Sut gall y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wneud y canllawiau hyn ar gyfer gwasanaethau gwell yn Nghymru yn ddefnyddiol i chi, y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - yw'r cwestiwn a ofynnwyd gan ein Pennaeth Safonau dros dro, Rhiannon Lawson
2 Mawrth 2022
Datblygodd CDPS y Safonau Gwasanaeth Digidol i helpu sefydliadau i greu gwasanaethau cyhoeddus gwell i bobl Cymru.
Mae safonau a gymhwysir yn gyson yn sail i
- ddull cyffredin o ddatblygu digidol a defnyddio technoleg
- bodloni anghenion y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ('anghenion defnyddwyr')
- galluogi systemau a gwasanaethau i weithio gyda'i gilydd (‘y gallu i ryngweithredu’)
- prosesau sy'n caniatáu i dimau ddatblygu fersiynau, methu'n gyflym a gwella'n barhaus - gan weithredu'n effeithlon i gynhyrchu gwasanaethau sy'n gweithio
Enghreifftiau o fywyd go iawn
Ac eto nid yw safonau'n gweithio ar eu pen eu hunain. Mae angen canllawiau i esbonio sut maen nhw'n gweithio a darparu enghreifftiau o'r byd go iawn.
Yn anffodus, mae rhai safonau a chanllawiau'n gwneud i chi deimlo'n fwy dryslyd nag yr oeddech cyn dechrau eu darllen. Dyna pam mae CDPS eisiau gweithio gyda chi i ddatblygu canllawiau sy'n gwneud synnwyr. Credwn fod angen i ganllawiau:
- gael eu hysgrifennu mewn iaith glir (nid ‘iaith arbenigwyr’)
- bod yn ymarferol - gyda'r bwriad o'ch helpu i ddylunio a chreu gwasanaethau gwell yn eich sefydliad
Ond dyna ein barn ni. Mae angen i ni glywed gennych chi - i ddeall eich anghenion a chael eich cefnogaeth o'r dechrau.
Cysylltwch â ni
Yn rhan o fy mhroses sefydlu ar gyfer y rôl newydd Pennaeth Safonau, rwy’n awyddus i siarad â chynifer ohonoch – pobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – â phosibl yn ystod yr wythnosau i ddod. Anfonwch neges e-bost ataf i drefnu cyfarfod.
Byddaf yn gofyn i bobl:
- A yw’r safonau yn glir?
- Beth fyddai’n eich helpu chi a’ch sefydliad i’w mabwysiadu nhw?
- Pa adnoddau fyddai’n fwyaf defnyddiol?
Bydd ein tîm – y tîm safonau – yn gweithio’n agored ac yn blogio am ein cynnydd, felly cadwch lygad ar y blog i gael gwybod mwy.