Trosolwg

Gwasanaethau cyhoeddus yw sut mae pobl yn rhyngweithio â'r llywodraeth yn eu bywydau bob dydd. Er enghraifft, cael mynediad at ofal iechyd, trefnu i'r cyngor lleol gasglu gwastraff cartref, neu dderbyn cymorth ariannol. 

Mae gwasanaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud rhywbeth maen nhw'n ceisio'i gyflawni. Gall gwasanaeth cyhoeddus nad yw'n gweithio i'r defnyddiwr fod yn rhwystredig iddyn nhw, ychwanegu at yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, a chreu problemau difrifol yn eu bywydau bob dydd.  

Er enghraifft, efallai y byddant yn methu apwyntiad gofal iechyd pwysig, yn peidio â chasglu eu gwastraff, neu'n colli allan ar gymorth ariannol i helpu i dalu costau byw.  

Mae rhoi defnyddwyr wrth wraidd dylunio yn helpu i greu gwasanaethau mwy cynhwysol, hygyrch ac effeithiol yn gyffredinol. 

Mae gwasanaethau cyhoeddus da yn gweithio'n dda i bawb, yn enwedig y rhai sydd eu hangen fwyaf. 

Beth sy'n gwneud gwasanaeth cyhoeddus da?

Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru yn disgrifio sut olwg sydd ar wasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru. 

Mae gwasanaeth cyhoeddus da wedi'i gynllunio ar gyfer y bobl sy'n ei ddefnyddio.  

Golyga hyn ei fod yn: 

  • gwneud yr hyn y dylai mewn ffordd sy'n gweithio i bobl 
  • helpu defnyddwyr i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud 
  • adlewyrchu sut mae pobl yn defnyddio ac yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus 

Mae gwasanaethau da yn: 

  • hygyrch a chynhwysol 
  • cost-effeithiol ac effeithlon 
  • hawdd dod o hyd iddynt, eu deall a'u defnyddio 
  • glir, yn gyson ac yn gyfarwydd 

Deallwch bwysigrwydd gwasanaethau cost-effeithiol ac effeithlon yn: Cymru ffyniannus - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Cynnwys cysylltiedig 

Deall dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Mae dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn dechrau gyda deall y bobl fydd yn defnyddio'r gwasanaeth. Mae'n sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu hadeiladu o amgylch anghenion defnyddwyr, nid rhagdybiaethau. 

Gall sicrhau bod gwasanaethau yn: 

  • datrys problemau neu heriau defnyddwyr o'r dechrau 
  • arbed amser, ymdrech a chostau 
  • hygyrch, yn reddfol ac yn hawdd i'w defnyddio 
  • adlewyrchu sut mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cael mynediad at gymorth 

Mae UCD yn allweddol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio. Mae'n ymwneud â dylunio gwasanaethau o amgylch ei ddefnyddwyr, gan gynnwys eu: 

  • hymddygiad a'u cymhellion 
  • anghenion a'u heriau 
  • cyd-destun a'u hamgylchedd  

Mae UCD yn ffordd o drin a thrafod problemau a dod o hyd i atebion. Mae'n: 

  • feddylfryd 
  • proses 
  • dull o weithio
  • ymarfer 

Dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel meddylfryd 

Mae UCD yn ffordd o feddwl a mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd.  

Mae'n canolbwyntio ar:  

  • ddeall ac eirioli ar gyfer eich defnyddwyr, a'u hanghenion 
  • herio eich rhagdybiaethau  
  • nodi patrymau, cyfleoedd ac atebion posibl 
  • symleiddio cymhlethdod 
  • gwneud penderfyniadau gwell 

Darllenwch Sut mae bod yn ‘canolbwyntio ar y defnyddiwr'? - astudiaeth achos i ddysgu mwy

Dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel proses 

Fel proses, mae UCD yn ailadroddol ac yn cynnwys:  

  • ymchwilio i nodi, dysgu a deall yr heriau 
  • creu syniadau i archwilio a diffinio atebion posibl 
  • prototeipio i ddatblygu a phrofi atebion posibl 
  • cyflwyno'r datrysiad a'i brofi i ailadrodd o adborth 

Mae Diemwnt Dwbl y Cyngor Dylunio yn darlunio camau'r broses ddylunio ac arloesi, ni waeth pa ddulliau neu offer rydych chi'n eu defnyddio. 

Wrth ddylunio gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn aml yn ei fapio ar y camau cyflawni ystwyth - GOV.UK

Dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr fel dull

Mae amrywiaeth o ddulliau a thechnegau adnabyddus y gallwch eu haddasu i'ch gwaith, gan gynnwys: 

  • mapio 
  • delweddu 
  • taflu syniadau 
  • prototeipio 
  • dweud stori  

Mae'r dull a'r offer cywir yn dibynnu ar eich prosiect, anghenion a nodau penodol. 

Cynnwys cysylltiedig 

Pwysigrwydd dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Mae'r dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn eich galluogi i: 

  • ddangos empathi tuag at eich defnyddwyr a'u hanghenion 
  • deall y problemau rydych chi'n ceisio eu datrys 
  • gwneud penderfyniadau gwell a gwybodus 
  • symleiddio cymhlethdod mewn systemau a phrosesau 
  • herio eich rhagdybiaethau 
  • creu cyd-ddealltwriaeth 

Trwy ddylunio'ch gwasanaethau o amgylch eich defnyddwyr a'u hanghenion, rydych chi'n adeiladu rhywbeth sy'n: 

  • gweithio iddyn nhw 
  • datrys y broblem gywir 
  • datrys y broblem yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol ac effeithlon 

Mae hefyd yn atal gwasanaeth gwael rhag effeithio ar eich sefydliad drwy: 

  • fuddsoddi mewn rhywbeth nad yw'n gweithio 
  • difrodi eich enw da 
  • cynyddu costau, er enghraifft wrth ymdrin â cheisiadau am gymorth 
  • achosi i bolisi fethu â chyflawni ei nodau 

Mae defnyddio dull UCD yn helpu i ddatblygu ac adeiladu gwasanaethau cyhoeddus da sy'n gweithio. 

Darllenwch Gwasanaethau Gwastraff - dangos gwerth dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ddysgu mwy.

Cynnwys cysylltiedig 

Dylunio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Mae'r sector cyhoeddus yn amgylchedd cymhleth ar gyfer dylunio, a ffurfiwyd gan sefydliadau, gwasanaethau, timau a pholisïau cysylltiedig. 

Yn aml, nid oes gan ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ddewisiadau eraill a gallant fod mewn sefyllfa fregus. Dyna pam ei bod yn bwysig darparu gwasanaethau sy'n gweithio iddyn nhw.  

Wrth ddylunio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, rhaid i chi gydbwyso: 

  • anghenion defnyddiwr 
  • bwriad polisi 
  • nodau sefydliadol ac adrannol 
  • gofynion dwyieithog 
  • cyfyngiadau technolegol ac ariannol 

Nid yw dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn ymwneud â gwneud i bethau edrych yn bert yn weledol, mae'n ymwneud â gwneud i wasanaethau weithio i'r bobl sy'n eu defnyddio. Mae'n rhoi defnyddwyr wrth wraidd gwasanaethau, fel eu bod yn gweithio i bawb.  

Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn golygu creu'r amodau ar gyfer dylunio a chydweithio gwell ar draws sectorau a systemau. 

Troi polisi yn wasanaethau 

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn bodoli i ddarparu polisi. 

Os nad yw blaenoriaethau'r llywodraeth yn troi yn wasanaethau clir y gellir eu defnyddio, gall effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl. 

Dyma rai polisïau a deddfwriaethau penodol sy'n dylanwadu ar wasanaethau yng Nghymru: 

Mae pobl sy'n darparu gwasanaethau yn cysylltu rhwng llunwyr polisi a defnyddwyr gwasanaethau.  

Mae UCD yn darparu profiadau cyson a defnyddiol i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw ac i'r llywodraeth, gan arwain at ganlyniadau gwell i bawb. 

Cynnwys cysylltiedig 

Cyflwyno dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr mewn ffordd ystwyth

Nid yw dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) a'r dull gweithio ystwyth yr un peth.  

Mae UCD yn ddull sy'n helpu timau i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr trwy becyn cymorth a dulliau. 

Mae'r dull ystwyth yn fframwaith ar gyfer rheoli prosiectau sy'n caniatáu i dimau adeiladu a phrofi syniadau mewn camau bach, gan wneud y broses yn haws i'w rheoli, ei ailadrodd a'i haddasu lle bo angen.  

Gall ffyrdd ystwyth o weithio: 

  • helpu i dorri prosiectau yn gamau bach y gellir eu rheoli 
  • caniatáu i dimau ddysgu ac addasu wrth weithio ar brosiect 
  • gwella gwasanaethau dros amser 

Rhagor o wybodaeth am gyflawni prosiectau ystwyth 

Sut mae'r dull ystwyth yn cefnogi dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr 

Mae'r dull ystwyth yn helpu UCD i ganolbwyntio ar ddarparu pethau defnyddiol yn gyflym, dysgu gan ddefnyddwyr a gwneud gwelliannau cynyddol. 

Yn hytrach nag aros tan y diwedd, gall timau archwilio pethau wrth weithio, ac os nad yw rhywbeth yn gweithio, gallant ei adnabod yn hawdd. Mae hyn yn golygu y gallant ddatrys problemau yn gyflym heb wastraffu amser nac ymdrech, gan ddiwallu anghenion defnyddwyr trwy adborth a gwelliant rheolaidd.  

Darganfyddwch pryd i ddefnyddio'r cam ystwyth, a'r Camau a seremonïau ystwyth. 

Cynnwys cysylltiedig