Nod y prosiect
Roeddem am ddeall profiadau cleifion, meddygon teulu a staff perthnasol o faes gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru. Roedden ni am ddeall hyn o safbwynt rhyngweithio'n ddigidol yn benodol.
Y broblem i'w datrys
O ganlyniad i COVID-19, rydym wedi gorfod rhyngweithio gyda’n meddyg teulu o bell. Mae hyn wedi cynyddu’r angen am wasanaethau gofal iechyd digidol da.
Trwy ddeall gofynion cleifion a darparwyr gofal iechyd yn drylwyr, byddai GIG Cymru yn gallu gwneud penderfyniadau da wrth ddatblygu math o wasanaethau i’r cyhoedd.
Partneriaid
Noddwr y prosiect oedd Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a'r Cyhoedd.
Hefyd yn rhan o'r ymchwil roedd:
- defnyddwyr a darparwyr systemau digidol sy’n wynebu cleifion, gan gynnwys Fy Iechyd Ar-lein
- meddygon teulu a nyrsys practis meddygon teulu, rheolwyr a staff gweinyddol
Crynhoi'r gwaith
Y ‘cyfnod darganfod’ yw cam ymchwilio cyntaf cynllun gwasanaeth dylunio Ystwyth, sef y dull graddol o adeiladu gwasanaethau y mae CDPS yn ei hyrwyddo. Mae’r cyfnod darganfod yn cynnwys deall anghenion posibl defnyddwyr y gwasanaeth - cam hanfodol cyn ystyried ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.
Fel rhan o’r cyfnod darganfod, gwnaeth CDPS gyfweld â’r defnyddwyr a’r darparwyr y soniwyd amdanynt uchod am eu:
- profiadau gofal sylfaenol blaenorol
- canfyddiadau o ofal sylfaenol
- agweddau tuag at dechnoleg
Rhoddodd y sgyrsiau yma fewnwelediad i’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n derbyn ac yn darparu gofal sylfaenol yng Nghymru. Fe wnaeth y mewnwelediadau hynny ein helpu i greu darlun o dirwedd gofal sylfaenol ehangach Cymru, gan ystyried bwriad polisi a safbwyntiau rhanddeiliaid eraill, megis safbwyntiau asiantaethau’r llywodraeth y tu hwnt i ofal iechyd.
Dyna fydd y cyd-destun y bydd gwasanaethau digidol newydd i gleifion yn bodoli. Ar ddiwedd y cyfnod darganfod, roeddem yn gallu gwneud argymhellion gwybodus – cydbwyso anghenion defnyddwyr, buddiannau ehangach rhanddeiliaid a strategaeth y llywodraeth – ynglŷn â’r ffyrdd gall y gwasanaethau hynny eu cymryd yn y dyfodol.