E-lyfr Mynediad i Bawb am ddim
Diolch am ymweld! Isod mae e-lyfr am rhad ac am ddim, Mynediad i Bawb: Cynhyrchion hygyrch, cymunedau a thechnolegau cynorthwyol, sy’n anelu at eich helpu i ddylunio gwasanaethau a thechnoleg sy’n fwy hygyrch.P’un a ydych chi newydd ddechrau ar eich taith neu’n chwilio am ffyrdd o gryfhau eich dull strategol, bydd y llyfr yma'n eich helpu i wneud hygyrchedd yn rhan graidd o’ch arweinyddiaeth, eich creadigrwydd, a’ch twf.Mae’r llyfr yn cynnwys rhagair arbennig gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
E-lyfr Ysgrifennu Triawd am ddim
Isod mae e-lyfr Ysgrifennu Triawd, rhad ac am ddim, sydd a'i nod ar eich helpu i ddylunio gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog gwell. Wrth baratoi'r llyfr hwn, mae pobl wedi dweud wrthym, er eu bod yn cymryd yn ganiataol bod llawer o gynnwys Cymraeg a welant yn gywir, o'i profiad hwy, mae angen i gynnwys Cymraeg fod yn haws. Mae iaith yn y bôn yn beth pobl, ac mae angen i ni roi pobl wrth wraidd yr holl gynnwys rydyn ni'n ei greu – yn y ddwy iaith.
E-lyfr Ysgrifennu Triawd am ddim
Diolch i chi am ymweld! Isod mae e-lyfr Ysgrifennu Triawd, rhad ac am ddim, sydd a'i nod ar eich helpu i ddylunio gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog gwell. Wrth baratoi'r llyfr hwn, mae pobl wedi dweud wrthym, er eu bod yn cymryd yn ganiataol bod llawer o gynnwys Cymraeg a welant yn gywir, o'i profiad hwy, mae angen i gynnwys Cymraeg fod yn haws. Mae iaith yn y bôn yn beth pobl, ac mae angen i ni roi pobl wrth wraidd yr holl gynnwys rydyn ni'n ei greu – yn y ddwy iaith.
Ein llyfryn
Mae ein llyfryn ar-lein yn esbonio sut y gallwn eich cefnogi orau – gwasanaethau cyhoeddus Cymru – a pha offer ac adnoddau sydd gennym eisoes ar gael am ddim.
Cymunedau ymarfer
Daw ein cymunedau ymarfer â phobl ynghyd yn rheolaidd, i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod syniadau a ffurfio rhwydweithiau i gefnogi datblygiad proffesiynol. Does dim cost yn gysylltiedig â bod yn rhan ohonynt a byddem wrth ein bodd yn cael adborth gennych.
