1. Canolbwyntio ar lesiant pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol

Dylai timau gwasanaeth gael eu hysgogi gan ganlyniadau sydd o fudd i bobl Cymru, nid gan restrau o ofynion technegol.

Dylech ystyried cenedlaethau’r dyfodol a meddwl am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Dylai gwasanaethau gyfrannu at 7 nod llesiant Cymru.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn am ffordd newydd o feddwl am sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu. 

Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i wella llesiant pobl Cymru ac yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.  

Sut i ddechrau arni

Defnyddiwch adnoddau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddeall effaith ehangach eich gwasanaeth. 

Mae’r Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cwestiynau i’w hystyried wrth ddylunio gwasanaeth newydd neu gynllunio newid i wasanaeth.

2. Dylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg

Mae’n rhaid i wasanaethau yng Nghymru fodloni anghenion pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Mae angen i chi ddylunio a chreu gwasanaethau sy’n hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ac yn trin pobl sy’n ei siarad yn gydradd â phobl sy’n siarad Saesneg.
Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar hybu’r Gymraeg.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau pob dydd. Mae’n rhan o’n hunaniaeth fel cenedl.

Mae’n rhaid i ni ddylunio gwasanaethau sy’n rhoi hyder i siaradwyr Cymraeg eu defnyddio yn Gymraeg.

Sut i ddechrau arni

Gwnewch gynnwys Cymraeg yn ganolog i ddatblygu’ch gwasanaeth o’r dechrau. Peidiwch â dechrau ystyried agweddau Cymraeg ar y gwasanaeth ar ôl y broses ddylunio.

Profwch gynnwys Cymraeg gyda defnyddwyr cyn gynted ag y gallwch. Mae angen i’r Gymraeg a ddefnyddiwch, a’r ffordd y mae defnyddwyr yn defnyddio gwasanaeth Cymraeg, ffurfio rhan o’ch cynllun profi defnyddioldeb.

Dyluniwch ddatrysiadau technegol gydag anghenion defnyddwyr Cymraeg mewn cof. Ystyriwch anghenion Cymraeg wrth brynu meddalwedd a gwasanaethau gan werthwyr. Dyluniwch fanylebau gan ddefnyddio’r canllawiau hyn ar gyfer profiad dwyieithog da i ddefnyddwyr.

3. Deall defnyddwyr a’u hanghenion

Mae’n rhaid i wasanaeth gael ei ddylunio yn unol ag anghenion defnyddwyr, pwy bynnag yw’r defnyddwyr hynny. Mae anghenion defnyddwyr yn bwysicach na’r ffordd y mae sefydliad wedi’i strwythuro neu’r dechnoleg y mae’n ei defnyddio ar hyn o bryd.  
Edrychwch ar daith y defnyddiwr o’r dechrau i’r diwedd, gan ddeall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau, boed hynny ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Mae gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pawb, felly mae’n rhaid i chi ystyried hygyrchedd. 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae deall defnyddwyr a’u hanghenion yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer gwasanaeth.

Mae gwneud gwaith ymchwil yn uniongyrchol gyda defnyddwyr yn lleihau’r perygl o wastraffu amser ac arian yn creu rhywbeth nad yw’n cael ei ddefnyddio neu sy’n achosi problemau mwy i ddefnyddwyr.

Mae dysgu am y bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaeth yn newid y pwyslais o feddwl am ddatrysiadau i ganolbwyntio ar y problemau go iawn y mae angen eu datrys.

Mae’n eich helpu i wneud penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth am y ffyrdd symlaf a mwyaf cost-effeithiol o fodloni anghenion defnyddwyr. 

Sut i ddechrau arni

Cyn buddsoddi mewn cynnyrch digidol newydd, dylech:

  • weithio gydag ymchwilydd defnyddwyr i wneud gwaith ymchwil ansoddol gyda defnyddwyr er mwyn dysgu am eu profiad o’r gwasanaeth, eu hanghenion a’r problemau maen nhw’n eu hwynebu 
  • defnyddio ffynonellau eilaidd i ddysgu am ddefnyddwyr, gan gynnwys dadansoddeg y we, data canolfan alwadau a chyfweliadau â staff rheng flaen 
  • gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn helpu defnyddwyr i gyflawni eu nod yn y ffordd symlaf posibl fel y gallant lwyddo’r tro cyntaf 
  • parhau i brofi’r gwasanaeth gyda defnyddwyr wrth iddo gael ei ddatblygu, gan ddatrys unrhyw faterion defnyddioldeb ar y cyfle cynharaf 
  • cynnwys gofynion defnyddioldeb a hygyrchedd yn y tendr os ydych yn caffael cynnyrch neu dîm digidol gan werthwr

Darllenwch sut i ymchwilio i’ch defnyddwyr a’u hanghenion.

4. Darparu profiad cydgysylltiedig

Mae gwasanaethau nad ydynt yn gydgysylltiedig yn anodd i bobl eu defnyddio.
Mae angen i’r gwasanaethau a ddarparwch weithio’n ddi-dor pa ffordd bynnag y mae defnyddwyr yn cael gafael arnynt er mwyn iddynt gael profiad cyson.

Trefnwch dimau mewnol i gefnogi’r gwasanaeth a bodloni anghenion defnyddwyr. 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae’n rhaid i chi ddeall taith y defnyddiwr, a sut mae’r defnyddiwr yn mynd trwy bob sianel gyfathrebu a sefydliad, i ddylunio gwasanaethau sy’n gwneud synnwyr ac sy’n gyson.

Sut i ddechrau arni 

Mapiwch brofiad y defnyddiwr o’r gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd, gan nodi ble mae angen i’r defnyddiwr ryngweithio â sianeli digidol ac all-lein gwahanol.

Dylai dylunwyr ac ymchwilwyr defnyddwyr weithio gyda thimau gweithrediadau i adolygu a gwneud newidiadau i’r sianeli eraill hyn, fel y bo’r angen. 

Cymerwch gyfrifoldeb am weithio gyda sefydliadau eraill ar rannau gwahanol o daith y defnyddiwr fel bod y gwasanaeth yn gydlynol ac yn bodloni anghenion defnyddwyr ar bob cam.

Defnyddiwch ddata ac adborth defnyddwyr o bob sianel i fireinio a gwella’r gwasanaeth a chynyddu defnydd digidol.   

5. Sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth

Fel arfer, nid oes dewis arall yn lle defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, felly mae’n rhaid iddynt weithio i bawb.

Dyluniwch wasanaethau i fod yn gynhwysol, gan wneud yn siŵr bod unrhyw un y mae angen iddo eu defnyddio yn gallu gwneud hynny mor rhwydd â phosibl. Mae cynnwys defnyddwyr sy’n aml yn cael eu hallgáu o wasanaethau yn gwneud y gwasanaethau hynny’n haws i bawb eu defnyddio. 

Pam mae hyn yn bwysig

Mae cynhwysiant digidol yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd a chael at wasanaethau.

Mae bod yn ddigidol alluog yn bwysig i gael at waith, addysg, gofal iechyd a gwybodaeth diogelwch cyhoeddus. Mae’r grwpiau sy’n fwyaf tebygol o gael eu hallgáu’n ddigidol yn cynnwys pobl â lefelau addysgol neu incwm is, yr henoed a phobl ag anableddau.

Y rhesymau mwyaf cyffredin pam nad yw pobl yn gallu mynd ar-lein yw cost technoleg neu fand eang a diffyg sgiliau digidol.  

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud bod rhaid i chi beidio ag allgáu grwpiau gwarchodedig rhag cael at wasanaethau cyhoeddus. Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018 yn dweud bod rhaid i chi sicrhau bod gwasanaethau digidol yn cydymffurfio â safon gyson o hygyrchedd. 

Sut i ddechrau arni  

Dylech: 

  • amlygu pwyntiau lle y gallai gwasanaeth allgáu grwpiau penodol o ddefnyddwyr, a chynorthwyo’r grwpiau hyn yn well 
  • siarad â grwpiau sy’n cael eu hallgáu, a’u recriwtio ar gyfer ymchwil a phrofion defnyddwyr 
  • gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n defnyddio’r un eirfa â defnyddwyr, i wneud pethau’n rhwydd i unrhyw un eu deall 
  • rhoi cymorth digidol i ddefnyddwyr â sgiliau digidol isel neu fynediad cyfyngedig
  • cyhoeddi dogfennau fel tudalennau HTML yn ddiofyn yn hytrach na ffeiliau PDF, sy’n llai hygyrch ac yn defnyddio mwy o ddata
  • gwneud eich gwasanaethau digidol yn hygyrch i ddefnyddwyr anabl 

Er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus 2018, mae’n rhaid i wasanaethau digidol: