Trosolwg
Wrth gyflawni mewn dull ystwyth, mae cynllunio yn barhaus. Mae timau yn gosod amcanion clir, yn dysgu o’u cynnydd ac yn addasu wrth i bethau newid.
Mae cynllunio yn barhaus yn helpu timau i:
- ganolbwyntio ar y gwaith pwysicaf
- ymateb yn gyflym i wybodaeth newydd
- lleihau oedi a gwastraffu ymdrech
Nid yw rheoli cyflawni da yn ymwneud â rheolaeth, ond â gwelededd, cydweithredu a dysgu.
Cynllunio a blaenoriaethu gwaith
Er mwyn cynllunio yn effeithiol:
- cynlluniwch bob yn dipyn ac yn aml
- gweithiwch mewn cylchoedd byr i aros ar yr un trywydd
- sicrhewch fod eich nod yn gyraeddadwy gyda’ch capasiti
- adolygwch ac addaswch eich cynlluniau ar sail yr hyn rydych chi'n ei ddysgu
Mae cynllunio yn digwydd ar wahanol lefelau:
- y trywydd (roadmap): y cyfeiriad hirdymor, yn seiliedig ar y weledigaeth sydd gennych ar gyfer eich cynnyrch
- cynllunio fesul sbrint neu ffenest ryddhau: yr hyn fyddwch chi'n canolbwyntio arno nesaf
- cyfarfodydd dyddiol: cyfarfod byr er mwyn cadw ar y trywydd iawn
I gynnal sesiwn gynllunio, dylech:
- adolygu’r hyn rydych wedi'i gwblhau a'i ddysgu
- gosod nod clir, cyraeddadwy ar gyfer y cylch nesaf
- cadarnhau capasiti eich tîm fel nad yw’n cael ei lethu
- cytuno pa eitemau’n y rhestr dasgau sy’n cefnogi’r nod
Rheoli rhestrau o dasgau a straeon defnyddwyr
Mae rhestr dasgau cynnyrch yn rhestru'r holl dasgau y gall fod angen eu gwneud. Mae'n gosod cerrig milltir ar y trywydd.
I reoli rhestr o dasgau, dylech:
- sichrau ei fod yn fanwl, yn esblygu, wedi'i amcangyfrif ac wedi’i flaenoriaethu (dyma egwyddorion DEEP)
- ysgrifennu straeon defnyddwyr sy’n disgrifio anghenion, nid nodweddion
- diffinio llwyddiant cyn dechrau
Mae straeon defnyddwyr yn helpu timau i barhau i ganolbwyntio ar ddefnyddwyr:
Fel [math o ddefnyddiwr]:
Dwi eisiau [wneud rhywbeth]
Er mwyn [imi gyflawni fy nod].
Dysgu sut i ddogfennu anghenion defnyddwyr.
I flaenoriaethu gwaith, dylech:
- gynnwys y tîm cyfan ach rhanddeiliaid
- defnyddio dull syml, fel MoSCoW (rhaid i ni, dylen ni, medrwn ni, ni wnawn ni)
Er mwyn cynnal ansawdd, dylech:
- wneud yn siŵr bod pob eitem yn y rhestr dasgau yn bodloni diffiniad eich tîm o pryd mae’r gwaith ar ben
- wirio ar gyfer hygyrchedd, cynnwys dwyieithog a phrofi
Mesur cynnydd a dysgu
Mae mesur cynnydd yn helpu timau i ddysgu ac addasu.
I fesur cynnydd y prosiect, gallwch:
- ddefnyddio bwrdd Kanban i ddangos y tasgau sydd ‘ar waith’ hyd at y gwaith sydd ‘ar ben’
- defnyddio siartiau (er enghraifft siart 'burn-up' neu siart cyflymder) i ddangos cynnydd
- cynnal cyfarfodydd bach bob dydd er mwyn sicrhau cynnydd a sylwi ar rwystrau
Dylai pob aelod o staff ateb y cwestiynau canlynol:
- beth wnes i ddoe?
- beth fydda i'n ei wneud heddiw?
- a oes unrhyw rwystrau?
I amcangyfrif gwaith, gallwch:
- sgorio’r stori neu fesur yr ymdrech sydd ei angen yn hytrach nag amser
- canolbwyntio ar ddysgu, nid rhagfynegi
Mae rhagolygon yn ein helpu ni i reoli disgwyliadau. Maen nhw’n dangos yr hyn rydyn ni’n debygol o’i gyflawni yn hytrch na gwneud addewidion. Fel rhagolygon y tywydd, maen nhw’n cynnig trywydd yn hytrach na sicrwydd.
Llywodraethu trwy dryloywder
Mae llywodraethu mewn dull ystwyth yn meithrin hyder trwy fod yn agored, nid creu gwaith papur.
Er mwyn llywodraethu fel hyn, ystyriwch:
- gynnal adolygiadau neu sesiynau dangos a dweud rheolaidd gyda rhanddeiliaid
- rhannu’ch cynnydd mewn crynodebau byr, ar dangosfyrddau neu mewn arddangosiadau
- cadw cofnod o benderfyniadau allweddol, hanes y gwaith dylunio neu waith y tîm
Mae'r dull hwn yn rhoi sicrwydd i chi heb arafu gwaith cyflawni. Mae'n rhoi gwybod i arweinwyr beth sy’n digwydd ac yn adeiladu ymddiriedaeth.
Gwella’n parhaus
Mae gwella’n barhaus yn gwneud yn siŵr fod cyflawni mewn dull ystwyth yn gynaliadwy.
I gynnal sesiwn retro, gallwch:
- gyfarfod ar ddiwedd pob cylch
- trafod beth a lwydodd, beth na lwydodd a beth i'w newid
- cytuno ar un neu ddau o gamau i'w gwella y tro nesaf
Gall timau hefyd gynnal sesiynau rheolaidd i wirio lles y tîm i drafod sut maen nhw'n teimlo am eu gwaith. Mae hyn yn cefnogi lles y tim a’u gallu i gydweithio.
Enghreifftiau ymarferol
Fel tîm yn y cyngor sy'n gwella gwasanaeth trwsio tai, gallwch:
- adolygu'r sbrint diwethaf
- gosod nod i leihau amseroedd aros
- symleiddio'r ffurflen archebu fel cam cyntaf
Fel tîm cynhwysiant digidol mewn awdurdod lleol, gallwch:
- gynnal adolygiadau bob pythefnos i ddangos y gwelliannau
- helpu arweinwyr i weld y cynnydd a gwneud penderfyniadau cyflym pan fydd angen cymorth neu gyllid
Fel tîm mewn bwrdd iechyd sy'n cyflawni gwasanaeth brysbennu ar-lein, gallwch:
- ddefnyddio siart 'burn-up' syml i ddangos pryd y bydd yn rhaid i nodweddion fod yn barod
- trafod y cynnydd yn agored gyda chlinigwyr a rhanddeiliaid
Fel tîm bach yn Llywodraeth Cymru, gallwch:
- wella sut rydych chi'n ysgrifennu meini prawf derbyn yn dilyn sesiwn retro
- cynnal profion yn gynt ac yn gliriach