Cyfrannu at ysgogi arloesedd yn ein heconomi drwy helpu eraill i gefnogi busnesau i ddatblygu’r gwydnwch sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn byd digidol

Mae CDPS yn aml yn gweithio y tu ôl i lenni trawsnewid, gan bweru sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i helpu eraill yn eu tro. Ein nod yw i fusnesau Cymru gydnabod cyfleoedd masnachol wrth drawsnewid sector cyhoeddus Cymru yn ddigidol. Gobeithiwn yn y ffordd honno annog marchnad cyflenwyr sy’n datblygu ym maes digidol.

Gwnaeth CDPS hwyluso’r llwybr i gyflenwyr o Gymru wneud cais am gontractau digidol yn y sector cyhoeddus drwy, er enghraifft, ddylunio templedi caffael Saesneg clir. Yn aml, nid oes gan gwmnïau bach a chanolig yr adnoddau, megis timau ceisiadau mewnol, sydd gan rai cwmnïau mwy. Dylai’r dogfennau symlach hyn ei gwneud yn haws i gwmnïau llai dendro am waith.

Mae busnesau bach a chanolig hefyd wedi cymryd rhan yn rhwydd yn y 2 gymuned ymarfer y mae CDPS wedi’u sefydlu, gan gynnwys cwmnïau fel AthensysDai: lingual ac YPod Cymru.