Mae'r holl gostau mewn £ ac yn cynnwys TAW

Outsourced Operational Services

Rydym wedi gallu lleihau gwariant ymrwymedig ar nifer o swyddogaethau allanol ar gyfer 2025/26.

Bydd caffael fel gwariant gwasanaeth yn gostwng £20k eleni oherwydd datblygiad parhaus ein partner masnachol ac oherwydd dilyn ail broses gaffael ar gyfer y gwasanaeth masnachol gan arwain at arbediad sylweddol o 24/25. 

Mae cyllid fel gwasanaeth yn parhau i ostwng o £14k y llynedd. 

Mae costau'r Tîm Partneriaeth yn cyfeirio at swyddog llawn-amser, a gyflogir gan LlC ond a ariennir gan CDPS sy'n darparu cefnogaeth benodol i Dîm Partneriaeth CDPS. Mae hyn yn sicrhau y gall CDPS adrodd yn effeithiol ac yn briodol i Lywodraeth Cymru, y Gweinidog ac ar draws Adrannau Gweinidogol eraill.