Ydym ni'n edrych ar leihau ôl troed carbon technoleg - neu dechnoleg yn lleihau ôl troed carbon y sector gyhoeddus? Neu efallai'r ddau? Dyna gwestiwn Jess Neely.

19 Mai 2022

M-SParc's building on the island of Anglesey with views of Snowdonia
Mae M-Sparc - parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor - yn bartner yn y cam darganfod hwn, a dyma ble y cychwynnwyd ar y gwaith

Dechrau arni

Dechreuon ni’r cam darganfod trwy ddod â rhai o’r tîm craidd o Perago ac M-SParc at ei gilydd yn adeilad trawiadol M-SParc ar Ynys Môn. Byddwn yn gweithio o bell yn bennaf o’n gwahanol leoliadau ledled Cymru ond roeddem eisiau cyfarfod wyneb yn wyneb i roi cychwyn arni.

Roedd Gaerwen, gyda’r olygfa drawiadol draw am fynyddoedd Eryri, yn lle penigamp i gychwyn! Defnyddiwyd yr amser i ganolbwyntio ar ffyrdd o weithio, gwneud yn siŵr ein bod yn cytuno ar y briff a dechrau canolbwyntio ar yr her – gan gynnwys edrych ar:

  • defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, tra hefyd yn bodloni nodau net sero (allyriadau nwyon tŷ gwydr) Cymru ac yn ateb anghenion defnyddwyr
  • beth sy’n cynaliadwy wrth ddylunio a darparu gwasanaethau digidol
  • beth mae gwledydd eraill yn ei wneud i gyrraedd targedau sero net yn y maes digidol a thechnoleg yn ehangach
  • pa ganllawiau sydd eisoes yn bodoli am rôl technoleg i gyrraedd net sero

Deall y broblem

Fel gyda phob cam darganfod, cyn cychwyn roedd angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn deall y broblem yr oeddem yn ceisio ei datrys.

Mae llawer o’n trafodaethau hyd yn hyn wedi bod yn ceisio amlinellu’r broblem, neu’r pwnc, y byddwn yn ymchwilio iddo. Ac i ddechrau gwneud hynny, roedd angen i ni ddeall y gwahaniaeth rhwng:

  • lleihau ôl troed carbon technoleg ddigidol
  • defnyddio technoleg ddigidol i leihau ôl troed carbon gwasanaethau cyhoeddus

Fe wnaethom ddechrau mapio taith defnyddwyr, gan ddefnyddio ein gwybodaeth bresennol o’r hyn y mae pobl sy’n gweithio ym maes digidol a thechnoleg yn ei wneud – gan gynnwys gweithwyr proffesiynol caffael ac ymarferwyr digidol.

Mae’n ymddangos bod penderfyniadau ynghylch defnyddio digidol a thechnoleg yn aml yn gorgyffwrdd ag ystyriaethau cynaliadwyedd. Felly rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein hymchwil defnyddwyr i herio ac ychwanegu at y rhagdybiaethau hyn.

[a user journey map] A whiteboard with sticky notes mapping the user journey for reducing the carbon footprint of tech
Dechreuodd y tîm trwy fapio taith y defnyddiwr, gan ddefnyddio eu gwybodaeth bresennol o’r hyn mae pobl ym myd digidol a thechnoleg yn ei wneud

Gweithio fel tîm

Mae wedi bod yn hynod ddiddorol dod â’n sgiliau a’n ffyrdd o weithio ynghyd i gyd-weithio ar y broblem hon, sy’n un o fanteision gwirioneddol tîm amlddisgyblaethol. Treuliwyd peth o'n hamser gyda'n gilydd yn rhannu ein gwybodaeth am ddarparu mewn modd ystwyth, cynnal cam darganfod, ymchwil defnyddwyr a net sero.

Rydym hefyd mewn cyswllt cyson â’r tîm yn CDPS i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda nhw am gynnydd a rhannu ein syniadau hyd yn hyn. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda CDPS trwy gydol y cam darganfod, yn ogystal â rhannu ein cynnydd yn gyhoeddus trwy negeseuon blog a sesiynau dangos a dweud

Beth sydd nesaf?

Yn ystod y sbrint dwy wythnos nesaf, byddwn yn parhau ag ymchwil desg i sut mae digidol a thechnoleg yn cyfrannu at allyriadau carbon a sut y gallent ei leihau. Byddwn hefyd yn archwilio arfer da mewn llefydd eraill yn y maes hwn – yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.

A byddwn yn dechrau recriwtio pobl sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ar gyfer ein hymchwil defnyddwyr. Mae gennym ni ddiddordeb mewn siarad â phobl fel rheolwyr newid hinsawdd ac arweinwyr digidol neu TG.

Os ydych yn un o’r categorïau hynny ac awydd ein helpu gyda’n hymchwil defnyddwyr, anfonwch e-bost atom neu anfonwch neges uniongyrchol trwy Twitter.

Jess Neely, Arweinydd Dylunio Gwasanaeth ac Ymchwil yn Perago