Deall yr her
Mae cynllunio yn hanfodol i’n cymunedau. Mae’n ein hamddiffyn rhag datblygiadau gwael, yn arwain sut mae ein trefi a’n dinasoedd yn esblygu, ac ie- mae hyd yn oed yn atal eich cymydog rhag rhwystro golau naturiol gydag estyniad rhy fawr!
Ond mae cynllunio yn dibynnu ar haenau o gyfreithiau, deddfwriaeth a pholisiau cymhleth a all fod yn heriol i bobl eu llywio. Nod ein prosiect oedd deall yr heriau hyn a nodi’r datrysiadau.
Pam y gwnaethom ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
Rydym yn rhoi pobl wrth wraidd ein hymchwil- o berchnogion tai sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu estyniad, i swyddogion cynllunio sy’n prosesu ceisiadau. Trwy ddeall profiadau pawb gallwn greu gwelliannau ystyrlon.
Ein proses ymchwil
Yr hyn a wnaethom:
Cynnal ymchwil bwrdd gwaith cynhwysfawr ar draws gwefannau cynllunio cynghorau lleol
Nodi a siarad â rhanddeiliaid allweddol trwy gydol y system gynlluio
Ymgynghori ag arbenigwyr cynllunio i gael mewnwelediadau dyfnach
Mynychu Ysgol Aeaf Cynllunio Digidol yng Nghaerdydd i archwilio offer digidol arloesol
Yr hyn a ddarganfuom:
Mae'r system gynllunio yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol:
Cyfyngiadau adnoddau: Anawsterau recriwtio a chadw arbenigwyr cynllunio
Rhwystrau technoleg: Systemau TG hen ac aneffeithlon
Anghysondeb: Dulliau gwahanol ar draws awdurdodau cynllunio lleol
Cymhlethdod: Gwybodaeth sy’n anodd i ddefnyddwyr ei ddeall
Materion ansawdd: Safon gwael llawer o geisiadau cynllunio
Bylchau cyfathrebu: Heriau rhannu gwybodaeth yn effeithiol gyda’r cyhoedd
Adborth cyfyngedig: Ychydig o gyfleoedd i ddefnyddwyr rhoi mewnbwn
Diffyg ymddiriedaeth: Amheuaeth gyhoeddus ynghylch prosesau cynllunio
Dryswch taliadau: Ffioedd a dulliau talu aneglur
Ein hargymhellion
Er mwyn gwneud cynllunio yn fwy hygyrch ac effeithiol, rydym yn argymell:
Gwella’r broses ddigidol am gais cynllunio
Bydd gwella’r system am gais cynllunio yng Nghymru yn symleiddio’r broses ymgeisio, gan arbed amser ac adnoddau wrth gyflymu penderfyniadau. Mae diffyg glasbrint o’r gwasanaeth ar y dechrau ar diwedd,yn enwedig o ran dibyniaeth ar llif data ar draws adrannau neu sefydliadau.
Gwella profiad defnyddiwr
Mae tystiolaeth digonol bod gwella rhyngwedd a chynnwys y gwasanaeth gynllunio yn debygol o wella effeithlonrwydd a lleihau cyswllt gyda ACLl.
Symleiddio’r polisi iaith
Mae system gynllunio Cymru yn cael ei effeithio gan bolisïau lluosog a all weithiau wrthdaro neu fod â gofynion gwrthwynebol ar y gwasanaethau cynllunio. Er enghraifft, gall polisïau amgylcheddol dynnu i gyfeiriad gwahanol i fynd i'r afael â’r stoc dai yng Nghymru- mae gan gynllunwyr rôl anodd i lywio ac yna cyfathrebu hyn yn glir.Gall symleiddio’r iaith mewn polisi neu pan fydd polisi yn dylanwadu’n uniongyrchol ar wneud penderfyniadau heb golli pwysigrwydd y pwyntiau sy’n cael eu gwneud, wella ymddiriedaeth a dealltwriaeth o fewn natur gymhleth gwasanaethau cynllunio.
Buddsoddi mewn technoleg
O’r arolygiad cychwynnol (nid oedd y darganfyddiad hwn yn cwblhau plymio’n ddwfn i'r pentwr technoleg), byddem yn argymell adolygiad a gweithio i ddeall a gwella’r defnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â llawer o’r materion a’r pwyntiau pryder a nodwyd yn yr ymchwil hon.
Hyfforddiant a chefnogaeth i'r timau cynllunio
Thema gyson o fewn yr ymchwil oedd y datgysylltiad rhwng timau cynllunio a digidol neu dechnolegol. Cafwyd adborth uniongyrchol hefyd am sgiliau o fewn timau cynllunio. Rydym yn argymell gwella hyfforddiant a chyfathrebu ar gyfer swyddogion cynllunio i greu cyfleoedd i swyddogion cynllunio ddatblygu datrysiadau ar y cyd.
Beth nesaf
Rydym yn symud ymlaen trwy ganolbwyntio ar gam cyn-ymgeisio y broses cynllunio. Rydym yn partneru â Llywodraeth Cymru a thri awdurdod lleol: Caerdydd, Bro Morgannwg a Gwynedd.
Yn ein cam nesaf byddwn yn:
Mapio’r daith cyn-ymgeisio o’r dechrau i’r diwedd
Deall sut mae’r cam cynnar hwn yn cysylltu â’r broses gyllunio llawn
Nodi anghenion penodol ymgeiswyr ac awdurdodau cynllunio
Targedu pwyntiau pryder allweddol ar gyfer gwelliant
Datblygu cynnyrch hyfyw i fynd i’r afael â materion critigol
Ein nod yw creu datrysiadau y gellir eu rhannu ledled Cymru, gan wneud cynllunio yn fwy hygyrch, effeithlon a syml i bawb ei defnyddio.