Roedd y tîm oedd yn edrych ar rôl technoleg i gyrraedd targed newid hinsawdd Cymru angen ffordd o egluro eu teitl
20 Mehefin 2022
Dylai enwi prosiect digidol fod yn gymharol syml – trwy ei alw yn rhywbeth syml. Dim acronymau ffansi neu eiriau clyfar, dim ond yr hyn rydych chi'n ei gyflwyno. Mae’r egwyddor honno’n hawdd pan fo’n wasanaeth y mae pawb yn ei ddeall – ‘Cofrestru i bleidleisio’ neu ‘Dod o hyd i swydd’ – ond beth os nad yw eich gwasanaeth neu brosiect mor syml?
Mae’n debyg bod ‘tech net zero’ yn awgrymu pethau gwahanol i wahanol bobl, neu hyd yn oed dim byd i rai. Mae’n gysyniad cymharol newydd felly, wrth i ni ddechrau’r cam darganfod yma, rydym wedi bod yn trafod a oedd angen i’r enw fod yn fwy disgrifiadol.
Daw’r ymadrodd tri gair o gynllun Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus i dorri allyriadau carbon i sero erbyn 2030. Mae ‘technoleg’ yn un o 6 thema yn y cynllun hwnnw, sydd hefyd yn cynnwys ‘cymdeithas’, yr ‘unigol’ a’ defnydd o adnoddau'.
Dwy swyddogaeth Technoleg
Felly mae ‘tech net zero’ fel ymadrodd yn cydnabod yn syml fod gan dechnoleg rôl i gyrraedd sero net. Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r rôl honno ymhellach. Mae'n sôn am sut y gall technoleg ei hun helpu i sicrhau newid amgylcheddol cadarnhaol. Mae hefyd yn dweud bod angen i Gymru ddefnyddio technoleg cynaliadwy, carbon isel (gan roi’r gorau i ddefnyddio rhai sy’n llygru) i gyrraedd allyriadau di-garbon.
Felly, sut allwn ni egluro hyn o fewn enw prosiect?
Mae rhan ‘net zero’ y teitl, erbyn hyn, yn cael ei defnyddio’n gymharol aml. Mae Geiriadur Saesneg Rhydychen yn ei ddiffinio fel:
‘a target of completely negating the amount of greenhouse gases produced by human activity, to be achieved by reducing emissions and implementing methods of absorbing carbon dioxide from the atmosphere’
Ond sut allwn ni egluro rôl technoleg wrth geisio cyrraedd nodau hinsawdd Cymru – sef briff tîm darganfod ‘Tech Net Zero’?
Diffinio'r Broblem
Mae’r cwestiwn hwnnw’n ymwneud â’r brif broblem oedd gennym ni fel tîm darganfod gydag enw a chysyniad mor eang – diffinio’r broblem yr oeddem yn ceisio’i datrys a, thrwy wneud hynny, gwmpasu’r gwaith. Nid oedd angen i ni ymchwilio i’r hyn yr oedd llawer o bobl eisoes yn ei wybod, megis manteision mudo i’r cwmwl, cynnal cyfarfodydd rhithwir yn hytrach na theithio ac osgoi argraffu.
A gan fod y prosiect hwn yn un ‘darganfod’, roeddem yn meddwl ei bod yn iawn cael teitl cymharol gyffredinol. Ac eto, roeddem am i bobl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddeall yn fras beth oedd pwrpas y prosiect ac ymgysylltu â'n hymchwil.
Gyda'r enw ‘Tech Net Zero’ yn unig, roedd pobl yn llai tebygol o ymgysylltu â'n negeseuon cyfryngau cymdeithasol neu e-byst yn gwahodd pobl i gymryd rhan.
Felly lluniodd y tîm linell dag i’w chynnwys gyda’r teitl, oedd yn egluro cylch gorchwyl y prosiect: ‘Deall y cysylltiad rhwng technoleg ddigidol a’r amgylchedd’.
Rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r cyswllt hwnnw – a siarad â chi, ein cynulleidfa amdano – wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
I gadw mewn cyswllt â ni am y prosiect hwn, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr CDPS a dilynwch ni ar @cdps_cymru, @PeragoWales and @M_SParc ar Twitter