6. Bod â pherchennog gwasanaeth sydd wedi’i rymuso
Fe ddylai fod un perchennog gwasanaeth wedi’i rymuso sydd â’r awdurdod i wneud yr holl benderfyniadau busnes, cynnyrch a thechnegol am wasanaeth.
Mae’r un unigolyn yn atebol ac yn gyfrifol am ba mor dda y mae’r gwasanaeth yn bodloni anghenion ei ddefnyddwyr, a dyna sut bydd ei lwyddiant yn cael ei werthuso.
Dysgwch fwy am berchnogion gwasanaethau yn GOV.UK.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae perchennog gwasanaeth yn gyfrifol am y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, a allai gynnwys llawer o gynhyrchion a sianeli digidol ac all-lein.
Efallai y bydd ychydig o bobl yn gyfrifol am wasanaeth, ond mae’n rhaid i un unigolyn gael ei rymuso i gynrychioli anghenion defnyddwyr.
Sut i ddechrau arni
Dylech:
- wneud yn siŵr bod uwch arweinwyr wedi ymrwymo i ffyrdd digidol o weithio a bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyfleu o’r brig i lawr – mae angen i werth ffyrdd digidol o weithio gael ei gydnabod ar bob lefel yn y sefydliad
- amlygu perchennog gwasanaeth – fe allai hwn fod yn uwch arweinydd mewn sefydliad sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys sawl cynnyrch a sianel
- egluro canlyniadau’r gwasanaeth a’i fuddion i ddefnyddwyr a’r sefydliad
- gwneud yn siŵr bod map trywydd ar gyfer y gwasanaeth a chyllid priodol ar waith i ganiatáu i’r tîm fodloni anghenion defnyddwyr
7. Sefydlu tîm amlddisgyblaethol
Mae gwasanaethau’n cael eu creu gan dimau. Fe ddylai pob un fod yn gymysgedd amrywiol o bobl, profiad, arbenigedd a disgyblaethau.
Yn ogystal â bod â’r cymysgedd iawn o sgiliau a phrofiad ar gyfer pob cam o ddylunio a chreu’r gwasanaeth, fe ddylai eich tîm allu newid dros amser.
Mae angen i chi hefyd wybod beth fyddai cost tîm sy’n gyfrifol am welliant parhaus y gwasanaeth.
Pam mae hyn yn bwysig
Bydd arnoch angen y sgiliau iawn yn y tîm i wneud penderfyniadau effeithiol a chyflawni’n gyflym.
Nid oes modd cael rolau penodol bob amser pan fydd sefydliadau’n dechrau ar eu taith ddigidol. Ond mae’n bwysig deall yr amrywiaeth eang o sgiliau sy’n angenrheidiol ar wahanol gamau datblygu.
Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd o sgiliau digidol, fel:
- ymchwil defnyddwyr
- dylunio gwasanaeth
- dylunio cynnwys
- rheoli cynnyrch
Bydd arnoch angen arbenigwyr pwnc hefyd. Gallai’r rhain fod yn arbenigwyr busnes neu gyfreithiol, neu’n ymarferwyr fel gweithwyr cymdeithasol neu athrawon, yn dibynnu ar ba fath o wasanaeth rydych yn ei greu.
Sut i ddechrau arni
Bydd angen i chi:
- ddeall diben y gwahanol ddisgyblaethau sy’n angenrheidiol mewn timau digidol a sefydlu timau gyda hyn mewn golwg
- meddwl am yr angen am sgiliau eraill, er enghraifft arbenigwyr caffael, cyfreithiol neu fusnes, a gwneud yn siŵr eu bod ar gael i’r tîm pan fydd angen
- gwneud yn siŵr bod yr arbenigwyr hyn a’r tîm datblygu yn gweithio gyda’i gilydd bob dydd i ddeall a dileu cyfyngiadau
Os nad oes pobl yn eich sefydliad sy’n meddu ar y sgiliau hyn, bydd angen i chi brynu cymorth digidol arbenigol. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy’r Farchnad Ddigidol neu GwerthwchiGymru.
Bydd hyn yn helpu cynyddu gallu a sgiliau mewnol trwy weithio gydag arbenigwyr.
8. Ailadrodd a gwella’n aml
Defnyddiwch ddull datblygu cyflym, fesul cam i roi meddalwedd ymarferol yn nwylo defnyddwyr cyn gynted â phosibl, mor aml â phosibl. Bydd hyn yn helpu timau i ailadrodd yn gyflym, yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae angen i wasanaethau esblygu law yn llaw â dealltwriaeth well o anghenion defnyddwyr. Mae cyflwyno gwasanaeth i ddefnyddwyr cyn gynted â phosibl yn rhoi adborth i’r tîm ar y pethau sy’n gweithio a’r pethau y mae angen iddynt newid. Mae gallu gwella’r gwasanaeth yn barhaus yn golygu y gallwch ymateb i newidiadau ymhlith defnyddwyr neu mewn technoleg neu bolisi’r llywodraeth.
Sut i ddechrau arni
Dylech:
- ddefnyddio ffyrdd Ystwyth o weithio i gefnogi dull cyflwyno fesul cam
- defnyddio prototeipiau i brofi syniadau newydd gyda defnyddwyr, er mwyn cael gwybod yn rhad ac yn rhwydd beth sy’n helpu i ddatrys y broblem
- rhyddhau cynnyrch gweithredol sy’n bodloni angen defnyddwyr cyn gynted â phosibl – dechreuwch â’r fersiwn leiaf o ran gwerth (cynnyrch hyfyw lleiafsymiol) i’w chyflwyno i ddefnyddwyr a’i phrofi, yna ailadrodd dro ar ôl tro
- profi defnyddioldeb gyda defnyddwyr yn rheolaidd i weld beth sy’n gweithio a pha welliannau y mae angen eu gwneud
- meddwl am sut bydd y gwasanaeth yn parhau i ymateb i anghenion newidiol defnyddwyr
9. Gweithio’n agored
Gwnewch y gwasanaethau rydych yn eu creu, a’r technegau a ddefnyddiwyd i’w creu, mor agored â phosibl.
Wrth i chi ddatblygu gwasanaeth, fe ddylai eich tîm gyfleu’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud a rhannu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu.
Dylech hefyd rannu cod a phatrymau dylunio mor rhydd â phosibl er mwyn helpu eraill sy’n creu gwasanaethau cyhoeddus.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae diwylliant agored a chydweithredol o fewn a rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus yn helpu i rannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau cyson.
Sut i ddechrau arni
Dylech:
- fod yn weladwy o fewn eich sefydliad a’r tu allan iddo – cynhaliwch sesiynau ‘dangos a dweud’ rheolaidd ac ysgrifennwch flog am y daith, nid dim ond y canlyniad ar y diwedd
- dathlu llwyddiannau a bod yn agored am yr hyn a ddysgwyd o bethau nad oeddent wedi gweithio cystal
- cyhoeddi cod ffynhonnell, data ac arteffactau eraill pan fydd hynny’n ddiogel