Trosolwg
Gall timau ystwyth weithio ar eu gorau pan fydd ganddyn nhw eglurder, ymddiriedaeth a'r rhyddid i arbrofi, profi a dysgu.
Mae arweinwyr yn helpu i sefydlu'r weledigaeth, cael gwared ar rwystrau, a chefnogi penderfyniadau yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Er mwyn arwain timau ystwyth yn effeithiol, canolbwyntiwch ar:
- ba wahaniaeth a wnewch (canlyniadau), nid beth a adeiladwch (allbynnau)
- diffinio’r buddion i ddefnyddwyr a'r sefydliad
- cadw timau gyda'i gilydd yn ystod y camau cyflawni ystwyth
- cyflawni bob yn dipyn ac yn aml, gan ddangos yr hyn a newidiodd yn sgil adborth
- annog ffyrdd digidol, ystwyth a modern o weithio
Grymuso perchnogion gwasanaethau a rheolwyr cynnyrch
Sicrhewch fod un perchennog gwasanaeth wedi'i rymuso ac yn atebol ac yn gyfrifol am y gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd a chanlyniadau'r defnyddwyr, gydag awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch busnes, cynnyrch a thechnoleg.
Gall gwasanaeth ymestyn ar draws amrywiol gynhyrchion a sianeli. Mae perchnogion y gwasanaethau a'r rheolwyr cynnyrch yn gweithio'n agos gyda'r tîm er mwyn:
- sicrhau bod pawb yn symud i'r un cyfeiriad o ran gweledigaeth ac amcanion
- rheoli a blaenoriaethu'r ôl-groniad
- cael gwared ar rwystrau
- canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr a’r gwerth
Er mwyn grymuso eich perchnogion gwasanaeth, rheolwyr cynnyrch a'r tîm, dylech:
- gytuno ar weledigaeth, cenhadaeth ac egwyddorion dylunio clir i’ch helpu i wneud penderfyniadau
- cadw at drywydd (roadmap) sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a nodau defnyddwyr, nid rhestr o nodweddion y cynnyrch
- mesur cynnydd drwy ganlyniadau ac adborth, nid cerrig milltir
- sicrhau bod elfennau craidd y prosiect yn weladwy a'u trafod yn gynnar (cwmpas, amser, pobl)
Mae rheolwyr cyflawni yn gweithio'n agos gyda'r tîm i ddod â phopeth ynghyd ac i'w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithlon ac yn effeithiol.
Dysgu am feddwl yn nhermau cynnyrch a gwasanaeth, nid fel prosiect
Creu'r amodau cywir ar gyfer timau
Mae pobl yn gwneud eu gwaith gorau mewn amgylchedd lle gellir cwestiynu, rhannu syniadau a dysgu o gamgymeriadau. Gallwch arwain drwy esiampl i helpu i adeiladu'r diwylliant hwn trwy:
- rhannu'r hyn rydych chi'n ei wybod, yr hyn rydych chi'n ei ddysgu a phan fydd pethau'n newid
- dathlu dysgu a gwella, nid perffeithrwydd
Creu'r amodau cywir ar gyfer timau
- cyd-greu normau tîm ar gyfer adborth a gwneud penderfyniadau
- cytuno a dogfennu diffiniad cyffredin o pryd mae’r gwaith ar ben
- gweithio mewn dull agored felly mae cynnydd a dysgu i'w gweld
- cael gwared ar rwystrau'n gyflym a neilltuo amser i fyfyrio'n rheolaidd
Cefnogi timau amlddisgyblaethol
Mae timau ystwyth yn gweithio orau pan fydd pobl â sgiliau a safbwyntiau gwahanol yn rhannu un nod ac yn cydweithio o amgylch. Nodwch yn gynnar pwy sydd angen cydweithio, gyda phwy mae angen ymgynghori a phwy sydd angen clywed am y gwaith.
Er mwyn cydweithio mewn ffordd ymarferol, mae angen:
- ffurfio tîm craidd gyda'r rolau a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch
- cynllunio yn gynnar sut i gynnwys cydwithredwyr, megis rhai ym meysydd data, caffael neu’r gyfraith
- cytuno sut i wneud, dogfennu a rhannu penderfyniadau
- rhoi diweddariadau rheolaidd ar sail tystiolaeth i randdeiliaid
- Rhoi’r annibyniaeth i dimau brofi syniadau, dysgu ac addasu
Cynnal iechyd y tîm a gwella’n barhaus
Mae timau ystwyth iach yn gwella’n gyson ac yn barhaus. Dylech ganolbwyntio ar welliannau graddol (nid dim ond cyflymder y gwaith cyflawni) a chymryd camau gweithredu bach, rheolaidd sy'n helpu pobl i fyfyrio, dysgu a chynnal y brwdfrydedd.
Er mwyn cadw timau yn iach, dylech:
- gadw mewn cyswllt yn gyson gyda chyfarfodydd byr
- cynnal adolygiadau i rannu'r hyn sydd wedi newid a'r hyn a ddysgwyd
- cynnal sesiynau retro neu i wirio lles y tim er mwyn cytuno a gweithredu ar welliannau
- addasu cynllunio ac arferion yn seiliedig ar adborth a thystiolaeth
Enghreifftiau ymarferol
Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae arweinyddiaeth a chydweithio yn helpu timau ystwyth ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru i sicrhau gwell canlyniadau i ddefnyddwyr.
Fel perchennog gwasanaeth y cyngor sy'n gweithio mewn gwasanaeth trwsio tai, gallech rymuso eich tîm drwy rannu’r berchnogaeth ac ymddiried ynddyn nhw. I wneud hyn, dylech:
- gynnwys y tîm yn y broses o greu gweledigaeth ac amcanion y gwasanaeth
- cynnal sesiynau adlewyrchu byr i fyfyrio a gwella pob sbrint
- mesur cynnydd trwy fesur y lleihad yn yr amser mae’n cymryd i drwsio tai ac yn y nifer o gwsmeriaid yn cysylltu fwy nac unwaith
Fel rheolwr cynnyrch y bwrdd iechyd, gallech ganolbwyntio ar ganlyniadau drwy:
- ddisodli rhestrau o nodweddion gyda nodau defnyddwyr fel gwella cyfraddau cwblhau neu leihau galwadau
- cynnal adolygiad misol gydag arweinwyr i wneud yn siwr fod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail canlyniadau a gwerth
Fel tîm polisi a dylunio amlddisgyblaethol, gallech gryfhau cydweithredu drwy:
- gynnwys cydweithwyr ym maes polisi, dylunio a thechnoleg yn gynnar i brofi prototeipiau gyda’ch gilydd
- rhannu adborth yn gyflym i leihau ailweithio a gwella dealltwriaeth gyffredin
Fel tîm cynnwys Llywodraeth Cymru, gallech adeiladu safonau cyson a diwylliant dysgu drwy:
- gyd-ysgrifennu diffiniad dwyieithog o pryd mae’r gwaith ar ben gyda gwiriadau hygyrchedd
- adolygu ansawdd yn rheolaidd i wella hyder a chynnal atebolrwydd