11 Awst 2021

Yn ein blog diwethaf, gosodon ni’r map a fyddai’n ein tywys o ddechrau i ddiwedd cam darganfod yr adolygiad o’r tirwedd digidol.

Heddiw, rydyn ni’n mynd i egluro rhywfaint o’r hyn a gyflawnwyd gennym yn y pythefnos diwethaf wrth i ni ddechrau datguddio rhai o’r manylion, gan symud drwy bob un o’n meysydd gwaith fesul un.

1. Adolygu’r sefydliadau, yr arweinwyr a blaenoriaethau’r llywodraeth

Rydyn ni wedi rhannu’r tirwedd digidol yn feysydd logistaidd fel y gall ein hymchwil ddarparu darlun cyflawn o’r cryfderau a’r gwendidau ar draws Cymru.

Am ein bod ni’n ystyried anghenion y sawl sy’n rhedeg y gwasanaethau, rydyn ni wedi rhannu’r tirwedd yn unol â’r meysydd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol allweddol yn ymdrin â nhw, e.e. Iechyd, Llywodraeth Leol, Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer pob un o’r meysydd allweddol a nodwyd gennym, rydyn ni wedi archwilio:

  • y sefydliadau allweddol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau
  • y bobl yr hoffen ni siarad â nhw fwyaf
  • ystadegau a gyhoeddwyd er mwyn darparu cyd-destun i raddfa’r gwaith a wnaed yn y meysydd hyn
  • blaenoriaethau’r llywodraeth – sy’n cael eu mynegi gan amlaf mewn strategaethau digidol a/neu gyllidebau blynyddol

Mae hyn wedi caniatáu i ni lunio darlun cychwynnol o raddfa’r buddsoddiad a faint o bobl mae hyn yn effeithio arnyn nhw.

Rydyn ni, wrth gwrs, yn darganfod gwasanaethau allweddol sy’n cael eu darparu gan bob maes, ac rydyn ni’n cofnodi pob gwasanaeth newydd a ddarganfyddwn yn ein cronfa ddata gyda chymaint o wybodaeth ag y down o hyd iddi.

Wedi i ni gategoreiddio yn y modd hwn, rydyn ni wedi creu dangosfwrdd sy’n caniatáu i gymariaethau gael eu tynnu mewn modd gweledol o nifer y gwasanaethau ar draws pob maes. Hyd yma, rydyn ni wedi cofnodi 147 o wasanaethau – nifer y disgwylir iddo gynyddu’n sylweddol wrth i ni ddysgu mwy.

2. Dechrau deall yr wybodaeth a’r data y mae angen i arweinwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniad eu gwybod am wasanaethau er mwyn llywio eu gwaith

Dros y pythefnos diwethaf, rydyn ni wedi siarad ag arweinwyr digidol allweddol ar draws llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, iechyd ac ym meysydd caffael ac archwilio – ac wedi clywed am bwysigrwydd casglu sbwriel/gwastraff, methodolegau a ddefnyddir gan Archwilio Cymru a phrofiadau Swyddogion TG/Digidol mewn Awdurdodau Lleol. Rydyn ni wedi gallu holi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau pa wybodaeth yr hoffen nhw ei gwybod am eu gwasanaethau; a pha wasanaethau yr hoffen nhw i ni edrych arnyn nhw.

Ymhlith y pethau allweddol rydyn ni wedi eu dysgu hyd yma mae’r canlynol:

  • ym maes iechyd, er bod yna wasanaethau sy’n wynebu cleifion a gwasanaethau sy’n wynebu dinasyddion, maes allweddol i’w ystyried yw gwasanaethau’r GIG sy’n wynebu clinigwyr
  • caiff gwasanaethau a berchnogir ar raddfa genedlaethol eu darparu weithiau ar lefel awdurdod lleol/bwrdd iechyd, gan arwain at amrywiaeth yn y gwasanaethau rhwng lleoliadau
  • mae cydweithio eisoes ar waith ymysg awdurdodau lleol. Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed am Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) a system rheoli llyfrgelloedd Cymru gyfan
  • mae trawsnewidiadau gwasanaeth cyffrous ar droed ym maes iechyd sy’n symud o’r papur i’r digidol (dysgwch sut mae cofnodion nyrsys yn troi’n ddigidol!)

Uwchlaw popeth, mynegodd pob rhanddeiliad awydd i weithio gyda ni ac uchelgais i wella ansawdd a gwerth gwasanaethau cyhoeddus digidol.

3. Ymchwilio i’r hyn sydd eisoes yn hysbys am wasanaethau

Fel sy’n gyffredin mewn llawer o’r gwasanaethau cyhoeddus, mae cryn dipyn o wybodaeth am wasanaethau digidol eisoes yn cael ei chasglu, ac mae rhywfaint ohoni (er enghraifft, yr hyn a ddarperir i Archwilio Cymru) eisoes ar gael yn gyhoeddus.

Rydyn ni’n awyddus i ailddefnyddio’r wybodaeth hon ble bynnag y bydd hynny’n bosibl ac yn berthnasol; nid yn unig i leihau’r llwyth gwaith ar berchnogion gwasanaethau, ond hefyd i ddeall pa wybodaeth sydd eisoes yn cael ei chasglu.

Drwy ein cydweithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol, rydym wedi nodi rhestrau a luniwyd yn flaenorol o wasanaethau’n gysylltiedig â meysydd neu sefydliadau penodol. Er enghraifft, llwyddon ni i weld y gyfres o 55 o wasanaethau a gynigir gan Awdurdod Cyllid Cymru, a ganiataodd i ni ddeall ystod y gwasanaethau digidol sydd eisoes ar gael i ddefnyddwyr. At hynny, drwy adolygu diweddariadau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygiadau digidol, nodon ni enghreifftiau o wasanaethau digidol ar lefel llywodraeth leol.

Yn sgil dadansoddi data caffael sydd ar gael ar hyn o bryd, rydyn ni wedi dysgu bod llawer o awdurdodau lleol yn contractio’r un darparwyr allanol i ddarparu’r un gwasanaethau ond bod y perthnasau hyn, fodd bynnag, yn cael eu rheoli o dan gontractau gwahanol. Mae gallu nodi ac unioni’r math hwn o ddyblygu yn un o’r llu o gyfleoedd sy’n cael eu creu drwy’r adolygiad tirwedd.

Byddwn ni’n parhau i gydweithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau digidol er mwyn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o ymchwil a gynhaliwyd eisoes yn y maes hwn.


Ble yr awn ni nesaf

Bydd y darllenwyr sylwgar yn eich plith wedi sylwi nad oedd rhif “3” yn y rhestr uchod: y trydydd maes rydyn ni’n yn gweithio arno yw “Dechrau deall pa ddata y gall perchnogion gwasanaethau ei rannu am eu gwasanaeth”.

Dyma ran allweddol nesaf ein cam darganfod. Pan fyddwn ni’n deall pa ddata sydd gan berchnogion gwasanaethau, byddwn ni’n gallu mapio hynny yn erbyn yr anghenion a gasglwyd eisoes gennym gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau – maint y bwlch rhwng y ddau fydd yn ein helpu i benderfynu ble yr awn ni nesaf!