Helpu eraill i sicrhau bod pobl Cymru yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus digidol

Mae trawsnewid digidol yn golygu trawsnewid i bawb – nid dim ond pobl sydd eisoes â’r sgiliau digidol i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein. Nid yw hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus yn rhywbeth braf i’w gael yn unig – mae gwasanaethau’n methu i’r graddau eu bod yn eithrio rhannau o’r cyhoedd sydd â rhwystrau anabledd neu iaith, er enghraifft.

Mae cynwysoldeb (gan gynnwys pobl) yn hanfodol i ddull CDPS o gynllunio gwasanaethau. Yn 2021-22, rydym wedi:

  • cynhyrchu cyfeiriadur cynhwysiant digidol i Gymru
  • defnyddio dylunwyr cynnwys, sy’n arbenigo mewn creu cynnwys hygyrch sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, mewn timau amlddisgyblaethol
  • hyrwyddo Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, gan gynnwys safon 5 – ‘Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth’

Mae’r ymagwedd hon mewn sawl maes yn dangos pa mor bwysig y mae CDPS yn gweld hygyrchedd a chynhwysiant wrth ddylunio gwasanaethau.