeth a chyrraedd mwy o ddefnyddwyr yw nod beta. 

Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd yn ystod y cam alffa, yn ystod y cam beta, bydd y tîm yn: 

  • adeiladu fersiwn weithredol o'r gwasanaeth (prototeip) 
  • ei brofi gyda defnyddwyr go iawn mewn ffordd ddiogel a realistig 
  • yn ailadrodd ac yn gwella syniadau yn seiliedig ar adborth a data 
  • sicrhau bod y gwasanaeth yn ddibynadwy, yn hygyrch ac yn barod i'w symud ymlaen i'r cam nesaf 

Gall y cam beta fod ar gyfer cynulleidfa fach (beta preifat) neu ar gael i unrhyw un ond yn parhau i gael ei wella (beta cyhoeddus).  

Y nod yw lleihau risg a pharatoi'r gwasanaeth i fynd yn fyw. 

Dyma adnodd allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:

Y cam byw: gweithio, ailadrodd a gwella'n gyson

Mae’r gwasanaeth ar gael yn llawn i bawb ei ddefnyddio yn ystod y cam byw.

Yn ystod y cam byw, mae'r tîm yn: 

  • mesur sut mae'r gwasanaeth yn perfformio trwy ddefnyddio metrigau ac adborth 
  • parhau i ymateb i anghenion defnyddwyr a newidiadau polisi 
  • gwneud gwelliannau wrth i dechnoleg a chyd-destun newid 

Pan fydd y gwasanaeth yn cael ei lansio'n fyw, ni ddaw cyflawni mewn dull ystwyth i ben. Mae timau yn parhau i ddysgu ac addasu ar sail anghenion y defnyddwyr dros amser. 

Dyma adnodd allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:

Llywodraethu ac ariannu pob cam

Wrth i'r gwaith symud drwy'r camau, mae angn newid sut mae’r gwaith yn cael ei lywodraethu a’i ariannu. Mae hyn yn helpu timau i barhau i fod yn atebol a bod yn hyblyg wrth ddarparu gwerth.  

Yn ystod y cam darganfod, gall timau: 

  • sicrhau cyllid ar raddfa fach i archwilio a oes problem wirioneddol 
  • gwirio a oes cyfiawnhad dros newid cyn ymrwymo ymhellach 

Yn ystod y cam alffa, gall timau: 

  • gael cymorth i brofi gwahanol syniadau a dulliau gweithredu 
  • gweithio tuag at wneud penderfyniad clir ynghylch a ddylid symud ymlaen ai peidio 

Yn ystod y cam beta, gall timau: 

  • cael mynediad at fwy o gyllid a goruchwyliaeth wrth i'r gwasanaeth dyfu 
  • canolbwyntio ar wneud gwellinnau gwirioneddol i’r defnyddiwr, nid dim ond adeiladu rhywbeth

 

Yn ystod y cam byw, gall timau: 

  • sicrhau cyllid parhaus i gynnal a gwella'r gwasanaeth 
  • monitro ac addasu'r gwasanaeth yn barhaus wrth i anghenion newid 

Ar ddiwedd pob cam, mae gwirio’r cynnydd yn helpu arweinwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, gan gydbwyso atebolrwydd â hyblygrwydd. 

Dyma adnodd allanol sydd ddim ond ar gael yn Saesneg:

Governance principles for agile service delivery (GOV.UK).  

Enghreifftiau ymarferol

Dychmygwch awdurdod lleol yn ceisio gwella ei wasanaeth trwsio tai. Trwy gynllunio eu gwaith gyda chamau’r dull  ystwyth, mae pob cam yn adeiladu ar yr un blaenorol i gynyddu hyder a lleihau risg. 

 

Yn ystod y cam darganfod, gall timau: 

  • gyfweld tenantiaid 
  • mapio'r daith trwsio tai 
  • nodi heriau, fel prosesau archebu aneglur

 

Yn ystod y cam alffa, gall timau: 

  • creu prototeip o ffurflen archebu ar-lein syml 
  • dysgu bod dangos slotiau amser clir yn lleihau’r dryswch i ddefnyddwyr

 

Yn ystod y cam beta, gall timau: 

  • adeiladu fersiwn weithredol o'r system archebu 
  • ei wneud yn berthnasol i grŵp bach o denantiaid 
  • parhau i wella ar sail adborth defnyddwyr 

 

Yn ystod y cam byw, gall timau: 

  • lansio system newydd 
  • monitro sgorau boddhad a nifer yr ymholiadau sy’n cyrraedd y ganolfan alwadau 
  • ychwanegu nodweddion newydd a datrys problemau

Cynnwys cysylltiedig