15 Mawrth 2021
Pan lansion ni ein safonau gwasanaethau digidol drafft yn ôl ym mis Hydref, roedden ni’n chwilio am fewnbwn i greu cyfres o safonau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru. Mae Safonau Gwasanaethau Digidol yn gyfres o fesurau y gall unrhyw un eu dilyn i sicrhau bod anghenion y defnyddiwr bob amser yn ganolog i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu. Gall cyfeirio’n rheolaidd at gyfres gytunedig o safonau ddarparu ffocws a her a helpu i bennu cyflymder.
Y cam cyntaf hwn oedd gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau a’r rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru i greu’r safonau. Roedd yn wych cael adborth o’n gweminarau, ein cyfarfodydd a’n sgyrsiau, ac fe gawson ni ymateb cadarnhaol iawn i’r ymagwedd, y safonau eu hunain a’r cyfleoedd y gallent eu cynnig i gefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Ar ôl cael adborth, fe gyhoeddon ni ein safonau Beta ym mis Tachwedd.
Ers hynny, rydyn ni wedi parhau i weithio gyda sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn mabwysiadu’r safonau a meddwl o ddifrif am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gymryd y cam nesaf a’u hymsefydlu mewn ffyrdd o weithio.
Y camau nesaf
Rydyn ni eisoes yn gweithio gyda’n timau sgwad arbenigol i dreialu ffyrdd newydd o weithio yn seiliedig ar y safonau. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bedwar prif faes:
- deall unrhyw heriau y gallai’r sector cyhoeddus eu hwynebu o ran bodloni’r Safonau a pha gymorth y mae arnyn nhw ei angen – mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth gan y timau sydd eisoes yn gweithio gyda’r Ganolfan, ond hefyd siarad â thimau eraill sy’n ystyried sut i wella eu gwasanaethau. Rydyn ni eisiau deall pa sgiliau sydd eisoes ar gael mewn sefydliadau i’w helpu i ddechrau’r daith, pa newidiadau a allai fod yn angenrheidiol i gysoni perchenogaeth ar wasanaethau yn well, a pha alluoedd y gellir eu datblygu a’u rhannu i greu profiad cyffredin a syml i ddefnyddwyr
- datblygu ymagwedd i ganiatáu i sefydliadau ddangos y gallant fodloni’r Safonau, ac ystyried sut gellid mabwysiadu’r ymagwedd honno – yn ogystal â siarad â phobl, timau a rhanddeiliaid yng Nghymru, rydyn ni hefyd yn siarad â grwpiau digidol yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae angen i ni feddwl am beth sy’n ysgogi pobl i ddarparu gwasanaethau digidol gwell a sut gallwn ddefnyddio hyn i annog pobl i fabwysiadu’r safonau a chyflawni canlyniadau gwell. Mae angen i ni feddwl hefyd am oblygiadau peidio â bodloni’r safonau a’r opsiynau i gefnogi sefydliadau pan fydd hyn yn digwydd
- creu canllawiau i sefydliadau sydd eisiau mabwysiadu’r Safonau Gwasanaethau – rydyn ni eisiau ymhelaethu ar y themâu yn y safonau fel bod gan dimau ddealltwriaeth ymarferol o arfer da a sut gallant ddangos eu bod yn gwneud y peth iawn. Sylweddolwn y bydd angen i’r safonau esblygu i fodloni anghenion y timau sy’n eu defnyddio. Mae angen i ni feddwl am sut gallwn barhau i weithio ar y cyd i ddatblygu fersiynau newydd ohonynt yn seiliedig ar anghenion sy’n newid a dysgu parhaus
- creu cymuned o ddiddordeb i rannu’r hyn a ddysgwyd a thrafod syniadau – rydyn ni eisiau rhannu arfer da a thrafod y cyfleoedd a’r problemau posibl fel y gallwn roi’r si ar led a gwella cyflymder a safon darpariaeth ddigidol yng Nghymru. Rydyn ni eisiau creu cymuned sy’n rhannu syniadau ac sy’n gallu dod at ei gilydd i ddysgu a herio ffyrdd o feddwl mewn amgylchedd diogel
Cymerwch ran
Dyma’ch cyfle. Os ydych chi’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r gymuned hon, hoffem glywed gennych. Rydyn ni’n bwriadu sefydlu cymuned lle y gall pobl ddod at ei gilydd, dysgu a rhannu. Gobeithiwn gynnal y sesiwn gyntaf yn y gwanwyn. Os hoffech gymryd rhan, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â info@digitalpublicservices.gov.wales