Trosolwg
Mae gweithio fel prosiect yn golygu creu rhywbeth sefydlog o fewn amser a chyllideb. Mae'n gweithio ar gyfer codi adeiladau neu greu seilwaith ffisegol. Ond mewn gwasanaethau cyhoeddus mae'n aml yn annigonnol. Hyd yn oed os bydd gwasanaeth yn cael ei lansio ar amser, bydd yn fethiant yn fuan wedi hynny os bydd anghenion defnyddwyr yn newid.
Mae meddwl yn nhermau cynnyrch yn helpu timau i gadw gwasanaethau'n ddefnyddiol. Mae'n canolbwyntio ar beth mae pobl ei angen (canlyniadau) nid dim ond yr hyn mae sefydliadau yn ei greu (allbynnau). Mae timau yn aros gyda'r gwasanaeth, yn ei wella'n rheolaidd ac yn ymateb i adborth.
Cymharu meddwl fel prosiect a meddwl fel cynnyrch
Mae meddylfryd cynnyrch yn helpu timau i ganolbwyntio ar ddatrys problemau defnyddwyr go iawn a chreu gwerth parhaol, nid dim ond gorffen tasgau.
Wrth feddwl yn nhermau prosiect, rydyn ni’n:
- creu timau dros dro i wneud tasg benodol
- mesur llwyddiant trwy gyflawni yn erbyn cwmpas, amser a chyllideb
- cau’r prosiect ar y diwedd
- canolbwyntio ar yr hyn a grëwn (allbynnau): nodweddion neu gyflawniadau a addawyd ar y dechrau
Wrth feddwl yn nhermau cynnyrch, rydyn ni’n:
- creu timau hirhoedlog sy’n aros gyda'r gwasanaeth
- mesur llwyddiant yn ôl y gwahaniaeth i wnawn i ddefnyddwyr ac i sefydliadau
- cyflwyno newidiadau yn aml ar sail adborth
- canolbwyntio ar ganlyniadau: y gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth yn ei wneud ym mywydau pobl
Un waith mae prosiect yn cael ei cyflawni. Mae cynnyrch yn cyflawni drwy’r amser.
Pam bod meddwl yn nhermau cynnyrch yn bwysig yng Nghymru
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu newid parhaus. Mae anghenion defnyddwyr, polisïau, cyllid a thechnoleg yn newid yn gyflym tra bod capasiti llawer o sefydliadau yn gyfyngedig.
Wrth feddwl yn nhermau cynnyrch, rydyn ni’n:
- addasu pan fydd anghenion y defnyddiwr yn newid
- adeiladu a chadw gwybodaeth a sgiliau o fewn y tîm
- lleihau risg trwy wella ychydig ac yn aml
- mesur llwyddiant o ran boddhad, ymddiriedaeth a chanlyniadau, nid terfynau amser yn unig
- gwneud gwaith sy’n cyd-fynd ag amcanion y sefydliad
Enghreifftiau ymarferol
Mae meddwl yn nhermau prosiect yn gweithio pan fydd y nod yn sefydlog, er enghraifft:
- adeiladu ysgol, ffordd neu floc ysbyty
- gosod seilwaith na fydd yn newid yn aml
Mae meddwl yn nhermau cynnyrch yn hanfodol wrth redeg neu wella gwasanaeth, er enghraifft:
- cais budd-daliadau ar-lein y mae'n rhaid iddo ymateb i newidiadau polisi
- gwefan cyngor iechyd sydd angen ei ddiweddaru yn rheolaidd
- system archebu a ddylai wella gydag adborth defnyddwyr
Yn yr achosion hyn, mae trin y gwasanaeth fel cynnyrch yn sicrhau ei fod yn addas i'r diben ac yn parhau i fodloni anghenion pobl dros amser.