26 Mai 2021
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn rhannu ein cynnydd wrth weithio gyda Chastell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Thorfaen i archwilio her gyffredin yn ymwneud â drws blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
Y daith hyd yma
Drwy gydol yr hydref 2020, roedd ein cam darganfod cychwynnol wedi cyfuno ymchwil defnyddwyr a gynhaliwyd gyda phreswylwyr lleol, gwaith dadansoddi busnes i ddeall cyd-destunau awdurdodau lleol, a chwmpasu technegol i fapio’r systemau presennol a deall beth allai fod yn bosibl. Gan gyfuno’r canfyddiadau o’r tri maes hyn, canolbwyntiom yn fwy penodol ar flaenoriaethu archwilio sut gallem helpu defnyddwyr i olrhain cynnydd eu ceisiadau i Ofal Cymdeithasol i Oedolion.
Yn ystod y cam alffa dilynol, gwnaethom brofi ac ailadrodd dyluniadau ar gyfer datrysiadau posibl er mwyn creu cyfres o negeseuon testun diweddaru statws a gwefan gysylltiedig sy’n rhoi mynediad rhwydd at ddiweddariadau statws ceisiadau a gyflwynwyd i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, gan greu ein datrysiad ‘Olrhain fy Nghais’ prototeip. Profwyd y dyluniadau hyn yn barhaus yn erbyn yr anghenion y clywsom amdanynt yn ystod ein cam Darganfod: gwella profiad defnyddwyr o’r broses cyflwyno cais, a lleihau’r gofynion ychwanegol ar weithwyr cyswllt, yr oedd pobl yn gofyn iddynt roi diweddariadau statws ac egluro’r broses cyflwyno cais yn rheolaidd.
Symud i’r cam beta
Gan symud ymlaen i’r cam nesaf, sef y cam beta, dyma’r adeg pan fyddwn yn dechrau adeiladu ac ymsefydlu’r datrysiad mewn arferion gwaith beunyddiol. Er ein bod eisoes wedi profi’r prototeip gyda defnyddwyr yn ystod y cam blaenorol, mae rhai cwestiynau y gallwn eu hateb yn llawn dim ond trwy brofi’r datrysiad yn y modd hwn.
Dyma’r adeg pan fyddwn yn gwneud dewisiadau ynglŷn â pha ieithoedd codio i’w defnyddio a sut byddwn yn trosi’r hyn a ddysgwyd o’n gwaith cwmpasu technegol yn ddatrysiad gweithredol. Mae gan y dewisiadau hyn oblygiadau i’r ffordd byddwn yn cadw’r datrysiad i fynd, er enghraifft pa sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw parhaus, ochr yn ochr ag unrhyw effaith bosibl ar brofiad defnyddwyr o’r datrysiad. Felly, mae’n bwysig ein bod yn rhoi sylw i amrywiaeth o ystyriaethau wrth wneud y dewisiadau hyn ar ddechrau’r cam beta.
Ymhlith y rhain, un o’r cwestiynau allweddol rydym wedi’i gadw mewn cof yw ‘sut gallwn sicrhau bod y datrysiad hwn yn gynaliadwy?’ Rydym yn gwybod nad yw gwasanaethau’n aros yn llonydd. Ac ni waeth pa mor ofalus y dyluniwyd ein datrysiad, bydd angen diweddaru neu gywiro pethau weithiau. Felly, mae’n hollbwysig ein bod yn cynllunio o flaen llaw ar gyfer y posibiliadau hyn.
Fe all fod yn rhwydd gadael cynaliadwyedd tan ddiwedd prosiect, ond rydym yn gwybod nad yw hyn yn gweithio wrth ddatblygu cynnyrch. Mae angen i ni ymsefydlu’r ystyriaethau hyn yn gynnar er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud dewisiadau sy’n galluogi cynaliadwyedd yn barhaus. Mae hyn yn cynnwys ein dewisiadau technegol, ond hefyd ein proses ar gyfer sicrhau bod y rhanddeiliaid iawn yn deall ac yn cyd-ddatblygu’r hyn y mae cynaliadwyedd yn ei olygu i’r datrysiad. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn osgoi rhwystrau annisgwyl fel cymeradwyaeth lywodraethu neu gyllid, a sicrhau y gallwn gynnal y momentwm wrth i ni symud trwy’r gwahanol gamau datblygu.
Yn ein postiad nesaf, byddwn yn rhannu mwy am y broses o ddylunio ar gyfer cynaliadwyedd a sut rydym yn gwneud dewisiadau sy’n cefnogi cynaliadwyedd ac effaith tymor hir.