Y cam darganfod – beth ddarganfuon ni?

13 Ionawr 2021

Yn ôl ym mis Awst, fe aethon ni ati i amlygu her gyffredin sy’n effeithio ar fynediad at Ofal Cymdeithasol i Oedolion ledled Blaenau Gwent, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot, gan archwilio sut gallen ni ddefnyddio dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a galluogwyr digidol i gefnogi gwasanaethau. 

Yn ein postiad blog cyntaf, fe rannon ni rai o’r gwersi cynnar a ddysgon ni am gynnal prosiect darganfod cyflym gyda sawl awdurdod lleol: sut mae cydbwyso anghenion defnyddwyr ag anghenion sefydliadol, strategaeth a chyfyngiadau? Sut mae cydweithio’n llwyddiannus ar draws awdurdodau lleol? A sut mae dechrau ymsefydlu gweddnewid digidol?

Gan ein bod ni bellach wedi cwblhau’r cam Darganfod, roedden ni eisiau rhannu’r hyn a gyflawnwyd hyd yma a rhai o’r gwersi allweddol a ddysgwyd o gam cyntaf y prosiect.

Beth mae cam ‘darganfod’ yn ei gynnwys, a beth ddarganfuon ni?

Rhannwyd ein cam darganfod yn dair ffrwd waith allweddol: 

Trwy ddwyn ynghyd y canfyddiadau o’r tair ffrwd waith hyn, roedden ni’n gallu amlygu maes penodol i ganolbwyntio arno:

Gan ystyried y canfyddiadau hyn gyda’i gilydd, fe gydweithion ni ar draws timau i flaenoriaethu maes i ganolbwyntio arno yn y cam nesaf, gan ei fireinio i’r amcan penodol ‘Sut gallem ni helpu preswylwyr i ddeall y graddfeydd amser a’r camau nesaf wrth gysylltu â Drws Blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion?’

Beth ddysgon ni am y broses ddarganfod?

Amlygodd ein cam darganfod sawl gwers allweddol ynglŷn â’r broses o alinio maes cyffredin sy’n achosi problemau ar draws partneriaeth aml-awdurdod lleol:

Beth nesaf?

Ar ôl amlygu maes i ganolbwyntio arno ac archwilio rhai o agweddau allweddol y broblem, y cam nesaf oedd symud ymlaen i gynhyrchu syniadau ar gyfer datrysiadau posibl, fel y gallem gynnig opsiynau posibl gyda’n gilydd a’u profi a’u hailadrodd yn gyflym er mwyn datblygu datrysiad effeithiol. Byddwn yn rhannu mwy am y camau nesaf, ffurfio prototeip a phrofi datrysiadau mewn blogiau yn y dyfodol.

Gadael Sylw

Ni chyhoeddir eich cyfeiriad ebost. Mae'r meysydd gofynnol wedi eu marcio ag *