Nod y prosiect
Cynhyrchu gofynion ar gyfer system rheoli gwybodaeth ysgolion yn seiliedig ar anghenion ysgolion ac awdurdodau lleol.
Y broblem i'w datrys
Mae'r cytundeb gyda chyflenwyr presennol systemau rheoli gwybodaeth ysgolion yng Nghymru yn dod i ben.
Partneriaid
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oedd in partner yn y darganfyddiad. Buom yn gweithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno ar set o ofynion ar gyfer SIMS.
Ynghyd â’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), rydym wedi dechrau gwaith ar ddarganfod ateb newydd er mwy cwrdd ag anghenion athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol.
Daethom â thîm o ymchwilwyr, arbenigwyr caffael, ac arweinwyr addysg ynghyd.
Crynhoi'r gwaith
Cysyllton ni â’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i egluro’r darganfyddiad a’u gwahodd i gymryd rhan.
Fe wnaeth ein hymchwilwyr gyfweld â phobl sy'n defnyddio system rheoli gwybodaeth ysgol mewn ysgolion a phobl mewn awdurdodau lleol i ddwysau ein dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr.
Datgelodd y cyfnod darganfod ystod eang o anghenion defnyddwyr systemau rheoli gwybodaeth ysgolion, ond hefyd anghenion rhanddeiliaid pwysig eraill.