1.1.1 Mapio tirwedd ddigidol Cymru
Er mwyn gweithio’n effeithiol o fewn sector cyhoeddus Cymru, roedd angen map o’r diriogaeth ar CDPS. Rydym wedi dechrau creu un – y trosolwg cyntaf o gyflwr gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru – a elwir yn Adolygiad o’r Dirwedd Ddigidol (DLR). Mae’r tîm DLR wedi siarad â channoedd o bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, o arweinwyr i staff rheng flaen. Daw’r bobl hynny a gafodd eu cyfweld o fwy na 30 o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn ogystal â llywodraeth leol a grwpiau a noddir gan y llywodraeth.
O’r ymgynghoriad eang iawn hwnnw, cynigiodd tîm y DLR 16 o gyfleoedd digidol i CDPS i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. O’r cyfleoedd hynny, mae ein bwrdd wedi cynnig rhestr fer i CDPS weithio arni, gyda phartneriaid, yn 2022-23 a thu hwnt.
1.1.2 Canlyniad: cynhwysiant digidol
Waeth pa mor ddatblygedig yn dechnegol yw gwasanaeth digidol, mae’n methu os nad yw’n gwasanaethu pawb y gallai eu gwasanaethu. Un canfyddiad pwysig o’r DLR yw pa mor anghyfartal yw mynediad digidol yng Nghymru. Mae gormod o bobl yn colli allan ar fanteision y byd digidol, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus digidol. Maent yn colli allan oherwydd eu daearyddiaeth (os oes diffyg seilwaith technegol), sgiliau digidol gwael (oherwydd eu cenhedlaeth neu lefel addysg, er enghraifft) neu rwystrau hygyrchedd (fel anhawster golwg neu ddarllen).
Er mwyn mynd i’r afael â’r math hwn o anghydraddoldeb, mae un rhan o’r DLR wedi datblygu’n brosiect ar wahân – Cyfeiriadur Cynhwysiant Digidol. Mae’r cyfeiriadur yn cynnwys gweithgareddau sy’n cael eu rhedeg gan Gymunedau Digidol Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru i gynnwys pobl yn y byd digidol. Mae’n cymharu ymagwedd Cymru at gynhwysiant digidol ag ymagwedd gwledydd eraill y DU a gwledydd yr UE sy’n perfformio orau.
1.1.3 Canlyniad: sgiliau ar gyfer y dyfodol
Mae ar weision sifil, gweision cyhoeddus a staff y trydydd sector yng Nghymru angen y sgiliau digidol i gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Rhaid i’r gwasanaethau hynny wneud y sector cyhoeddus yn fwy effeithlon gan hefyd ddiwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio yn well. Mae trosglwyddo sgiliau o’r fath i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus wedi bod yn ganlyniad hollbwysig i CDPS yn 2021-22. Rydym wedi’i gyflawni drwy hyfforddiant eang ac mewn ffyrdd eraill fel cymell, gweithdai a seminarau ar-lein.
Dechreuodd ein hyfforddiant mewn dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) a sgiliau Ystwyth yn 2021-22 gyda chyrsiau ‘anghenion uniongyrchol’. Roedd yr hyfforddiant hwnnw’n cwmpasu’r hyn a ddangosodd ein hymchwil fel y bylchau gwybodaeth mwyaf dybryd ymhlith gweision cyhoeddus. Mae’r cyrsiau, sy’n cael eu rhedeg gan arweinwyr o’r proffesiynau UCD, wedi hyfforddi mwy na 600 o bobl, ar bob lefel, o 80 o sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.
1.1.4 Canlyniad: cyfleoedd i rhannu gwybodaeth
Nid dim ond mewn hyfforddiant ffurfiol yr ydym wedi trosglwyddo sgiliau. Mae adborth yn awgrymu y gall cymgelliant un-i-un o fewn tîm amlddisgyblaethol fod yn werthfawr iawn hefyd. Gan ddefnyddio cymell, helpodd y tîm gofal iechyd sylfaenol, er enghraifft, reolwr cyflawni i symud o wasanaeth ‘rhaeadr’ confensiynol i ddatblygu gwasanaethau Ystwyth. Mae sesiynau cinio a dysgu neu sesiynau galw heibio ar bynciau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, fel y rhai sy’n cael eu rhedeg gan dimau Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru, hefyd wedi bod yn gyffredin.
Yn olaf, mae gweminarau a chymunedau ymarfer CDPS wedi bod yn ffyrdd gwych o rannu gwybodaeth. Mewn gweminarau fel ‘Hyrwyddo’r Gymraeg’ a ‘Cadwch bethau’n syml… Dylunio cynnwys’, mae arbenigwyr yn arddangos technegau a phrosesau. Yn y cyfamser, mae ein 2 gymuned ymarfer, Cyfathrebu Digidol ac Adeiladu Gwasanaethau Dwyieithog, yn creu ymwybyddiaeth a chyfleoedd ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid.