Cyflwyniad
Croeso i'r cwrs!
Trawsgrifiad o'r fideo
Shwmae, Ebonie ydw i.
Shwmae James ydw i. Rydym yn Ddylunwyr Hyfforddiant a Dysgu yma, yng Nghanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Byddwn yn hyfforddi gyda chi drwy gydol eich cwrs.
Croeso i Digidol ac Ystywth: Y Sylfeini
Yn y cwrs hwn, byddwn yn ymdrin â'r canlynol:
- beth rydym yn ei olygu wrth siarad am "Ddigidol"
- y manteision a ddaw yn sgil digidol, yn enwedig pan fyddwn yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- cymhariaeth o ddau ddull cyflawni poblogaidd; Rhaeadr ac ystwyth
- Teclyn i'ch helpu i benderfynu pa ddull sydd orau i'ch cyd-destun
Cwrs wedi'i recordio ymlaen llaw yw hwn sy'n eich galluogi i ddysgu ar eich cyflymder eich hun. Mae hyn yn golygu bod yr holl gynnwys ar gael i chi. Gallwch weithio arno ar unrhyw adeg. Mae'n cynnwys cymysgedd o fideos, erthyglau, cwisiau a gweithgareddau ymarferol.
Rydym yn amcangyfrif y dylai gymryd tua 1.5 i 2.5 awr ar gyfartaledd i gwblhau'r cwrs.
Wrth i chi weithio drwy'r tasgau, bydd cyfleoedd i gymhwyso eich dysgu i'ch rôl.
Bydd angen i chi gwblhau'r gwiriadau gwybodaeth cyn ac ar ôl y cwrs. Bydd y rhain yn mesur eich cynnydd, sydd ei angen i ennill eich bathodyn cwblhau.
Tasg
Cwblhewch yr gwirio gwybodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni faint ydych chi'n ei ddeall am y maes ar hyn o bryd.