Beth yw’r broblem?
Mae ein hymchwil wedi canfod bod lleihau dyblygu a symud tuag at wasanaethau a rennir ar draws y sector cyhoeddus yn ffordd bwysig o leihau allyriadau.
O fewn ac ar draws sefydliadau, mae timau’n aml wedi’u hynysu oddi wrth ei gilydd, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ailddefnyddio gwaith a wnaed mewn mannau eraill.
Nid syniad newydd yw gweithio ar y cyd ar fodelau darparu gwasanaethau a rennir (mae’n ymddangos ar fap trywydd Sero Net Cymru ar gyfer 2022-2026) ond dyma syniad sydd â chyfle o gael effaith fawr, o’i wneud yn dda.
Rydym wedi nodi bod angen i sefydliadau ddeall yr holl wasanaeth a’r system er mwyn pennu gwir effaith gadarnhaol neu negyddol eu gwaith ar allyriadau carbon.
Darllenwch fwy yng nghanfyddiadau ein hymchwil am y broblem hon:
Dyblygu cynnyrch a gwasanaethau
Deall yr ôl troed ledled y gwasanaeth cyfan
Datrysiadau posibl
Yn aml, amlygwyd manteisio ar gydweithio ar draws timau a gwasanaethau, mewn trafodaethau am arferion gorau. Ystyriwyd bod effeithlonrwydd y sefydliad a’r system yn hanfodol er mwyn mynd y tu hwnt i enillion sero net yr adran a thuag at enillion sero net cyffredinol y sefydliad.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gan ei bod yn debygol iawn y bydd y defnydd o ynni ar gyfer digidol yn cynyddu wrth i wasanaethau ledled sefydliadau’r sector cyhoeddus droi at ddatrysiadau digidol i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.
Bydd yn hanfodol sicrhau bod digidol yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon, gan osgoi dyblygu ar draws gwasanaethau, ac ailddefnyddio cydrannau datrysiadau yn ogystal â data digidol a gesglir.
Ystyriwyd mai rhan fawr o alluogi’r gwaith trawsffiniol hwn oedd mabwysiadu dull seiliedig ar systemau o ddylunio a darparu gwasanaethau.
Gallai dulliau posibl ar gyfer datrys y broblem hon gynnwys:
- galluogi cydweithio ar arferion digidol cynaliadwy ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus
- mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar systemau i ddarparu gwasanaethau
- cymhwyso meddylfryd systemau ac arferion peirianneg systemau
- cynyddu amrywiaeth ymhlith timau prosiectau