Symleiddio Budd-daliadau Cymru

Canlyniadau ar gyfer 2025/26

  • Gwell profiad defnyddiwr 
  • Gwell integreiddio data

Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26

Chwarter 1 

  • Gweithredu’r grŵp llywio a chefnogi cyflawni’r prosiect tracio teuluoedd incwm isel (LIFT) 
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol ar y prosiect braenaru Budd-daliadau i brofi'r prototeip a'r dyluniad 
  • Adnabod grwpiau ymchwil a dull o recriwtio 

Chwarter 2 

  • Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT  
  • Os yw'r prototeip yn llwyddiannus, gwerthuso a nodi’r prosesau sydd eu hangen ar bob awdurdod lleol i weithredu  
  • Cydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi'r newid i weithredu'n fyw gan sicrhau cyfranogiad y defnyddwyr terfynol  
  • Cynnal ymchwil cynradd ac eilaidd 

Chwarter 3 

  • Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT 
  • Adrodd ar y canfyddiadau 
  • Dylunio’r dull adborth 
  • Adolygu ac ymateb i’r anghenion braenaru 

Chwarter 4 

  • Parhau â'r grŵp llywio a chefnogi’r gwaith cyflawni a’r prosiect LIFT 
  • Adolygu ac ymateb i’r anghenion braenaru 

Cynllunio

Canlyniadau ar gyfer 2025/26

  • Gwelliant i ddyluniad gwasanaethau cynllunio 
  • Mae timau'n caffael sgiliau digidol newydd 

Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26

Chwarter 1 

  • Dechrau mapio gwasanaethau cynllunio o'r dechrau i'r diwedd 
  • Deall y dirwedd ddata ar gyfer gwasanaethau cynllunio 
  • Dylunio’r cynnwys dwyieithog sy’n flaenoriaeth 
  • Nodi’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n bwysig gweithio â nhw i ddylunio’r broses cyn ymgeisio 
  • Diffinio canlyniadau'r hyfforddiant 

Chwarter 2 

  • Cynnal profion defnyddioldeb, gwella’r meysydd dylunio cychwynnol ac archwilio’r daith o un pen i’r llall 
  • Dylunio'r ddarpariaeth hyfforddiant electronig a chynllunio ar gyfer ei darparu 

Chwarter 3 

  • Nodi meysydd ar gyfer gwella cynnwys a datblygu’r prototeip ar gyfer adborth gan randdeiliaid. 
  • Darparu hyfforddiant cychwynnol 

Chwarter 4 

  • Symud ymlaen gyda dylunio’r cynnwys ehangach a pharhau i brofi a gwella’n barhaus 
  • Darparu’r ail rownd o hyfforddiant 

Niwrowahaniaeth

Canlyniadau ar gyfer 2025/26

  • Adnabod y cyfleoedd i leihau amseroedd aros

Canlyniadau chwarterol ar gyfer 2025/26

Chwarter 1

  • Cwblhau’r cyfnod Alffa ac adrodd ar ei argymhellion a'i ddefnyddioldeb

Chwarter 2

  • Cwblhau arbrofi gyda’r offer AI ar y cyd â’r byrddau iechyd 
  • Sefydlu dull cymunedol o rannu a dysgu 
  • Archwilio ac ymchwilio i’r dechnoleg bresennol a nodi'r cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd o fewn bwrdd iechyd