Yn ei blwyddyn lawn gyntaf o weithredu, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi paratoi’r tir ar gyfer gwasanaethau yng Nghymru sy’n rhoi anghenion y defnyddiwr yn gyntaf oll. Rydym yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy’n symlach, yn gyflymach ac yn haws eu defnyddio. Maent yn wasanaethau sy’n caniatáu i ddinasyddion gael yr hyn sydd ei angen arnynt gan Llywodraeth Cymru, cynghorau ac elusennau mor effeithlon â phosibl ac yna bwrw ymlaen â’u bywydau.
Rydym wedi paratoi’r tir ar gyfer gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy:
- arolygu’r tirlun gwasanaeth yng Nghymru i flaenoriaethu gweithgarwch a buddsoddiad
- gweithio gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus i wella gwasanaethau drwy ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a dulliau Ystwyth
- cyfoethogi’r sylfaen sgiliau digidol o fewn sector cyhoeddus Cymru, drwy rannu sgiliau ‘yn y gwaith’ mewn timau amlddisgyblaethol a thrwy gyrsiau hyfforddi poblogaidd CDPS
- codi ymwybyddiaeth am wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr drwy raglen cyfathrebu amrywiol a thrwy adeiladu cymunedau proffesiynol
- dylanwadu ar uwch arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi newid digidol
Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn ôl ar weithgareddau CDPS yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22. Mae’n dangos sut mae’r gweithgareddau hynny, a’u canlyniadau, yn mapio i’n hamcanion sylfaenol. Mae CDPS am adeiladu ffynhonnell barhaol o arbenigedd digidol yng Nghymru – gyda hynny mewn golwg, mae’r adroddiad hefyd yn dangos sut mae ein gweithgarwch yn cyd-fynd â’r 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Rydym, hefyd, yn ymarfer yr hyn yr ydym yn ei bregethu. Mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu mewn Cymraeg clir a Saesneg clir, gan ddefnyddio brawddegau byr ac iaith y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn ei deall. Mae gan ddiagramau a siartiau ddigon o gyferbyniad lliw i bobl â nam ar eu golwg i’w dehongli. Mae gan yr holl graffeg esboniad testun amgen – ‘alt text’ – y gall apiau darllenydd sgrin eu darllen yn uchel.
Yn olaf, rydym yn cyhoeddi’r adroddiad fel tudalennau gwe HTML ar wefan CDPS, yn hytrach nag yn y fformat PDF hen ffasiwn (nad oedd yn hygyrch). Rydym hefyd yn defnyddio cynnwys amlgyfrwng – cyfweliadau fideo gyda chydweithwyr yn y sector cyhoeddus y mae CDPS wedi gweithio gyda nhw, yn ogystal â chan bobl sy’n gweithio yn CDPS yn esbonio eu gwaith.
Mae’r crynodeb gweithredol hwn yn tynnu sylw at brif ganlyniadau gweithgarwch CDPS yn 2021-22. Mae’n crynhoi ein heffaith ar wasanaethau penodol – yr hyn rydym wedi helpu i’w adeiladu. Ac mae’n dangos sut rydym wedi gweithio yn agored drwy gydol ein blwyddyn gyntaf, gan adrodd ar gynnydd a heriau mewn modd tryloyw.